Image and intro
Uwch ddarlithydd Addysg
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: 01267 676795
E-bost: n.ryder@uwtsd.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Darlithio ar gyrsiau BA Addysg Gynradd gyda SAC, MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)
- Arolygu traethodau hir ar y cyrsiau MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) ac MA Lles a Dysgu Proffesiynol
Cefndir
Penderfynodd Nanna ddychwelyd i astudio ar ôl magu teulu a gweithio mewn ysgolion meithrin a chynradd yng Ngheredigion fel cynorthwyydd dysgu am nifer o flynyddoedd. Dilynodd radd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar a chwrs TAR (Cynradd) yng Ngholeg y Drindod ac yna bu’n athrawes gynradd am gyfnod mewn ysgol gynradd wledig yng Ngheredigion. Fe’i penodwyd yn ddarlithydd yn yr Ysgol Astudiaethau Addysg a Chynhwysiant Cymdeithasol yn 2008. Yn rhan o’i rôl bu’n darlithio ar y cwrs Astudiaethau Addysg a’r Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Cynhwysol i Gynorthwywyr Addysgu ar y campws yng Nghaerfyrddin ac mewn lleoliadau ym Mhowys a Sir Benfro.
Yn 2010 derbyniodd gymrodoriaeth gan yr Academi Addysg Uwch i ddatblygu’r ddarpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig cyfrwng Cymraeg o fewn y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant. Yn dilyn hynny bu’n ffocysu ar y ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles ar y cyrsiau BA Addysg Gynradd gyda SAC a’r TAR Cynradd ac Uwchradd yng Nghanolfan Addysg Athrawon De-orllewin Cymru, gan gyfrannu yn ogystal at fodylau yn ymwneud ag astudiaethau proffesiynol, y Cyfnod Sylfaen a mathemateg a rhifedd.
Ar hyn o bryd mae’n addysgu ar y cwrs BA a chyrsiau MA yn y Ganolfan yn ogystal â gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil.
Diddordebau Academaidd
- Addysgu ac arwain modylau ar y llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ECEW7002/7009/7010) a’r modwl Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles(ECEW7005) ar y rhaglen MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)
- Arolygu traethawd hir ar y rhaglen MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru)
- Arolygu traethawd hir MA Lles a Dysgu Proffesiynol (ECGE7002P)
- Addysgu ac arwain modwl lefel 6 ar y rhaglen BA (ECAD6013/C)
- Cyfrannu tuag at ddarlithoedd is-raddedig ac ôl-raddedig yn y meysydd canlynol:
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Hawliau plant
- Lles emosiynol a chymdeithasol
- Iechyd a Lles yn y Cwricwlwm i Gymru
Meysydd Ymchwil
Ar gyfer ei gradd Meistr, bu Nanna yn ymchwilio i anawsterau iaith myfyrwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg a’r gefnogaeth ar eu cyfer yn ogystal â sut i gefnogi bechgyn ag anawsterau iaith penodol a dyslecsia. Testun traethawd hir ei doethuriaeth yw ‘Beth yw canfyddiadau athrawon, cynorthwywyr cynnal dysgu a dysgwyr Cyfnod Allweddol Dau (7-11 oed) am les emosiynol a chymdeithasol yng nghyd-destun Cwricwlwm i Gymru?’
Rhwng 2017 a 2019 bu’n aelod o’r prosiect ymchwil CAMAU Y prosiect CAMAU | UWTSD mewn cydweithrediad â Phrifysgol Glasgow, gan weithio ar gynnydd o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Ers 2022 mae’n uwch ymchwilydd ar y prosiect dilynol, sef CAMAU i’r Dyfodol Camau ir Dyfodol | University of Wales Trinity Saint David (uwtsd.ac.uk), gan gydweithio eto gyda Phrifysgol Glasgow wrth edrych ar y modd y mae ysgolion yng Nghymru yn dehongli ac yn ymgorffori cynnydd o fewn y cwricwlwm.
Mae hefyd yn gweithio ar brosiect gyda Phrifysgol Glyndŵr, Wrecsam a NAEL, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar ddatblygu adnoddau dysgu proffesiynol i ysgolion yn seiliedig ar y Fframwaith Llesiant Emosiynol a Meddyliol.
Arbenigedd
- Anghenion Dysgu Ychwanegol a chynhwysiant plant a phobl ifanc
- Anawsterau Dysgu Penodol (Dyslecsia)
- Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth
- Lles emosiynol a chymdeithasol plant
- Llais a hawliau plant
- Iechyd a lles yn y Cwricwlwm i Gymru