Skip page header and navigation

Natalie MacDonald LLB, MA, PGCertHE, FHEA

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Prif Ddarlithydd

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: 01267676602
E-bost: natalie.macdonald@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Mae Natalie MacDonald yn Brif Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Academaidd Cynorthwyol ar gyfer Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’n aelod gweithgar o’r Rhwydwaith Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru, gan gydweithio â sefydliadau’r trydydd sector a’r llywodraeth i wella ansawdd addysg plentyndod cynnar.

Mae diddordebau ymchwil Natalie yn canolbwyntio ar rôl oedolion mewn addysgeg sy’n seiliedig ar chwarae, datblygu cysyniadau, polisi addysg a dysgu proffesiynol. A hithau ar hyn o bryd yn dilyn Doethuriaeth mewn Addysg, mae ei hymchwil yn archwilio effaith polisïau addysg a gofal blynyddoedd cynnar ar arfer.

Cefndir

Daw Natalie MacDonald â chyfoeth o brofiad mewn addysg a gofal plentyndod cynnar, ar ôl gweithio mewn lleoliadau nas cynhelir yn Dechrau’n Deg ac ysgolion. Mae ganddi brofiad helaeth o gefnogi plant a theuluoedd o gefndiroedd amrywiol.

Mae gan Natalie radd yn y Gyfraith a gradd Meistr mewn Datblygu a Chwarae Therapiwtig. Mae hi ar hyn o bryd yn cwblhau ei Doethuriaeth mewn Addysg. Mae’n weithgar gyda sefydliadau blaenllaw, a gynhelir a nas cynhelir, yn y sector addysg a gofal cynnar yng Nghymru, ac yn ymroddedig i godi proffil addysg blynyddoedd cynnar.

Aelod O

  • Cymrawd yr AAU
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru (Ymddiriedolwr)
  • Rhwydwaith Graddau Astudiaethau Plentyndod Cynnar – Cynrychiolydd grŵp PAWS Cymru.
  • Aelod o Grŵp Cynghori Safonau Cymwysterau (QSAG)
  • BERA

Diddordebau Academaidd

Mae Natalie MacDonald yn arwain ac yn addysgu ar draws rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys goruchwylio ymchwil ôl-raddedig. Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys datblygu’r cwricwlwm, asesu, addysgeg a chwarae, datblygu cysyniadau, rôl oedolion mewn addysg, a pholisi addysg.

Meysydd Ymchwil

Mae Natalie MacDonald yn ymchwilydd profiadol sy’n fedrus mewn methodolegau ansoddol a meintiol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn archwilio polisi trwy Ddadansoddi Disgwrs a Dadansoddi Pragmatig Cynaniadol. Mae ymchwil Natalie yn canolbwyntio’n bennaf ar arfer y blynyddoedd cynnar, yn enwedig yn y sector nas cynhelir, fel yr adlewyrchir yn ei chyhoeddiadau academaidd a’i chyflwyniadau mewn cynadleddau.

Arbenigedd

Mae Natalie MacDonald yn gwasanaethu ar y Grŵp Cynghori ar Ddysgu Sylfaen ac yn cynrychioli sefydliadau addysg uwch ar y Grŵp Cynghori ar Safonau Cymwysterau. Mae’r rolau hyn yn rhoi cipolwg cynhwysfawr iddi ar y sector blynyddoedd cynnar a’i anghenion datblygu yn y dyfodol. Mae hi hefyd wedi cyfrannu at weithgorau Llywodraeth Cymru, gan ddatblygu canllawiau galluogi dysgu’r blynyddoedd cynnar ar gyfer y Cwricwlwm Newydd i Gymru a llunio’r cwricwlwm ar gyfer y sector a ariennir nas cynhelir.

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

  • Arweinydd Ymchwil PCYDDS ar gyfer ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Drefniadau Asesu Lleoliadau Meithrin a Ariennir Nas Cynhelir.
  • Arweinydd Tîm PCYDDS ar ddatblygu rhestri chwarae ac adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwricwlwm Lleoliadau Meithrin a Ariennir Nas Cynhelir.
  • Cydlynydd a datblygwr dysgu proffesiynol pwrpasol ar gyfer y blynyddoedd cynnar a sectorau cysylltiedig, gan gynnwys hyfforddiant ar Ymlyniad, Cyd-feddwl Parhaus, a gwyddoniaeth trwy chwarae yn y Blynyddoedd Cynnar.
  • Trefnydd a darparwr gweithdy ar gyfer Cynhadledd Materion y Blynyddoedd Cynnar, a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2016.
  • Prif ymchwilydd ar astudiaethau achos yn ymwneud ag ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned, gan gynnwys cyfweliadau, grwpiau ffocws, trawsgrifiadau, a datblygu astudiaethau achos gydag ysgolion.
  • Arweinydd tîm ymchwil Cyd-feddwl Parhaus PCYDDS, gan oruchwylio prosiectau ymchwil parhaus yn y maes hwn.

Cyhoeddiadau

Gwybodaeth bellach

  • Ymddiriedolwr Blynyddoedd Cynnar Cymru
  • Is-gadeirydd Rhwydwaith Blynyddoedd Cynnar
  • Mae Natalie wedi cyflwyno mewn cynadleddau BERA, ac EECERA ar sawl achlysur yn gysylltiedig â chyhoeddiadau a phrosiectau ymchwil parhaus.