Dysgu Gydol Oes: Gwireddu Potensial ar gyfer Pob Cam o'ch Bywyd
Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), rydym yn credu nad oes gan ddysgu dyddiad terfyn. Nid yw addysg wedi’i chyfyngu i un bennod o fywyd yn unig, mae’n daith gydol oes, sy’n tyfu gyda ni, yn esblygu gyda’n profiadau ac yn datgloi cyfleoedd ar bob cam.

Mae dychwelyd i addysg yn gallu teimlo’n frawychus, yn aml, mae cydbwyso teuluoedd, gyrfaoedd ac ymrwymiadau’n ymddangos nad ydynt yn cyd-fynd ag astudio. Ond, drwy fentrau megis y Fframwaith Arfer Proffesiynol PCYDDS (PPF), mae’r Brifysgol wedi ail-ddiffinio’r hyn mae’n ei olygu i ddychwelyd i addysg. Fel yr eglura Sarah Loxdale, Uwch Ddarlithydd ac Arweinydd Dysgu Drwy Brofiad yn PCYDDS:
“Mae ein dull wedi’i gynllunio i integreiddio dysgu i fywydau pobl, nid eu cymryd i ffwrdd o’u bywydau. Yr allwedd yw hyblygrwydd: gellir teilwra cyrsiau i amgylchiadau unigol, gan ganiatáu i ddysgwyr barhau i weithio wrth iddynt ddatblygu’n academaidd ac yn broffesiynol.”
Mae’r model hwn yn grymuso dysgwyr i adfyfyrio ar y cyfoeth o arbenigedd y maent wedi’i fagu drwy eu gyrfaoedd a’i gymhwyso’n feirniadol mewn lleoliad academaidd. Y canlyniad yw nid yn unig gwell gwybodaeth, ond mewnwelediad proffesiynol dyfnach a thwf personol o’r newydd.
Un enghraifft ysbrydoledig o’r athroniaeth hon ar waith yw Rebeca Evans, a gafodd ei chydnabod yn ystod Wythnos Dysgu yn y Gwaith 2024 am ei harweinyddiaeth rhagorol wrth hyrwyddo diogelwch yn y gweithle yn Tata Steel.

Mae Rebecca, sy’n myfyrwraig ar y Fframwaith Arfer Proffesiynol, wedi cyfuno ei phrofiad helaeth ag astudiaethau academaidd er mwyn creu effaith ystyrlon. Drwy’r modwl Cydnabod ac Achredu Dysgu, mae wedi hawlio’n llwyddiannus yr hyn sy’n cyfateb i ddwy ran o dair y Radd mewn Arfer Proffesiynol; cydnabyddiaeth o ddyfnder a gwerth ei chyfraniadau i diwylliant iechyd a diogelwch yn y diwydiannau trwm.
Gan adfyfyrio ar ei thaith, meddai Rebecca:
“Mae astudio tuag at Radd mewn Arfer Proffesiynol wedi bod yn eiliad tyngedfennol yn fy ngyrfa a’m datblygiad proffesiynol. Mae wedi rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i mi ar gyfer adfyfyrio, twf yn ogystal â dilysu fy arbenigedd. Drwy gydnabod fy mhrofiadau ymarferol yn ffurfiol, rwyf wedi ennill hyder yn fy ngalluoedd ac wedi datblygu gwerthfawrogiad dyfnach am y mewnwelediadau a geir drwy ddysgu ymarferol.”
Mae ei chyflawniadau yn arddangos sut y gall dysgu gydol oes ddilysu ac ymhelaethu ar arbenigedd proffesiynol. Drwy dynnu ar ei phrofiad byw a chymryd rhan mewn adfyfyrio academaidd, mae Rebecca wedi gwella ei sgiliau, datblygu ei gyrfa, a dyfnhau ei heffaith yn ei gweithle. Mae ei stori’n dangos nad yw dychwelyd i astudio’n ymwneud â dechrau o’r dechrau; yn hytrach mae’n ymwneud ag adeiladu ar sail profiadau byw er mwyn agor posibiliadau newydd.
Fel y noda ein Rheolwr Rhaglen Lowri Harris:
“Mae llawer o’n dysgwyr yn cyrraedd gyda blynyddoedd o arbenigedd seiliedig ar waith, ac eto maen nhw’n chwilio am ffyrdd o strwythuro’r wybodaeth honno, herio tybiaethau, a’i chymhwyso i ddatrys problemau cymhleth. Mae’r fframwaith yn caniatáu iddynt ymgymryd ag ymchwil sy’n uniongyrchol berthnasol i’w gweithle, gan greu effaith iddyn nhw eu hunain a’u sefydliadau.”
Mae addasrwydd a chwilfrydedd yr un mor werthfawr ag arbenigedd technegol yn y diwydiannau sy’n esblygu’n gyflym heddiw. Mae dysgu gydol oes, nid yn unig yn ymwneud â chyflawniadau academaidd i ddysgwyr sy’n oedolion fel Rebecca, mae hefyd yn ymwneud â chynnal perthnasedd, datblygu gwydnwch a llywio newid cadarnhaol yn eu cymunedau a’u gweithleoedd.
Mae llwyddiant Rebecca yn enghraifft bwerus: nid yw addysg yn ymwneud â gadael bywyd ar ôl, mae’n ymwneud a’i gyfoethogi. Gyda opsiynau astudio hyblyg, cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol a ffocws ar berthnasedd y gweithle, mae PCYDS yn sicrhau nid yn unig bod dysgu gydol oes yn bosibl ond ei fod yn drawsnewidiol.
A’r gair olaf gan Sarah Loxdale:
“Nid yw dysgu yn ras; mae’n daith. Ac nid yw byth yn rhy hwyr i gymryd y cam nesaf.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476