Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Bluestone yn Meithrin Sgiliau Arweinyddiaeth Strategol trwy Astudio yn y Drindod Dewi Sant.
Pan benderfynodd Stuart Davies-Jaynes ddychwelyd i’r brifysgol wrth arwain tîm AD prysur yng Nghyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone, nid ychwanegu cymhwyster arall at ei CV oedd ei unig nod. Roedd arno eisiau herio ei bersbectif, dyfnhau ei fewnwelediad strategol, a pharhau i dyfu fel arweinydd; nodau a’i arweiniodd at Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a’i MA mewn Rheolaeth Bobl Strategol.

Mae’r rhaglen ôl-raddedig, sy’n cynnwys Diploma Ôl-raddedig a llwybr Meistr, yn canolbwyntio ar ddatblygu uwch-sgiliau arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau a strategaeth sefydliadol. I Stuart, mae wedi bod yn gyfle i gyfuno dysgu academaidd â chymhwysiad yn y byd go iawn gan wella ei allu i arwain pobl, dylanwadu ar newid, a siapio llwyddiant hirdymor y sefydliad. Meddai:
“Yn uwch weithiwr proffesiynol AD, mae’n bwysig parhau i ddysgu ac addasu. Roeddwn i eisiau rhaglen a fyddai’n herio fy safbwynt, gwella fy ngallu i annog newid sefydliadol, a rhoi’r mewnwelediadau diweddaraf i mi ar arweinyddiaeth AD strategol.”
Roedd Stuart eisoes yn gyfarwydd ag enw da’r Brifysgol ym maes addysg adnoddau dynol ac arweinyddiaeth. Mae Bluestone wedi gweithio’n agos gyda’r brifysgol ers nifer o flynyddoedd, gan gefnogi cydweithwyr i gwblhau cymwysterau CIPD Lefel 3 a 5. O ran ei ddatblygiad proffesiynol ei hun, y Drindod Dewi Sant oedd y dewis naturiol. Ychwanega:
“Mae enw da’r brifysgol am ragoriaeth mewn addysg AD ac arweinyddiaeth, ynghyd â’i chysylltiadau cryf â diwydiant, yn ei gwneud yn ddewis delfrydol i weithwyr proffesiynol ar bob lefel sydd eisiau buddsoddi yn natblygiad eu gyrfa.”
Yn fyfyriwr, mae Stuart yn canmol y darlithwyr am eu cefnogaeth barhaus i’w ddatblygiad.
“Mae’r tîm darlithio yn y Drindod Dewi Sant yn rhagorol, gan ddod â phrofiad helaeth yn y diwydiant, gwybodaeth gyfredol, ac ymagwedd flaengar i bob sesiwn. Mae eu gallu i drosi cysyniadau cymhleth yn strategaethau ymarferol, sy’n barod i’r gweithle, wedi bod yn amhrisiadwy.
“Yn ogystal, mae’r amgylchedd dysgu rhwng cymheiriaid wedi bod yn un o’r agweddau mwyaf boddhaus ar y rhaglen, gan feithrin trafodaethau gwerthfawr, rhannu gwybodaeth, a ffurfio perthnasoedd proffesiynol gydol oes. Mae’r Drindod Dewi Sant wedi rhagori ar fy nisgwyliadau, gan gynnig profiad dysgu deinamig a diddorol sy’n cysylltu theori a chymhwysiad yn y byd go iawn yn ddi-dor.”
Nid yw cydbwyso astudiaeth ôl-raddedig â rôl uwch heriol yn rhwydd, ond dywed Stuart bod hyblygrwydd a chyfleusterau’r brifysgol yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
“Mae’r mannau dysgu modern, mynediad gwych i’r llyfrgell, a’r dull hyblyg yn ei gwneud hi’n bosibl astudio o amgylch ymrwymiadau gwaith,” meddai.
Y tu allan i weithio ac astudio, mae Stuart yn aelod o Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru ac mae’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored gyda’i deulu, yn cerdded, teithio, ac archwilio lleoedd newydd i ymlacio a magu nerth eto.
Mae’n credu bod y cwrs eisoes wedi cael effaith uniongyrchol ar ei rôl yn Bluestone.
“Mae astudio wrth weithio wedi caniatáu i mi roi’r hyn rwy’n ei ddysgu ar waith ar unwaith. Mae wedi fy helpu i ddatblygu strategaethau pobl sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi cryfhau fy hyder fel arweinydd strategol,” meddai.
Ers y cwrs, nid yn unig mae Stuart wedi gwella ei sgiliau proffesiynol ond mae hefyd wedi ymddangos yng nghylchgrawn People Management ac wedi uwchraddio i fod yn Gymrawd y CIPD.
Dywedodd Natasha Davies, Darlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn y Drindod Dewi Sant:
“Mae’n ysbrydoledig bob amser gweld cyflawniadau ein myfyrwyr, nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd ynddynt eu hunain. Mae’r cwrs Rheolaeth Bobl Strategol yn galluogi myfyrwyr i gamu tu hwnt i’r hyn maent wedi arfer ei wneud, ac yn achos myfyrwyr fel Stuart, sy’n ei gofleidio’n llwyr, gallwn weld bod eu taith yn gallu bod yn un sy’n peri trawsnewid proffesiynol.”
Ychwanegodd Julie Thomas, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol a Rheolwr Rhaglen CIPD:
“Mae’n wych clywed bod profiad Stuart o’n rhaglen wedi bod mor gadarnhaol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Bluestone am gefnogi llawer o’i weithwyr i fynychu ein cyrsiau dros y blynyddoedd ac rydym yn parhau i ryfeddu ar eu cyflawniadau yn ystod ac ar ôl eu rhaglen astudiaethau. Rydyn ni’n hynod falch o Stuart a thybiwn y bydd yn mynd o nerth i nerth.”
Byddai Stuart yn argymell Y Drindod Dewi Sant i unrhyw un sy’n awyddus i ddatblygu eu gyrfa ym maes AD neu arweinyddiaeth.
“Mae’n ymarferol, yn berthnasol, ac yn wirioneddol canolbwyntio ar helpu gweithwyr proffesiynol i dyfu. Mae’r Drindod Dewi Sant wedi creu amgylchedd lle mae dysgu yn cysylltu â realiti’r gweithle, ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476