Skip page header and navigation

Taylor Doohan - Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth (BA Hons)

Taylor yn PCYDDS

Taylor 1

Enw: Taylor Doohan

Cwrs: BA (Anrh) Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch Mewn Daearyddiaeth, Technoleg Dylunio A Chelf Gain

Tref eich cartref: Ampthill, Bedfordshire

Profiad Taylor ar BA (Anrh) Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

Taylor 3

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Mae’r ardal wrth marina Abertawe yn lle gwych i astudio ac mae’n brydferth iawn pan fydd yr haul yn machlud dros y dŵr. Mae cyfleusterau’r campws ar gyfer fy nghwrs yn agos iawn at ei gilydd ac i gyd yn hawdd eu cyrraedd.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Fy nylanwad mwyaf yn fy ngwaith dylunio oedd fy athro dylunio Safon Uwch a ddaeth i PCYDDS ac a astudiodd ar yr un cwrs. 

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Rwyf wrth fy modd yn gwneud chwaraeon ac unrhyw weithgaredd cyffrous mae fy ffrindiau yn ei gynnig, rydym wedi dringo mynyddoedd, nofio yn y môr a theithio ledled Cymru.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Pan fyddaf yn graddio rwy’n gobeithio mynd â fy ngwaith dylunio i fyd dylunio teithio moethus; p’un a yw’n uwchgychod neu’n ddyluniadau limwsîn unigryw hoffwn sefyll allan ym myd dylunio trafnidiaeth.

Ar hyn o bryd rwy’n ymgymryd â nifer o brosiectau, yn dylunio ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a chreu ail-gynlluniau gwbl newydd ar gyfer ceir angof y gorffennol ar gyfer cystadlaethau. Mae fy nghwrs a’m darlithwyr gwych wedi helpu i addasu fy ngallu o ran cyflwyno, sgiliau a chreadigrwydd ac rwy’n parhau i wneud hynny wrth i mi ddysgu’r prosesau dylunio proffesiynol

Beth yw eich hoff beth am y cwrs?

Fy hoff beth am fy nghwrs yw’r cyffro cyson a’r ffyrdd newydd ac angerddol o feddwl. Gyda chymaint o feddylwyr beirniadol gwych rydych chi’n cael eich hun yn meddwl mewn ffyrdd newydd ac yn dysgu ffyrdd amgen i ddatrys problemau.

Taylor 2

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn argymell PCYDDS oherwydd y darlithwyr anhygoel, y cyfleusterau gwych a’r hygyrchedd arbennig.

Gwybodaeth Gysylltiedig