Skip page header and navigation

Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS / 100 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol

Mae’r rhaglen Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (BA) (Ardystiad ETS) yn cynnig cymhwyster proffesiynol i fyfyrwyr, a thrwy safbwynt y gwyddorau cymdeithasol mae’n archwilio heriau cyfredol a chyfoes y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, gan gynnwys:

  • Trawma
  • Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
  • Camddefnyddio Sylweddau
  • Llinellau Cyffuriau
  • Hawliau Plant
  • Iechyd a Llesiant
  • Effaith perthnasoedd

Mae’r radd yn cyfuno theori, polisi ac arfer mewn dull cymhwysol er mwyn galluogi graddedigion i fod yn academyddion rhagorol ac yn ymarferwyr rhagorol.

Yn aml tybir bod gwaith ieuenctid yn ‘gyfrinach fawr’, ac mae’n ddull pwerus o gefnogi pobl ifanc i feithrin gwytnwch a dyfeisgarwch ac i gyflawni eu potensial yn llawn. Mae gwaith ieuenctid wedi’i seilio ar ddatblygu perthnasoedd da, cadarnhaol gyda phobl ifanc, ac mae’n gweithredu’n sylfaen i gefnogi pobl ifanc drwy ystod o broblemau. Dyma pam mae proffesiynau eraill yn aml yn ystyried bod y radd mewn gwaith ieuenctid yn gymhwyster i’w ddeisyfu.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
YWS1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS / 100 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cael cymhwyster â chymeradwyaeth broffesiynol a gradd academaidd.
02
Archwilio arfer gyda phobl ifanc a’u cymunedau drwy ymgymryd â chyfleoedd am leoliadau gwaith ieuenctid bob blwyddyn mewn dewis eang o sefydliadau cymunedol ac i bobl ifanc.
03
Paratoi am gyfleodd gwaith megis cyfiawnder ieuenctid, iechyd a llesiant, datblygu cymunedol, menter gymdeithasol a’r heddlu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y radd BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) yn galluogi myfyrwyr i weithio gyda phobl ifanc, cymunedau a theuluoedd, ac i fod yn ymarferwyr sy’n addas i’r diben yn y 21ain ganrif.  Trwy safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, bydd y rhaglen yn archwilio arfer gyda phobl ifanc a’u cymunedau mewn modd cymhwysol, gydag ymrwymiad eglur i gyfiawnder cymdeithasol, arfer gwrth-ormesol, ac wedi’i seilio ar werthoedd ac egwyddorion craidd gwaith ieuenctid.

Mae’r cwrs yn paratoi myfyrwyr i fod yn weithwyr proffesiynol i weithio gyda phobl ifanc ar nifer o broblemau sy’n gyfredol iawn yn y gymdeithas sydd ohoni, megis Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Digartrefedd, Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, Tlodi a Gordewdra ymhlith pobl ifanc, ac mae’n archwilio’r rhain mewn modd cymhwysol, gan dynnu ar ymchwil cyfredol ac arfer gorau er mwyn paratoi graddedigion i fod yn effeithiol ac adfyfyriol iawn yn eu dewis feysydd.

Mae’r rhaglen yn cyd-fynd yn gyflawn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i “ddatblygu a chryfhau darpariaeth benodol wedi’i hanelu at gefnogi a gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc sy’n fwy agored i niwed neu sydd ar y cyrion” (LlC, 2019, t.13).

Gorfodol 

Ymarfer Proffesiynol: Egwyddorion a Chyd-destunau Gwaith gyda Phobl Ifanc

(20 credydau)

Deall y Glasoed

(20 credydau)

Sgiliau Cwnsela, Ymwybyddiaeth Ofalgar ac Ymarfer Therapiwtig

(20 credydau)

Pobl Ifanc a Chymdeithas 1: Eiriolaeth, Grymuso, Cyfranogiad a Hawliau

(20 credydau)

Arfer Gwaith Ieuenctid 1: Paratoi'r Gweithlu

(20 credydau)

Gorfodol 

Ymchwil Cymdeithasol ar gyfer Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Goruchwyliaeth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

(20 credydau)

Does neb yn rhy fach i wneud gwahaniaeth: Gweithio gyda phobl ifanc i greu hinsawdd o newid

(20 credydau)

Pobl Ifanc a Chymdeithas 2: Iechyd Meddwl, Lles a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

(20 credydau)

Ymarfer Gwaith Ieuenctid 2: Datblygu Arfer

(40 credydau)

