Dyluniadau cyn-fyfyrwraig Patrymau Arwyneb yn Laura Ashley
Pan ymunodd Anna Eynon â chwrs MDes Patrymau Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS yn 2020, prin y gallai fod wedi dychmygu, mor fuan ar ôl graddio, y byddai ei dyluniadau yn addurno cartrefi ledled y DU o dan un o frandiau mwyaf eiconig Prydain.

Mae Anna, o’r Fenni, wedi mynd o baentio blodau yn ei llyfr braslunio i weld ei chasgliad, The Water’s Edge yn cael ei lansio gan Laura Ashley fel rhan o’u hystod cynnyrch ar gyfer Hydref/Gaeaf 25 – ar ôl raddio dim ond y llynedd, ag o ddiolch i interniaeth dylunio a chafodd yn ystod ei hastudiaethau.
Mae’r casgliad yn cynnwys murlun Llanelli a phapur wal Rainham Willow, sydd bellach ar gael ar-lein ac mewn siopau fel Next, John Lewis a B&Q.
O’r ystafell ddosbarth i greadigrwydd
Cafodd angerdd Anna am gelf a dylunio ei feithrin yn Ysgol Uwchradd Crughywel, lle mynychodd weithdai yng Ngholeg Celf Abertawe am y tro cyntaf. Fe wnaeth anogaeth gan athro a chwiliad ar Instagram ei harwain at ddarganfod Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn PCYDDS.

Meddai Anna:
“Fe wnes i fynychu diwrnodau agored ar gyfer gwahanol gyrsiau creadigol, ond nid oedd yr un ohonynt yn teimlo’n iawn. Pan ddes i o hyd i’r cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe, fe syrthiodd popeth i’w le. Roedd y stiwdios ysbrydoledig, y cyfleusterau rhagorol, a’r dosbarthiadau bach a oedd yn golygu gwell amser un-i-un gyda darlithwyr, yn gwneud i mi deimlo mai dyma oedd yr union beth roeddwn i i fod i’w wneud.”
Roedd dechrau ei hastudiaethau yn ystod y pandemig yn ddechrau heriol, ond dyfalbarhaodd Anna, gyda chefnogaeth ei darlithwyr, gan ddatblygu ei hunaniaeth ddylunio’n raddol, yn aml wedi’i hysbrydoli gan y byd naturiol.
Canolbwyntiodd ei phrosiect trydedd flwyddyn ar fioffilia - dod â natur dan do - a ddaeth yn sylfaen i’w phortffolio graddedig.
Dyluniadau arobryn
Yn ystod haf 2024, cafodd casgliad terfynol Anna ei arddangos yn New Designers yn Llundain, lle dyfarnwyd y Laura Ashley Lifestyle Award iddi. Roedd yr anrhydedd yn cydnabod ei darluniau cywrain o fywyd y gwlyptir - gweision y neidr, gleision y dorlan, a phlanhigion bregus - a’r ffordd roedd ei dyluniadau yn cyseinio ag estheteg unigryw y brand.
Ochr yn ochr â gwobr o £1,000, roedd y wobr yn cynnwys prynu ei gwaith ar gyfer archif Laura Ashley, ac interniaeth â thâl am fis gyda thimau dylunio a thrwyddedu’r brand.
Disgrifiodd panel beirniadu Laura Ashley ei gwaith fel: “Casgliad addurno mewnol prydferth a masnachol i’r cartref… Roedden ni wrth ein bodd â’r pwnc a’r dehongliad o’r print ar draws ystod y dyluniad.”
O interniaeth i ddiwydiant
Yn ystod yr interniaeth, cafodd Anna olwg y tu ôl i’r llenni ar sut mae Laura Ashley yn dod â chasgliad yn fyw. O’i dyluniadau ei hun i ystodau o ddyluniadau eraill sydd ar ddod, profodd yn uniongyrchol y broses o droi syniadau creadigol yn gynhyrchion sy’n barod ar gyfer y siopau.

Meddai Anna:
“Gwelais sut mae casgliad yn dod at ei gilydd - o ymchwil tueddiadau a gwaith archif i ddatblygu patrymau, lliw, ac yn olaf trosglwyddo dyluniadau i gynnyrch. Fe wnes i hyd yn oed gyflwyno The Water’s Edge i dros 100 o bobl, a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o’r ystod cynnyrch ar gyfer Hydref/Gaeaf 25. Roedd mor werthfawr i weld pa mor wahanol mae pethau’n cael eu gwneud yn y diwydiant.”
Blwyddyn yn ddiweddarach, mae ei chasgliad wedi’i ryddhau’n swyddogol - yn union fel y mae Laura Ashley yn dathlu canmlwyddiant ac yn ailagor ei siop flaenllaw gyntaf mewn pum mlynedd. Mae dyluniadau Anna nid yn unig yn rhan o adfywiad y brand ond hefyd yn symbol o’i ymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent.
Dywedodd cynrychiolwyr o Laura Ashley: “Wedi’i greu gan Anna Eynon, un o raddedigion Coleg Celf Abertawe PCYDDS ac enillydd ein gwobr, mae’r casgliad The Water’s Edge yn dal rhyfeddod bywyd y gwlyptir… i gyd wedi’i ddarlunio yn gywrain i ennyn ymdeimlad o lonyddwch a chysylltiad â chefn gwlad.”
Lle cefnogol i astudio
Mae Anna yn canmol ffocws cryf y cwrs ar gyflogadwyedd, brandio a hyrwyddo am ei helpu i sefyll allan.

Dywedodd hi:
“Nid yw’r gwaith yn dod i ben ar ôl i chi adael y brifysgol! Rwy’n gwneud cais am swyddi dylunio tra hefyd yn cadw’n greadigol gyda chomisiynau, murluniau, a phrosiectau personol. Fy nod yw parhau i wthio i fod yn rhan o’r diwydiant dylunio, ac rwy’n rhannu llawer o hyn ar fy nghyfrif Instagram @annastextiles_.”
Mae ei llwyddiant hefyd yn adlewyrchu enw da Coleg Celf Abertawe a PCYDDS yn ehangach. Yn ddiweddar, enwyd y Brifysgol yn 5ed yn y DU (allan o 46 o sefydliadau) ac yn 1af yng Nghymru ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau yn y Guardian University League Table 2026. Fe’i henwyd hefyd yn Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd Addysgu 2026 gan The Times a The Sunday Times Good University Guide.
Dywedodd Rheolwr y Rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Georgia McKie:
“Mae gweld casgliad Anna a ddatblygodd yn ystod ei semester olaf yn ein stiwdios a’n gweithdai yma yn Abertawe, sydd bellach yn cael ei gynhyrchu a’i werthu i’r cyhoedd yn siop flaenllaw newydd Laura Ashley, yn foment swreal i bob un ohonom ni!
I’n myfyrwyr presennol, mae gweld y cysylltiad uniongyrchol â’r gwaith maen nhw’n ei wneud nawr ar ein rhaglen, a pha mor berthnasol yw hyn i’r diwydiant dylunio presennol yn y DU, yn rhywbeth sydd mor ysbrydoledig iddyn nhw.”



Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996