Adfyfyrio ar Leoliad Haf Trawsffurfiol yn Universal Studios, Orlando
Mae Nia Moores, myfyriwr yr ail flwyddyn ar y radd Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn rhannu stori ysbrydoledig ei lleoliad haf yn Orlando, Fflorida, lle treuliodd dri mis trawsffurfiol yn gweithio ym mharc dŵr Volcano Bay gan Universal Studios. Roedd y profiad yn rhan o Taith , rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu, sy’n creu cyfleoedd i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ar draws y byd, cyfleoedd sy’n gallu newid bywydau.

Dywedodd Nia, sy’n hanu o Aberdâr, fod y profiad a drefnwyd drwy Yummy Jobs wedi rhoi blas go iawn ar fywyd yn yr Unol Daleithiau a bu’n fodd hefyd i’w helpu i ddatblygu sgiliau newydd a safbwynt byd-eang.
Yn ystod y lleoliad, gweithiodd Nia yn rhan o’r tîm Bwyd a Diod yn Volcano Bay, gan ymgymryd ag amrywiaeth o rolau o ariannwr a pharatoi bwyd i gogydd cynorthwyol. Roedd ei chyfrifoldebau’n rhai blaen tŷ a chefn tŷ, gan ganiatáu iddi ryngweithio ag ystod amrywiol o westeion a chefnogi’r tîm coginio mewn tai bwyta niferus ar draws y parc.
“Roedd gweithio mewn rhannau amrywiol o’r gyrchfan wedi caniatáu i mi gael profiad ymarferol mewn rolau gwahanol, a oedd yn amhrisiadwy ar gyfer fy natblygiad personol a phroffesiynol,” meddai.
Er iddi wynebu heriau ar y dechrau megis hiraeth, addasodd yn gyflym diolch i grŵp o ffrindiau agos, yr oedd llawer ohonynt hefyd o’r DU.
“Roedden ni i gyd yn wynebau anawsterau tebyg, ond gwnaeth y cyfeillgarwch a adeiladwyd rhyngom ni wahaniaeth enfawr,” esboniodd.
Dywedodd Nia fod ei chyfnod yn Fflorida nid yn unig wedi rhoi hwb i’w sgiliau proffesiynol ond hefyd wedi cynyddu’i hyder a’i theimlad o annibyniaeth. “Agorodd y profiad hwn fy llygaid i’r posibiliadau lu sydd i’w cael ar ôl y brifysgol. Mae fy hyder wedi cynyddu’n aruthrol, ac nawr rwy’n cael cyfweliad hyd yn oed am swydd yn Walt Disney World, a fyddwn i byth wedi ystyried hynny dim ond blwyddyn yn ôl,” meddai.
“Rwy’n teimlo’n llawer mwy annibynnol a galluog nawr. Roedd byw mewn amgylchedd mor wahanol i fy mhentref bach yng Nghymru wedi dysgu llawer i mi, hyd yn oed i lawr i’r pethau bach megis addasu f’acen a dewis o eiriau ychydig i gyfathrebu’n well â phobl o gefndiroedd gwahanol.”
Wrth astudio yn PCYDDS, mae Nia hefyd wedi bod yn ymwneud â’r Prosiect Digwyddiadau Parti Tŷ gydag Arena Abertawe ac mae hefyd wedi gweithio mewn llawer o ddigwyddiadau eraill gan gynnwys cefnogi Cynhadledd Future You gan ITT, a gweithio gyda 4theRegion ar eu cynadleddau Gwyrdd, Start Up ac It’s Your Swansea.
Dywedodd Nia y byddai’n annog myfyrwyr eraill yn gryf i fynd ar ôl lleoliadau tramor, gan bwysleisio’r effaith fawr maent yn gallu ei chael.
“Mae’r profiad hwn wedi rhoi safbwynt unigryw i mi ac agwedd na fydd gan lawer o bobl eraill. Os ydy rhywun yn ystyried lleoliad rhyngwladol, byddwn i’n ei argymell 100%. Nid yn unig mae’n rhoi sgiliau gwerthfawr i chi, ond mae’n eich helpu hefyd i weld y byd mewn golau newydd.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071