Profiad Ioan yn PCYDDS
Profiad Rowan ar y BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd
Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?
Fy hoff beth am gampws IQ yw ei leoliad ar y marina drws nesaf i’r bae. Mae’n dal yn agos i’r dref ac ar wrth y dŵr Mae golygfeydd gwych yma a gallwch chi ymlacio o gymharu â champysau yng nghanol dinasoedd.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Roeddwn i wedi astudio TG yn y coleg o’r blaen, ond doeddwn i ddim yn mwynhau gweithio ar gyfrifiaduron a bod mewn adeilad drwy’r dydd ac felly yn meddwl nad oedd addysg bellach i mi. Ar ôl gweithio am sawl blwyddyn ac yn ymweld â’m ffrindiau yn y brifysgol yn PCYDDS, penderfynais edrych eto ar y brifysgol a dod o hyd i gwrs a fyddai’n fwy addas i’m diddordebau. Dyna sut des i o hyd i’r cwrs amgylcheddol yn Abertawe.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Rwy’n gweithio rhan amser fel garddwr tirwedd ac rwyf wrth fy modd yn gwneud pethau yn yr awyr agored fel heicio a gwersylla yn ogystal â chaiacio. Yn ogystal, rwy’n gwirfoddoli gyda’r ymddiriedolaeth afonydd pan allaf.
Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?
Rwy’n gobeithio cael gyrfa mewn rheolaeth afonydd neu reolaeth ansawdd dŵr er mwyn helpu i ddiogelu ein systemau afonydd bregus yng Nghymru. Hoffwn i weithio yng Nghymru, o bosibl i CNC neu Dŵr Cymru.
Beth yw eich hoff beth am BSc Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd?
Fy hoff beth am y cwrs yw’r gwaith maes cyson rydym yn gwneud y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae llawer o ddysgu ymarferol sy’n llawer mwy effeithiol i mi na ddysgu yn yr ystafell ddosbarth yn unig.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn yn argymell PCYDDS achos mae gan y brifysgol arddull addysgu mwy personol sy’n helpu i gadw fy niddordeb ac mae fy nghyd-fyfyrwyr a staff yn ei wneud yn hwyl ac yn bleserus iawn.