Skip page header and navigation

Matt Battson - Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth (BA)

Matt Battson yn PCYDDS

Matt Battson 3

Enw: Muhammad Aadam Ijaz 

Cwrs: BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch Mathemateg, Ffiseg, Busnes

Tref eich cartref: Worcester

Profiad Matt Battson ar BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

Matt Battson 4

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Mae’r stiwdio dylunio modurol yn lle gwych i weithio ochr yn ochr â’r grwpiau blwyddyn eraill. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr llai profiadol elwa o wybodaeth eraill. Mae gan bob myfyriwr ei ddesg ei hun y gallant ei haddasu, sy’n golygu bod lle cyfforddus i weithio bob amser.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Mae’r niferoedd llai sydd mewn dosbarthiadau yn caniatáu i ddarlithwyr fod yn llawer mwy rhyngweithiol gyda phob myfyriwr, gan roi adborth a darparu cefnogaeth ar lefel llawer yn uwch na phe bai’r dosbarthiadau’n fwy. Mae’r Stiwdio Ddylunio wedi’i lleoli drws nesaf i adrannau fel Peirianneg a Chwaraeon Moduro, sy’n caniatáu cydweithio rhwng adrannau a datblygu gwell mewnwelediad a dealltwriaeth o’r diwydiant modurol na fyddech chi’n ei weld fel arall.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Mae gan gampws SA1 leoliad gwych, yn agos at draeth Abertawe a chanol y dref sy’n rhoi digonedd i chi ei wneud ar ôl darlithoedd. Mae penrhyn Gŵyr yn dafliad carreg i ffwrdd ac mae llawer o draethau a llwybrau arfordirol yno i’ch cadw’n brysur drwy gydol y flwyddyn.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwy’n gobeithio cael gyrfa mewn stiwdio dylunio modurol lle byddaf yn gallu gweld y prosiectau rydw i’n gweithio arnynt yn dechrau o ddim, ac yn dod yn gynhyrchion corfforol sy’n cael eu harddangos ledled y byd.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Mae’r cwrs yn mynd ar daith dramor bob blwyddyn, boed hynny’n wythnos yn Stuttgart i ymweld â chartref Porsche a Mercedes neu’n ymweliad â Sioe Modur Genefa. Mae bob amser yn brofiad gwych a gynigir i bob myfyriwr ar y cwrs.

Matt Battson 5

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn argymell PCYDDS gan nad oes unrhyw gwrs Dylunio Modurol arall yn cynnig nifer cyfatebol o gyfleoedd na lefel o ryngweithio rhwng darlithwyr a myfyrwyr. Mae’r lleoliad ar lannau Abertawe yn berffaith ar gyfer ysbrydoli creadigrwydd ac ar gyfer cael hoe dros y penwythnos.

Gwybodaeth Gysylltiedig