Skip page header and navigation

Ruth M Groff BSc, MPS, MA, BACP, FHEA

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Darlithydd Cwnsela

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: 01792 482106 
E-bost: ruth.groff@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Cyfarwyddwr Rhaglen – MA Theori ac Ymchwil Cwnsela Uwch

Cefndir

Rwyf wedi bod yn rhan o’r Disgyblaethau Cwnsela a Seicoleg yn Y Drindod Dewi Sant Abertawe ers 2009, gan addysgu ar raglenni seiliedig ar sgiliau ac arfer israddedig ac ôl-raddedig.

Rwy’n aelod Cofrestredig ac Achrededig o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP). Ers 2005, rwyf wedi bod yn arfer fel cwnselydd mewn amrywiaeth o asiantaethau cymunedol gwirfoddol. Mae gen i ddiddordeb arbennig ym maes cwnsela bugeiliol, ysbrydolrwydd ac arferion adferol ac yn mwynhau gweithio’n agos gyda phrosiectau cymunedol llawr gwlad.

Rwy’n meddu ar Radd Meistr mewn Astudiaethau Bugeiliol (MPS) ac MA mewn Cwnsela Bugeiliol gan Brifysgol Loyola, Chicago, UDA. Rwyf wedi ennill Tystysgrifau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ym meysydd Ysbrydolrwydd, Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, a Therapi Mynegiannol Creadigol. Yn ddiweddar, rwyf hefyd wedi ennill Diploma Ôl-raddedig mewn Ymchwil Addysg.

Cyn cymhwyso’n Gwnselydd, roedd fy ngwaith proffesiynol ym maes rheoli rheolwyr achos ar gyfer rhaglen tai cefnogol dielw yn Chicago. Roedd y sefydliad yn cynnig tai i unigolion a theuluoedd oedd, neu a oedd mewn perygl bod, yn ddigartref. Datblygais a rheolais raglenni a oedd yn ymdrin â phroblemau caethiwed, iechyd meddwl, a thrais domestig.

Mae treulio llawer o flynyddoedd yn gweithio gyda’r sector gwasanaeth cymdeithasol a lleoliadau gofal bugeiliol wedi rhoi i mi set o sgiliau unigryw a brwdfrydedd sy’n fy ngalluogi i wneud cyfraniad gwerthfawr i’r gyfadran addysgu yn nisgyblaethau Cwnsela a Seicoleg.

Aelod O

  • Cofrestredig Achrededig BACP
  • BACP Ysbrydolrwydd

Diddordebau Academaidd

Addysgu ar y rhaglenni a ganlyn o fewn y ddisgyblaeth Seicoleg a Chwnsela:

  • BSc Seicoleg a Chwnsela
  • BSc Iechyd Meddwl
  • Rhaglenni seiliedig ar Arfer Seicotherapiwtig MA
  • MA Theori ac Ymchwil Cwnsela Uwch (Cymhwyster di-arfer)

Ymhlith fy niddordeb modwl mae:

  • Sgiliau Cwnsela a Sgiliau Arfer
  • Grwpiau Datblygiad Personol
  • Theori Gwybyddol Ymddygiadol
  • Cefnogi Traethodau Hir MA mewn Cwnsela

Meysydd Ymchwil

  • Cydweithio ar brosiect C-EVOLVE Grant Arloesi Tenovus: datblygu a gwerthuso byd cwnsela rhith-wirionedd ar gyfer pobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan ganser. 2013-2014
  • Gwerthusiad o Hyfforddiant Ymgysylltu â’r Celfyddydau: Theatr Fforwm Cymru a Small World Theatre. 2012-2013.
  • Cyfranogwr ymchwil ar brosiect cronfa ddata ar gyfer y Gymdeithas er Gofal Bugeiliol, Ysbrydol a Chwnsela (APSCC 2008-2009)

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Cefnogi Prosiectau Cymunedol:

  • Hwb Dementia
  • Canolfan Gymunedol Affrica
  • Ffydd mewn Teuluoedd

Cyhoeddiadau

  • Groff, R. a Hancox, C. (2018) ‘Giving Voice to Soul’. Lutterworth   
  • BACP Ysbrydolrwydd: Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain – BACP (Ionawr 2018) tt. 5

Gwybodaeth bellach

  • Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain - Cynhadledd Ysbrydolrwydd BACP: Cyd-gyflwynydd:  ‘Working with Soul’. Tachwedd 2017
  • Cynhadledd Tlodi Cenedlaethol Plant yng Nghymru: Cyd-gyflwynydd: ‘Witnessing the Impact of Poverty on the Emotional and Well-Being of Young People’:   Gweithdy Hambwrdd Tywod Ymarferol. 2017
  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant – Llambed: Cynhadledd Ysbrydolrwydd a Llesiant:  ‘Restoring and Healing Communities’:  Arfer Adferol. Chwefror 2015

Rwy’n ymarferydd sydd â dros 30 blynedd o brofiad o weithio a hwyluso gyda grwpiau mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd, iechyd meddwl, addysg a chymuned.  Mae ‘Bod gyda’ a chaniatáu i ‘lais/leisiau’ gael eu clywed yn ganolog i’m harfer ac ymchwil.