Colegau addysg bellach yn ymweld â’r Egin.
Yn ddiweddar, bu myfyrwyr o Goleg Ceredigion a Choleg Sir Benfro yn ymweld â Chanolfan S4C Yr Egin ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i ddarganfod y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael o fewn y diwydiannau creadigol yng Ngorllewin Cymru.
“Nod Yr Egin yw tanio egni creadigol a mae croesawu myfyrwyr colegau addysg bellach yn gyfle arbennig i wireddu hyn.” meddai Carys Ifan, Cyfarwyddwr Yr Egin
“Bu’r ddau ymweliad yn gyfle i gynnig hyfforddiant proffesiynol ym maes y cyfryngau, celfyddydau a thechnoleg i fyfyrwyr o Sir Benfro a Cheredigion yn ogystal âg amlygu y cyfleon sydd iddynt yma yng ngorllewin Cymru o ran llwybrau addysg uwch a gyrfa. Hoffwn diolch i’r darlithwyr am y cydweithio rhwydd a hefyd i’r myfyrwyr sydd bob tro yn ein ysbrydoli ni, edrychwn ymlaen at eu croesawu eto yn y dyfodol.”
Cafodd myfyrwyr Technoleg Gwybodaeth o Goleg Ceredigion diwrnod llawn gweithdai a chyflwyniadau difyr wrth ymweld â’r Egin, gan dderbyn cyflwyniad i weledigaeth y ganolfan o feithrin talent, i’r 16 cwmni creadigol sydd wedi ymgartrefu yno, yr adnoddau arloesol yn Yr Egin ac ar gampws y Brifysgol Cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithdy ymarferol dan arweiniad Dr Brett Aggersberg, darlithydd Gwneud Ffilmiau Antur o’r Brifysgol, cyn cael cyfle i archwilio’r ystafell drochi arloesol ar y campws a chlywed gan dîm y Brifysgol am y dechnoleg a’r cyfleoedd sydd ar gael. Gorffennwyd y diwrnod gyda chyflwyniad gan Kevin Davies, Rheolwr Llwyfan a Phlatfform S4C, a rannodd fewnwelediadau gwerthfawr i’w systemau digidol.
Dywedodd Aled Richards, Darlithydd Technoleg Gwybodaeth o Goleg Ceredigion
“Cawsom brofiad ardderchog yn dysgu am sut mae’r Egin yn gweithio a’r busnesau sy’n gweithredu yna, ac roedd yn wych cael profiad ymarferol o greu ffilm a defnyddio’r ystafell trochi.”
Yn ystod mis Hydref, bu Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin, a Lowri Siôn Evans, Cydlynydd Gwd Thing : Sir Benfro, yn ymweld â Choleg Sir Benfro i gyflwyno’r Brifysgol a’r Egin i’r myfyrwyr, gan ddarparu gweithdy creu reels ar gyfer cyfryngau cymdeithasol ynghyd â esbonio amcanion y prosiect Gwd Thing : Sir Benfro (prosiect sydd wedi derbyn £49,952 gan Lywodraeth Prydain drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ddosberthir gan Gyngor Sir Penfro) .
Yn dilyn hynny, gwnaeth myfyrwyr Cynhyrchu Cyfryngau Coleg Sir Benfro dreulio diwrnod llawn yn Yr Egin, gan gymryd rhan mewn cyflwyniadau a gweithdai gyda Stori Cymru a ReThink PR and Marketing, dau gwmni lleol proffesiynol sy’n cydweithio’n agos â’r Ganolfan. Roedd y sesiynau hefyd yn cynnwys cyfraniad gan James Owen, Perchennog Stori Cymru sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr o’r brifysgol, a rannodd ei brofiadau o ddatblygu gyrfa o fewn y sector creadigol yng Ngorllewin Cymru.
Dywedodd Denys Bassett-Jones o Goleg Sir Benfro:
“Roedd y gweithdai’n arbennig iawn ac roedd y myfyrwyr yn bositif iawn am eu profiad. Derbyniodd y myfyrwyr wybodaeth helaeth, ac rwy’n siŵr y byddant yn rhoi’r hyn a ddysgon nhw ddoe ar waith yn eu hasesiadau a’u prosiectau allanol yn y dyfodol. Mae bob amser yn fwy effeithiol pan ddaw’r neges gan rywun arall yn hytrach na ni! Gobeithio y gallwn ddod o hyd i ffyrdd pellach o gysylltu a chydweithio yn y dyfodol.”
Mae’r bartneriaeth rhwng Yr Egin a’r colegau lleol yn parhau i ysbrydoli myfyrwyr drwy ymweliadau o’r fath, i ystyried gyrfa o fewn y diwydiannau creadigol, gan feithrin cysylltiadau gwerthfawr rhwng addysg, diwydiant a chymunedau Gorllewin Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476