Coleg Celf Abertawe yn Dathlu Doniau Ffotograffig Byd-eang yn y Digwyddiad am Lyfrau Lluniau ‘Soft Cover’
Mae’r Adran Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn falch o gyflwyno ‘Soft Cover’, dathliad undydd o’r llyfr lluniau fel cyfrwng deinamig ar gyfer arfer ffotograffig cyfoes. Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener, 2 Mai yn Stiwdio Griffith, Campws Dinefwr.

Yn ganolog i’r digwyddiad ‘Soft Cover’ mae lansio llyfr lluniau argraffiad cyfyngedig newydd, sy’n tynnu sylw at waith deg artist ffotograffig newydd a ddewiswyd trwy alwad agored ryngwladol. Mae’r crewyr dan sylw, sy’n cynnwys myfyrwyr presennol a graddedigion diweddar rhwng 2022 a 2024, yn cynrychioli carfan fyd-eang fywiog sy’n gwthio ffiniau adrodd straeon ffotograffig trwy fformatau llyfrau arloesol.
Drwy gydol y dydd, rhwng 10.30am a 5pm, gall y mynychwyr archwilio amrywiaeth o weithdai cyfranogol, sgyrsiau artistiaid, a thrafodaethau wedi’u curadu, gan gynnwys:
- Gweithdy’r Clwb Llungopïo (10.30am tan 4pm): Cyfle ymarferol i ymwelwyr droi eu delweddau digidol eu hunain yn bamffledi ffisegol, gan ddathlu ethos llyfrau lluniau o greu ar eich liwt eich hun.
- Clwb Llyfrau gyda Camille Relet (11am tan 12pm): Bydd yr ymgeisydd PhD a chyn-fyfyriwr yn Abertawe, Camille Relet, yn rhannu ei hoff lyfrau lluniau a’i mewnwelediadau i botensial naratif y cyfrwng.
- Sgwrs Artist: Tom Pope ar ‘Exterminating Martin Parr’ (1:30am tan 2.30pm) Trafodaeth ddifyr am berfformiad byw pryfoclyd a chyhoeddiad arbrofol Pope, a grëwyd mewn cydweithrediad â’r cyhoeddwyr sy’n gyn-fyfyrwyr, Folium, a’r dylunydd Johanne Lian Olsen.
- Cyhoeddi Soft Cover ac Arddangosfa Lansio (3pm tan 5pm): Uchafbwynt y digwyddiad, sef dadorchuddio’r cyhoeddiad yn swyddogol ac arddangosfa gyfatebol o weithiau dan sylw.
Mae Soft Cover yn parhau â thraddodiad hirsefydlog Coleg Celf Abertawe o hyrwyddo arloesedd o ran llyfrau lluniau. Mae’r digwyddiad yn dod â myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd ynghyd i ddathlu arbrofi ffotograffig a chyfnewid creadigol rhyngwladol.
Meddai Ryan Eynon-Moule, Pennaeth Astudiaethau Ffotograffig Israddedig yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS: “Mae hyn yn fwy na lansio arddangosfa, mae’n ddathliad o’r llyfr lluniau fel cyfrwng ar gyfer mynegi, cydweithredu, a meddwl yn feirniadol. Rydym yn falch o roi llwyfan i’r lleisiau newydd hyn a gwahodd ein cymuned i ddarganfod yr amrywiaeth greadigol a gynrychiolir yn y casgliad ‘Soft Cover’.”
Mae’r digwyddiad am ddim ac yn agored i bawb, ac mae’r brifysgol yn annog presenoldeb o bob rhan o’r campws a’r gymuned ehangach. I gael diweddariadau a chynnwys o’r tu ôl i’r llenni, dilynwch yr Adran Ffotograffiaeth ar Instagram: @ffoto_swansea.
Llun : Stefanie Langenhoven
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071