Skip page header and navigation

Dr Rhys Kaminski-Jones BA, MA, PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Cymrawd Ymchwil

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS)


Ffôn: 01970 636543 
E-bost: rhys.kaminski-jones@cymru.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Gwaith ymchwil a darlithio.

Cefndir

Mae gwaith Rhys Kaminski-Jones yn canolbwyntio ar gysylltiadau llenyddol rhwng Cymru, Lloegr a’r gwledydd Celtaidd eraill yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r cyfnod Rhamantaidd, ar y berthynas rhwng Celtigrwydd, Prydeindod a’r Ymerodraeth Brydeinig, ac ar hybu deialog rhwng Astudiaethau Celtaidd a disgyblaethau academaidd eraill. Ymunodd Rhys â’r Ganolfan Geltaidd fel cymrawd ôl-ddoethurol yn 2018, er mwyn cychwyn prosiect ymchwil ar yr awdur Rhamantaidd William Owen Pughe dan nawdd yr Academi Brydeinig.

Yn ogystal â hyn, mae Rhys yn gweithio ar fonograff dan y teitl Reframing Welsh Revivalism: True Britons and Celtic Empires, 1707–1819. Dengys y llyfr hwn i ba raddau yr oedd adfywiaeth Geltaidd y ddeunawfed ganrif yn fodd i awduron o Gymru eu lleoli eu hunain ar lwyfan y genedl Brydeinig newydd ac yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig. Mae’r gyfrol – sy’n seiliedig ar ymchwil archifol newydd ac ar destunau yn y Gymraeg a’r Saesneg—yn amlygu pwysigrwydd neilltuol yr adfywiad Celtaidd yng Nghymru, ond yng nghyd-destun anhepgor ei gysylltiadau Prydeinig, rhyngwladol ac ymerodraethol.

Ceir cyhoeddiadau gan Rhys yn Trafodaethau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Romanticism, The Review of English Studies ac O’r Pedwar Gwynt. Bydd yn siarad yn aml mewn cynadleddau academaidd, a chyfwelwyd ef ar BBC Radio Cymru ynglŷn â’i ymchwil. Mae’n croesawu cwestiynau ynglŷn â’i waith, o’r tu mewn neu o’r tu allan i’r byd academaidd.

Diddordebau Academaidd

Mae gan Rhys ddiddordeb arhosol yn yr adfywiaeth Geltaidd o c.1700 hyd heddiw, ac yn y berthynas rhwng llenyddiaethau Saesneg a Cheltaidd. Ef yw’r prif diwtor ar y modylau canlynol:

‘Creiriau’r Dadeni Celtaidd (HPCS5011C/6011C)’

‘Adfywio’r Celtiaid (HPCS7007C)’

Bu hefyd yn dysgu ar y modylau canlynol: ‘Study and Research Methodology (CYCS7014)’, ‘Myths Made Modern: The Mabinogion in Contemporary Hands (HPCS5002)’ a ‘The Celtic Arthur and the Matter of Britain (CYCS7021)’.

Cyhoeddiadau

gydag Erin Lafford (goln.), Romanticism, rhifyn arbennig (i ymddangos 2021/2)

gydag Erin Lafford, ‘Change of air: introduction’, Romanticism, rhifyn arbennig (i ymddangos 2021/2)

‘ ‘‘Floating in the Breath of the People”: Ossianic mist, cultural health, and the creation of Celtic atmosphere, 1760–1815’, Romanticism, rhifyn arbennig (i ymddangos 2021/2)

‘William Owen Pughe and Romantic rewritings of the poetry of Llywarch Hen’, The Review of English Studies (i ymddangos 2021)

Adolygiad: Elizabeth Edwards (gol.), Richard Llwyd: Beaumaris Bay and Other Poems (Nottingham: Trent Editions, 2016), Romanticism, 26, no. 3 (2020), 305–6

gyda Francesca Kaminski-Jones (goln.), Celts, Romans, Britons: Classical and Celtic Influence in the Construction of British Identities (Oxford: Oxford University Press, 2020)

gyda Francesca Kaminski-Jones, ‘Introduction’, yn eidem, Celts, Romans, Britons, 1–19

Adolygiad: Jeff Strabone, Poetry and British Nationalisms in the Bardic Eighteenth Century: Imagined Antiquities (London: Palgrave Macmillan, 2018), The Review of English Studies, 70, no. 296 (2019), 775–7

‘ “Where Cymry united, delighted appear”: The Society of Ancient Britons and the celebration of St David’s day in London, 1715–1815’, Trafodaethau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 23 (2017), 56–68