Skip page header and navigation

Patrick Rees

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Arweinydd Modwl a Darlithydd

Athrofa Rheolaeth ac Iechyd


E-bost: patrick.rees@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Arweinydd Modwl ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch Parodrwydd am Argyfwng ac Amddiffyn Sifil

Cefndir

Ymunodd Patrick â gwasanaeth ambiwlans y GIG yn 1990 a symudodd ymlaen trwy ystod o rolau gweithredol, gan gynnwys parafeddyg gweithredol, yn ogystal â rolau goruchwylio a rheoli.

Ers 2002, mae e wedi bod yn rhan o rolau parodrwydd am argyfwng, gwydnwch, ac ymateb (EPRR), gan ennill profiad ar lefel leol, Cymru gyfan a’r DU. Mae ganddo gymwysterau a phrofiad comander gweithredol, tactegol, a strategol yn ogystal â’i fod wedi bod yn Swyddog Cyswllt Rhyngasiantaeth Genedlaethol (NILO), yn Ymgynghorydd Tactegol Cyfathrebu ac yn hwylusydd ôl-drafod hyfforddedig.

Mae ganddo brofiad helaeth o weithio mewn rolau parodrwydd am argyfwng, mewn cyd-destun gwasanaethau sengl ac aml-asiantaeth. Mae Patrick wedi bod yn rhan o nifer o ddigwyddiadau proffil uchel yng Nghymru, rhai wedi’u cynllunio a rhai digymell.

Yn athro cymwysedig a chanddo dros ugain mlynedd o brofiad, mae e wedi addysgu rheolaeth digwyddiadau mawr i recriwtiaid newydd, hyfforddiant gorchymyn i gomanderiaid gweithredol, tactegol a strategol, yn ogystal â staff yr ystafell reoli. Mae hefyd wedi bod yn hyfforddwr Egwyddorion Gallu i Ryngweithredu’r Cyd-wasanaethau Brys (JESIP) ers cyflwyno’r JESIP yn 2013 ac ef oedd yr arweinydd  darparu gweithredol ar gyfer Hyfforddiant JESIP yn ei wasanaeth a bu’n offerynnol wrth ddatblygu hyfforddiant aml-asiantaeth a weithredwyd fesul cam i ymgorffori egwyddorion cydweithio effeithiol ar draws y sefydliadau ymatebwyr brys. Bu’n rhan o’r grŵp a ailedrychodd ar drydydd cyhoeddiad y Cyd-egwyddorion: Y Fframwaith Gallu i Ryngweithredu.

Am bron i bedair blynedd, cafodd Patrick ei secondio i rôl EPRR Cymru gyfan, yn gweithio ar ran y gwasanaethau brys, i ddatblygu’r agenda EPRR strategol ymhellach gan weithio gyda phartneriaid traws-sector, gan gynnwys y Llywodraeth.

Yn ystod y secondiad hwn, gweithiodd ar lefel Cymru gyfan a’r DU gan ymdrin â materion EPRR strategol, gan gadeirio nifer o grwpiau Cymru gyfan, yn cynnwys yr un sy’n gyfrifol am ddylunio, darparu, ac adolygu hyfforddiant ac ymarfer digwyddiadau mawr Cymru gyfan.

Ar hyn o bryd, mae ar secondiad i rôl Cymru gyfan, yn gweithio ar ran yr holl wasanaethau brys yng Nghymru, sy’n cynnwys rheoli risg, cynllunio wrth gefn, gwydnwch a diogelwch.

Mae Patrick yn angerddol am addysgu a datblygu staff a gall ddod â’i brofiad o gynllunio, ymateb ac adfer ar gyfer argyfyngau sifil posibl i achosion bryd i’r dosbarth i gynorthwyo wrth gyfoethogi addysg academaidd broffesiynol o ymarferwyr proffesiynol EPRR.

Aelod O

Mae Patrick yn aelod o’r Gymdeithas Cynllunio at Argyfyngau (EPS).

Diddordebau Academaidd

  • Parodrwydd am Argyfwng ac Ymateb
  • Cyd-egwyddorion Gallu i Ryngweithredu’r Gwasanaethau Brys (JESIP)
  • Hyfforddiant ac Ymarfer Digwyddiadau Mawr
  • Adrodd yn ôl / Dysgu Gwersi

Meysydd Ymchwil

  • Parodrwydd am Argyfwng ac Ymateb
  • Cyd-egwyddorion Gallu i Ryngweithredu’r Gwasanaethau Brys (JESIP)
  • Hyfforddiant ac Ymarfer Digwyddiadau Mawr
  • Adrodd yn ôl / Dysgu Gwersi

Arbenigedd

  • Gorchymyn
  • Gwaith aml-asiantaeth
  • Cyd-egwyddorion Gallu i Ryngweithredu’r Gwasanaethau Brys (JESIP)