Fframwaith Arfer Proffesiynol
Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP)
Croeso i Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP) PCYDDS. Mae’r rhaglen datblygiad proffesiynol hyblyg hon wedi’i chynllunio i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a grymuso dysgwyr i werthfawrogi’r hyn maent wedi’i ddysgu yn y gwaith. Trwy’r fframwaith, gallwch ennill cydnabyddiaeth am yr hyn rydych wedi’i ddysgu drwy brofiadau a chyfoethogi eich sgiliau er mwyn llwyddo yn yr amgylchedd proffesiynol deinamig sydd ohoni.
P’un a ydych yn unigolyn sy’n ceisio twf personol neu’n gyflogwr sy’n awyddus i gyfoethogi medrau’r gweithlu, mae ein fframwaith yn cynnig datrysiadau wedi’u teilwra y gellir eu cymhwyso ar draws pob diwydiant. Gallwch gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn uniongyrchol i’ch gweithle.
Pam dewis Fframwaith Arfer Proffesiynol PCYDDS?
Cwestiynau Cyffredin Arfer Proffesiynol
Cwestiynau Cyffredin am y Fframwaith Arfer Proffesiynol
Mae’r Fframwaith Arfer Proffesiynol (FfAP) yn PCYDDS yn fframwaith dysgu hyblyg ac annhraddodiadol sy’n cefnogi gweithwyr proffesiynol wrth gydbwyso eu hastudiaethau ag ymrwymiadau gwaith a phersonol. Gyda thros 300 o ddysgwyr wedi cofrestru yn 2025, mae’r FfAP yn llwybr cydnabyddedig ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Mae’n darparu darpariaeth ddwyieithog ar draws yr holl raglenni i sicrhau hygyrchedd ar gyfer cymuned o ddysgwyr amrywiol.
Mae’r dudalen Cwestiynau Cyffredin yn cynnig golwg fanwl ar strwythur a manteision y rhaglen a’r gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr, gan dynnu sylw at y modd mae’r FfAP yn hwyluso profiad dysgu cynhwysfawr ac ymarferol.
Nodweddion arbennig u Fframwaith Arfer Proffesiynol
Information about the Professional Practice Framework
Gwybodaeth am y Fframwaith Arfer Proffesiynol
Ystyrir bod profiad proffesiynol o werth mawr, ac nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol arnoch i astudio gyda ni. Mae’r FfAP yn darparu cyfleoedd dysgu dwyieithog sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, ac sy’n hygyrch, yn hyblyg, yn gynhwysol ac yn berthnasol i bob diwydiant.
Pa un a ydych yn awyddus i achredu cymwysterau neu brofiad dysgu wedi’i addasu’n arbennig, mae ein fframwaith yn cynnig hyblygrwydd a chymorth wedi’i deilwra i anghenion eich sefydliad. Llunnir rhaglenni a modylau wedi’u teilwra i ddatblygu twf proffesiynol a gyrru llwyddiant sefydliadol.
Mae’r FfAP wedi’i lunio i wella eich dysgu seiliedig ar waith drwy gydnabod eich profiad a gwella eich sgiliau sy’n berthnasol i’ch gweithle. Archwiliwch ein hamrywiaeth o fodylau, o ddatblygu arweinyddiaeth i hyfforddi a mentora, cydnabod ac achredu dysgu drwy brofiad, astudio annibynnol, prosiectau ymchwil ar ddysgu seiliedig ar waith, a mwy.