Image and intro
Darlithydd Cysylltiol mewn Perfformiad Lleisiol
Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru
Ffôn: 01267 676767
Rôl yn y Brifysgol
Addysgu 1 i 1 a darlithoedd grŵp ar Repertoire Lleisiol
Cefndir
Fe’i ganed yng Nghymru, astudiodd Philip ym Mhrifysgol East Anglia a’r Academi Gerdd Frenhinol cyn cychwyn gyrfa sydd wedi mynd ag ef dros y byd i gyd. Mae wedi canu gyda’r BBC Singers, y Tŷ Opera Brenhinol, Kent Opera, Village Opera, Pocket Opera a Volante Opera. Mae wedi perfformio mwy na deg ar hugain o rolau ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru yn cynnwys Dancaire Carmen, Marchese La traviata, Ping Turandot, Fiorello The Barber of Seville, Yeletsky Queen of Spades, Cappadocian Salome, Father & Sandman Hansel & Gretel, a’r Novice’s Friend yn Billy Budd.
Mae Philip yn canu’n rheolaidd gyda chymdeithasau corawl ledled y wlad mewn repertoire eang yn cynnwys The Messiah (Handel), Elijah (Mendelssohn), The Kingdom (Elgar), St. John Passion (Bach), St. Matthew Passion (Bach), Carmina Burana (Orff), a Requiem Brahms, Duruflé, Fauré, Mozart a Verdi.
Mae ei recordiadau’n cynnwys The Complete Songs of AA Milne Harold Fraser-Simson, Abendröte Schubert a rolau yn The Yeomen of the Guard a HMS Pinafore (Telarc), The Children of Hurin, The Fall of Gondolin a Fëanor (Prima Facie), Osud Janacek (EMI), Doctor of Myddfai Maxwell Davies (Collins Classics), Ping Turandot ar gyfer cyfres o operâu animeiddiedig S4C, a Faust Wagner i Channel Four.
Aelod O
- Pwyllgor Cynghorol Live Music Now Cymru
- Equity (Cadeirydd Corws Opera Cenedlaethol Cymru)
Diddordebau Academaidd
- Bu’n darlithio ym Mhrifysgol Abertawe ac yn addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ymuno â’r staff addysgu yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru am 12 mlynedd.
- Mae’r addysgu yn WAVDA yn cynnwys hyfforddiant lleisiol 1 i 1 a dosbarthiadau repertoire ar amryw fodylau.
Meysydd Ymchwil
Fy niddordebau ymchwil presennol yw Canu Saesneg, Canu Cymraeg, Lieder a chyfansoddiadau ar gyfer y llais a phedwarawd llinynnol.
Arbenigedd
- 40 mlynedd o brofiad yn berfformiwr ac athro.
- Gwybodaeth helaeth o’r repertoire.
- Rwy’n gerddor proffesiynol gweithredol sy’n perfformio mewn ystod eang o genres: opera, opereta, oratorio, sioeau cerdd, a cherddoriaeth Eglwysig, datganiadau, beirniadu. Dosbarthiadau meistr, gweithdai, a recordiadau.
- Addysgu yn y genres clasurol a theatr gerddorol. Mae disgyblion blaenorol wedi perfformio yn y West End, ar Broadway, a gyda Chwmnïau Opera ledled y wlad.