Dysgu Gydol Oes yn Rhoi Cyfeiriad Newydd i Un o Raddedigion PCYDDS
A hithau wedi cysegru 15 mlynedd i gefnogi plant a theuluoedd mewn addysg gynradd, bellach mae Tracy Hall yn dathlu ar ôl graddio o’r BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Mae ei hastudiaethau wedi ail-danio ei hangerdd am ddysgu, dyfnhau ei dealltwriaeth o ddatblygiad plentyndod cynnar, ac wedi ysbrydoli cyfeiriad newydd cyffrous mewn gwaith cymdeithasol. Meddai:
“Ar lefel bersonol, roeddwn i am fy herio fy hun i brofi bod dysgu gydol oes yn bosibl mewn gwirionedd, ac nad yw’r twf yn dod i ben pan fyddwn ni’n gadael yr ystafell ddosbarth fel disgyblion ein hunain.”
Trwy gydol ei gyrfa, mae Tracy wedi ymroi i gefnogi llesiant plant, rhieni a staff, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Arweiniodd ei chwilfrydedd cynyddol ynghylch datblygiad y blynyddoedd cynnar, a’i dymuniad i ddyfnhau ei dealltwriaeth o sut mae plant yn tyfu ac yn ffynnu, ati’n astudio yn PCYDDS. Ychwanegodd:
“Rwy wedi bod yn angerddol erioed am helpu plant i gyrraedd eu potensial, ond roeddwn i am ddeall rhagor am y blynyddoedd cynnar ffurfiannol hynny sy’n cyfrannu cymaint i lunio pwy fyddan nhw. Roedd y cwrs yn Y Drindod Dewi Sant yn cynnig popeth roeddwn i’n chwilio amdano, hyblygrwydd, dyfnder, a pherthnasedd yn y byd go iawn.”
Wrth iddi gydbwyso gwaith amser llawn â’i hastudiaethau, roedd yr ystod o fodylau yn arbennig o werthfawr i Tracy. Roedd pynciau megis Chwarae Plant: Theori ac Ymarfer, Y 1000 Diwrnod Cyntaf, ac Arweinyddiaeth Gynhwysol: Gweithio Gyda’n Gilydd i Gefnogi Teuluoedd yn help iddi gysylltu dysgu academaidd â’i phrofiad proffesiynol. Mae hi’n ychwanegu:
“Agorodd pob uned fy llygaid i wahanol ddimensiynau addysg a gofal blynyddoedd cynnar, gan gyfuno theori â chymhwysiad ymarferol. Roeddwn i’n gallu cysylltu’r beth roeddwn i’n ei ddysgu â fy ngwaith yn yr ysgol. Gwnaeth hynny fy astudiaethau’n ystyrlon ac yn werth chweil.”
Yn ôl Tracy, un o uchafbwyntiau ei phrofiad oedd y gymuned o fyfyrwyr a thiwtoriaid yn PCYDDS.
“Roedd cwrdd â chyd-fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd, rhannu profiadau, a dysgu oddi wrth ei gilydd yn gwneud y daith yn un mor arbennig. Fe wnaethom ni gefnogi ein gilydd trwy heriau, dathlu cyflawniadau gyda’n gilydd, ac adeiladu cysylltiadau a oedd yn mynd ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Roedd y tiwtoriaid hefyd yn hynod galonogol, yn wybodus ac roedd hi’n hawdd mynd atyn nhw. Roedden nhw bob amser yn ein hysbrydoli i feddwl yn feirniadol a myfyrio’n ddwfn ar ein harfer ein hunain.”
Daeth awr dyngedfennol yn ystod ei hastudiaethau pan archwiliodd Tracy rôl gweithiwr cymdeithasol yn rhan o aseiniad.
“Wrth i mi ymchwilio i ddeddfwriaeth, fframweithiau ac arferion moesegol, ces i fy ysbrydoli gan y gwerthoedd a’r pwrpas y tu ôl i rymuso gwaith cymdeithasol, eiriolaeth, a gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl. Fe wnaeth y prosiect hwnnw sbarduno rhywbeth ynof fi. Wrth i mi ddysgu rhagor, dyma fi’n sylweddoli’n fwy ac yn fwy’r llwybr roeddwn i am ei ddilyn. Roedd e’n cysylltu popeth rwy’n angerddol amdano: llesiant, diogelu, a chefnogi teuluoedd.”
Doedd hi ddim yn hawdd cydbwyso gwaith, astudio ac ymrwymiadau personol bob tro, ond dywed Tracy fod y profiad wedi dysgu gwytnwch a hunangred iddi.
“Roedd adegau pan roeddwn i’n llawn amheuon amdana i fy hun, ond des i drwyddi gyda chymorth tiwtoriaid, cyd-fyfyrwyr, a fy nheulu. Wrth edrych yn ôl, rwy’n falch beth rwy wedi’i gyflawni.”
Dywedodd Glenda Tinney, Darlithydd Blynyddoedd Cynnar y Drindod Dewi Sant:
“Rwy’n falch iawn o weld Tracy yn graddio heddiw ochr yn ochr â’i chyfoedion. Wedi ymweld â Tracy yn ei lleoliad rwy’n gwybod y gwaith sylweddol yr oedd yn ei arwain o ran lles ac ymyrraeth anogaeth i blant. O drafodaethau gyda Tracy defnyddiodd hefyd lawer o’r ymchwil a’r myfyrio a ddatblygwyd mewn modiwlau amrywiol i ddatblygu ei harfer eithriadol eisoes. dilyniant.
“Mae heddiw’n ddiwrnod i ddathlu ac rwy’n edrych ymlaen at gadw mewn cysylltiad â Tracy a’r holl raddedigion i weld sut maen nhw’n parhau i arwain y sector addysg a gofal blynyddoedd cynnar a gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant a theuluoedd.”
Ym marn Tracy:
“Mae’r cwrs hwn eisoes wedi cael effaith ddofn ar fy mywyd proffesiynol a phersonol. O safbwynt proffesiynol, rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus a galluog, gyda dealltwriaeth ddyfnach o sut i gefnogi plant a theuluoedd yn effeithiol. Yn bersonol, mae wedi ailgynnau fy nghariad at ddysgu ac wedi fy atgoffa nad yw hi byth yn rhy hwyr i ymgymryd â heriau newydd neu newid cyfeiriad.”
A hithau bellach yn un o raddedigion PCYDDS, mae Tracy yn gyffrous i gymryd y cam nesaf tuag at yrfa mewn gwaith cymdeithasol, proffesiwn sy’n cyd-fynd yn berffaith â’i gwerthoedd a’i hangerdd dros helpu eraill.
“Mae’r cwrs hwn yn PCYDDS wedi rhoi’r sylfaen, yr hyder a’r ysbrydoliaeth i mi gymryd y cam nesaf. Rwy’n ddiolchgar iawn am y profiad, y bobl rydw i wedi cwrdd â nhw, a’r wybodaeth rydw i wedi’i hennill. Mae wedi bod yn daith o dwf, adfyfyrio a darganfod un sydd nid yn unig wedi llunio fy llwybr proffesiynol ond hefyd fy ymdeimlad o bwrpas.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476