Gorfodol 

Traethawd Hir

(60 credydau)

Arfer Gwaith Ieuenctid 3: Arwain a Rheoli

(20 credydau)

Pobl Ifanc mewn Ffocws

(20 credydau)

Pobl Ifanc a Chymdeithas 3: Trawma, Camfanteisio a Phlentyndod Gwenwynig

(20 credydau)

Lles a Gwydnwch Pobl Ifanc

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

    • Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu dogfen datgeliad manylach foddhaol ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
    • Gofynion mynediad y rhaglen yw rhwng 80 a 96 pwynt a throsodd, fodd bynnag, mae mynediad i’r rhaglen yn amodol ar deilyngdod yr unigolyn.
    • O ganlyniad i gymeradwyaeth broffesiynol y rhaglen radd, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf 100 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol.
  • Lluniwyd asesiadau i adlewyrchu gofynion y maes, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd eang yn y myfyrwyr. Nid oes unrhyw arholiadau.

  • Gorfodol: 
    Costau DBS.

    Costau Angenrheidiol:
    Costau teithio i ac o leoliadau (un lleoliad ar bob lefel astudio).

    Dewisol:
    Bydd myfyrwyr sy’n penderfynu manteisio ar y cyfle i astudio dramor am un semester ar Lefel 5 yn gorfod talu costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â hyn.  Gall gweithgarwch preswyl posibl ar Lefel 6 gynnwys costau ychwanegol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae cyfle hefyd i fyfyrwyr astudio dramor yn rhan o’u hastudiaethau yn yr ail flwyddyn, yn y Ffindir neu Columbia Brydeinig.

  • O ganlyniad i’w huchelgeisiau wrth wneud cais am le ar y rhaglen radd, mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i waith yn uniongyrchol ym maes gwaith ieuenctid, yn y sector gwirfoddol a’r sector a gynhelir.  Fodd bynnag, mae’r cymhwyster gwaith ieuenctid yn adnabyddus am ei allu i drosglwyddo i feysydd cysylltiedig ehangach, sy’n dangos sut y gellir trosglwyddo’r sgiliau y mae’r graddedigion wedi’u datblygu wrth astudio ar y rhaglen radd i lawer o leoliadau eraill, a’u bod yn sgiliau a groesawir o fewn timau aml-ddisgyblaethol.

    Dyma nifer o enghreifftiau penodol o gyrchfannau graddedigion:

    • Gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb mewn ystod o gyd-destunau gan gynnwys mewn ysgolion, timoedd rhianta corfforaethol, gwaith ôl-16, prosiectau digartrefedd i bobl ifanc gan Awdurdodau Lleol
    • Swyddog Lles Addysg
    • Gweithio gyda sefydliadau gan ganolbwyntio ar faterion yn cynnwys  camddefnyddio sylweddau, prosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc ddigartref ac eraill sy’n canolbwyntio ar fabwysiadu, pobl ifanc sy’n derbyn gofal, ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr
    • Addysg gymunedol
    • Cyfiawnder Ieuenctid
    • Bwrdd Iechyd Lleol
    • Llywydd Undeb y Myfyrwyr
    • Hyfforddwr ac Arweinydd Grŵp PGL Activities
    • Mentor Cymheiriaid Pobl Ifanc i elusen iechyd meddwl genedlaethol
    • Gweithiwr Iechyd Emosiynol i Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Gweithiwr Cymorth CAMHS
    • Cymorth i Deuluoedd ar gyfer pobl ifanc ag anableddau
    • Gweithiwr Ieuenctid ôl-16 i Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Gweithiwr Ieuenctid gyda’r Tîm Rhianta Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Cydlynydd Uned gyda Thîm Gofal Plant mewn Awdurdod Lleol
    • Rheolwr Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Uwch Swyddogion Ieuenctid mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol

    Mae llawer o raddedigion yn penderfynu ymgymryd ag astudio pellach.  Mae rhaglenni MA graddedigion diweddar yn cynnwys:

    • Plant a Phobl Ifanc: Iechyd a Llesiant (MA), PCYDDS
    • Plant a Phobl Ifanc: Hawliau Plant (MA), PCYDDS
    • Cam-drin Menywod a Phlant (MA), Prifysgol Fetropolitan Llundain
    • Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (MA), Prifysgol Abertawe
    • Menter Gymdeithasol (MSc), Prifysgol Stirling 

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau