Skip page header and navigation

Muhammad Aadam Ijaz - Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth (BA)

Muhammad Aadam Ijaz yn PCYDDS

Adam

Enw: Muhammad Aadam Ijaz 

Cwrs: BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

Astudiaethau Blaenorol: Safon Uwch mewn Celf, Mathemateg, Ffiseg

Tref eich cartref: Bradford, Gorllewin Swydd Efrog

Profiad Muhammad Aadam ljaz ar BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth

Adam 2

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Mae’n rhaid mai’r cyfleusterau a’r man gweithio a ddarperir yw fy hoff bethau am astudio’r cwrs hwn yn PCYDDS. Mae’r stiwdio dylunio modurol yn ofod gwych i weithio ar y cyd ac yn unigol, gyda chymorth a chefnogaeth tiwtoriaid sydd ar gael yn rhwydd. Mae modelau’r cyn-fyfyrwyr sy’n cael eu harddangos yn ysbrydoli myfyrwyr newydd ac yn gosod y bar iddynt weithio tuag ato. I mi, mae wedi bod yn ddelfrydol dod i adnabod a gweithio gyda chyd-fyfyrwyr o’m grŵp blwyddyn i a grwpiau blwyddyn eraill, yn enwedig y 3ydd flwyddyn yr wyf wedi dysgu llawer ganddynt.

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

gyda’r cwrs. O gymharu â phrifysgolion eraill sy’n cynnig yr un cwrs, roedd yn sefyll allan i mi oherwydd yr argraff a gefais gan staff y cwrs, y campws a straeon llwyddiant gan raddedigion.

Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Tu allan i’m hastudiaethau, rwy’n mwynhau Ffotograffiaeth, Teithio a Snwcer. Dechreuais Ffotograffiaeth Modurol ychydig cyn i mi ddechrau, ac o hynny cefais nifer o gysylltiadau â selogion ceir lleol yn Abertawe. Er ei fod yn hobi i mi, roedd llawer o’r sgiliau a ddysgais trwy’r profiad hwn yn cyd-fynd yn dda â’r cwrs - o atgyffwrdd digidol yn Photoshop i gyfathrebu â chleientiaid.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwy’n gobeithio gweithio o fewn maes pwrpasol o Ddylunio Modurol, lle mae’r ffocws ar brosiectau untro neu gomisiynau arbennig - yn enwedig ar gyfer cyrff cerbydau. Byddwn hefyd wrth fy modd yn herio fy hun a chymryd rhan mewn meysydd eraill o Ddylunio, lle efallai nad yw’r ffocws o reidrwydd ar Drafnidiaeth ond unrhyw beth a fyddai’n caniatáu imi ehangu fy ngorwelion. Ar hyn o bryd rydw i ar fy mlwyddyn lleoliad gydag OLA Electric UK, a ddyfarnwyd i mi trwy fy Mhrosiect Diwydiant yn yr 2il Flwyddyn. Roedd cael yr interniaeth yn golygu llawer o wydnwch a threulio llawer o oriau ychwanegol yn y stiwdio yn rheolaidd, gan gysylltu â’m tiwtoriaid yn amlach nag arfer.

Adam 3

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Byddwn yn argymell PCYDDS yn fawr ar gyfer y BA mewn Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth gan ei fod yn wych o safbwynt cyfleusterau a’r staff sy’n darparu’r cwrs. Mae’r ddau diwtor, Sergio a Vibhor, yn gwneud ymdrech anhygoel wrth ddod â’u harbenigedd a’u profiad gwerthfawr o’r byd gwaith. Maent yn fwy na pharod i fynd tu hwnt i’r disgwyl wrth hyfforddi myfyrwyr ar gyfer amgylchedd y diwydiant, gan lunio cenhedlaeth newydd o Ddylunwyr Modurol.

Gwybodaeth Gysylltiedig