Skip page header and navigation

Mae Heddwen Davies a Glenda Tinney yn ddarlithwyr yn PCYDDS ac ers sawl blwyddyn maent wedi bod yn cydweithio i gynnig Gwersyll Natur Haf yn Cynefin, canolfan awyr agored PCYDDS. Mae cydweithio o’r fath yn adlewyrchu llawer o’r cyfleoedd yn y Brifysgol i ddatblygu cysylltiadau ar draws disgyblaethau a sefydliadau gyda Heddwen, darlithydd o’r Sefydliad Rheolaeth ac Iechyd sy’n arbenigo mewn chwaraeon,  iechyd ac addysg gorfforol a Glenda sy’n ddarlithydd o’r Sefydliad Addysg a’r Dyniaethau ac yn arbenigo mewn plentyndod ac addysg.

Children playing in the woodlands

Er gwaethaf eu gwahanol feysydd astudio, mae gan y ddwy angerdd am ddysgu yn yr awyr agored a chefnogi plant a phobl ifanc i gysylltu â’r byd o’u cwmpas mewn ffordd gorfforol, iach, greadigol. Mae’r gwersylloedd haf yn gyfle gwych i weld sut y gall plant ddilyn eu chwilfrydedd a datblygu’n holistaidd wrth gymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar chwarae a phrofiad yn Cynefin.  Er enghraifft, yn y Gwersyll Haf eleni gwnaeth plant ddarganfod llyffant, edrych ar sut y gallent greu cytref morgrug, archwilio bywyd pryfed a phlanhigion, adeiladu amrywiaeth o ffeuau a gwneud diodydd llysieuol. Yn y gorffennol maent hefyd wedi bod yn ymwneud â helfeydd trysor, plotio mapiau a datblygu sgiliau cyfeiriannu sylfaenol, celf sy’n seiliedig ar natur a gweithgareddau crefft natur eraill. Fel mae’r ffotograffau’n dangos, mae’r diwrnodau wedi’u seilio ar ddarganfyddiadau ac maent wedi bod yn ddiddorol iawn – rhywbeth i bawb. 

Meddai Glenda:

 “Mae bod yn rhan o’r gwersylloedd haf hyn yn bleser go iawn. Fel darlithwyr, rydym yn cael cynnal y gwersylloedd haf awyr agored hyn sy’n seiliedig ar natur sy’n rhan o ddarpariaeth Gwersylloedd Haf ehangach y Drindod Dewi Sant. I mi mae’n gyfle hefyd i weithio gyda phlant. Mae profiadau seiliedig ar ymarfer o’r fath yn cefnogi darpariaeth y portffolio rydym yn ei gynnig i’n myfyrwyr israddedig.   

“Mae gennym dystiolaeth uniongyrchol o’r manteision sylweddol a gaiff plant pan fyddant yn cysylltu â’r byd naturiol o’u cwmpas a hefyd yn dod i gysylltiad â rhannau rhydd a chwarae. Mae’n wych hefyd gallu cydweithio â Heddwen a dysgu sut y byddai hi’n ymgymryd â gweithgareddau, sydd eto’n wybodaeth bwysig a all fod o fudd i fyfyrwyr ar draws ystod o gyrsiau.

“Mae profiadau’r plant yng ngwersyll haf Cynefin hefyd yn cefnogi dysg ehangach am gynaliadwyedd, gyda phlant yn gallu canolbwyntio ar ofalu am y planhigion a’r anifeiliaid maen nhw’n dod o hyd iddynt, dysgu sut a ble mae pethau’n tyfu a gweld eu cysylltiad a’u dibyniaeth eu hunain ar y byd naturiol a’u cyfrifoldeb ehangach i fod yn garedig, a gweithio gyda’i gilydd”. 

children playing with wood

Ychwanegodd Heddwen:

 “Mae gallu gwahodd plant ifanc o’n hardal i ddefnyddio’r cyfleusterau gwych yn Cynefin wedi bod yn arbennig. Mae’r ddarpariaeth rydyn ni wedi’i darparu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf drwy Wersyll Cynefin wedi sicrhau bod pob plentyn wedi bod yn rhan o weithgareddau sy’n ystyrlon ac yn werth chweil. Sefydlwyd hyn ar y dechrau gan gydweithiwr, Dr Andy Williams, sydd wedi ymddeol o’r Drindod Dewi Sant ers hynny. Rwy’n falch iawn o’r gwersylloedd hyn ac yn falch bod rhai o’n myfyrwyr Addysg Antur Awyr Agored (OAE) hefyd wedi elwa o fynychu ac arwain rhai o’r gweithgareddau a gynigir. 

“Ar ben hynny, mae Glenda a minnau’n siarad Cymraeg ac felly mae ein darpariaeth yn ddwyieithog. Y gobaith yw y bydd mwy o rieni ac athrawon yn clywed am y ddarpariaeth.  Bwriedir cynnal y gwersyll nesaf dros Y Pasg ”. 

Wrth symud ymlaen, mae Heddwen a Glenda yn gobeithio y gall cydweithio o’r fath gefnogi mwy o fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau ymarfer eu hunain, lle gallant ddod i gefnogi darpariaeth gwersylloedd haf ac ennill profiad pwysig yn y dyfodol.  Mae tîm Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg y Brifysgol eisoes yn edrych ar ffyrdd eraill o weithio mewn partneriaeth er enghraifft gyda modylau o raglen llythrennedd corfforol y Brifysgol, SKIP Cymru, sy’n cael eu cynnig yn rhan o raglenni wedi’u hail-ddilysu ar gyfer 2026. 

a child digging a hole

Mae’r gwersylloedd haf hefyd yn tynnu sylw at fanteision safle Cynefin yn y Drindod Dewi Sant ar gyfer amrywiaeth o brofiadau awyr agored ac ymgysylltu â’r byd naturiol gyda’r gofod hwn yn cynnig mannau llesiant a dysgu pwysig i fyfyrwyr, staff a grwpiau cymunedol, gan gynnwys teithiau cerdded natur a gweithdai drwy Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin sydd wedi’u cynllunio i ennyn diddordeb y gymuned leol yn ogystal â staff a myfyrwyr. Mae’r graddau Addysg Awyr Agored hefyd wedi’u lleoli yn Cynefin ac mae cyfleoedd hefyd wedi bod i raglenni gradd eraill elwa o’r safle drwy weithdai pwrpasol i fyfyrwyr. Wrth wneud hynny, mae Cynefin yn cynnig gofod dysgu a chymunedol amhrisiadwy.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon