Image and intro
Cydlynydd Prosiectau a Darlithydd Cymraeg
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
E-bost: a.karadog@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Rydw i’n gweithio ar amrywiol brosiectau addysgiadol ac ieithyddol sy’n rhan o arlwy Peniarth. O waith cyfieithu, prawf-ddarllen i greu adnoddau.
Fel darlithydd rydw i wedi dysgu ar y Cwrs Sabothol ac rwy’n ddarlithydd cyfredol ar y cwrs BA Addysg fel tiwtor Cymraeg. Rydyn ni’n cynnig sesiynau gloywi iaith i fyfyrwyr gan hefyd gyflwyno methodoleg dysgu iaith a gramadeg i’r myfyrwyr ei drosglwyddo i’w gyrfaoedd fel athrawon.
Cefndir
Wedi cyfnod o bron i ddegawd yn gweithio yn y cyfryngau Cymraeg gyda chwmni Tinopolis, yn cyflwyno ac ymchwilio ar raglenni fel Wedi 7, Heno, Siaradog a Sam ar y Sgrîn, es i yn ôl i’r byd academaidd i wneud PhD mewn ysgrifennu creadigol Cymraeg. Yn ogystal â gyrfa yn y cyfryngau, rydw i wedi bod yn gweithio fel bardd, awdur ac ymarferwr creadigol ers 2005 ac wedi bod yn Fardd Plant Cymru (2013-2015) yn ogystal â chyhoeddi hanner dwsin o gyfrolau o’m gwaith fy hun a chyfieithu dwsin o lyfrau i blant.
Ymunais â’r Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg ym mis Gorffennaf, 2021 gan weithio’n rhan amser i’r Brifysgol yn ogystal â pharhau i weithio fel bardd.