Skip page header and navigation

Emily Elias - Patrwm Arwyneb a Thecstilau (BA)

Emily Elias yn PCYDDS

Emily Elias 2

Enw: Emily Elias

Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Astudiaethau Blaenorol: Celf a Dylunio Sylfaen yn PCYDDS

Tref eich cartref: Abertawe

Profiad Emily ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau

Emily Elias 1

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Mae Campws Dinefwr mewn lleoliad canolog perffaith yn Abertawe, mae popeth o fewn cerdded pellter. Gyda chlos hardd yng nghefn yr adeilad, a chanddo ddigonedd o seddi a gwyrddni, mae’n ysbrydoledig ac yn dawel a bues i’n manteisio’n llawn arno i astudio ar ddiwrnodau heulog yn Abertawe!

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Ar ôl gweld ehangder y cyfleusterau a’r posibiliadau oedd gan y brifysgol i’w cynnig ar ôl bod yno ar ddiwrnod agored, a gan mai Abertawe yw fy nhref enedigol, roedd yn benderfyniad hawdd.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Tu allan i astudiaethau, rwy’n dwlu ymweld ag orielau, profi gwahanol ddiwylliannau a throchi fy hun mewn fflora a ffawna. Buaswn yn argymell Gardd Fotaneg Singleton yn gryf pan fydd yn ei flodau.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwy’n gobeithio parhau i guradu fy arddull bersonol drwy sefydlu fy hun a’m harferion yn frand, gan fanteisio ar brofiad yn y diwydiant ar yr un pryd.

Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?

 Mae’r cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn brofiad trochol go iawn yn y byd argraffu. Mae lefel y sgiliau technegol a’r wybodaeth a gewch chi o safon diwydiant. Cewch eich annog i fod yn uchelgeisiol. Fy hoff ran o’r cwrs oedd y cyfle i gydweithredu ar friffiau byw gyda chwmnïau anhygoel fel Rolls Royce, MONKI a Patternbank. I enwi ond rhai.   

Emily Elias 2

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Ydy, mae lefel y cymorth allgyrsiol, arweiniad ac ehangder y wybodaeth y byddwch yn eu hennill wrth astudio yma heb eu hail.

Ar ôl gweithio mewn swyddfa am 2 flynedd, yn ystod y cyfnod clo sylweddolais fod bywyd yn rhy fyr i beidio â dilyn eich breuddwydion. Felly, ar ddiwrnod clirio, anfonais e-bost at Georgia McKie, cyfarwyddwr y rhaglen Dylunio Patrymau Arwyneb, cawsom gyfweliad anffurfiol dros y ffôn gan drafod fy hanes addysgol, a dywedodd hithau wrthyf am y cwrs. Roeddwn mor gyffrous i ddechrau’r daith newydd hon. Y diwrnod hwnnw, cefais fy nerbyn i astudio yn y brifysgol ac mae’r gweddill yn hanes! Mae fy nhaith yn destament i sylweddoli nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn eich breuddwydion.

Gwybodaeth Gysylltiedig