Dysgu Hyblyg yn Agor Drysau i Fyfyrwyr sy'n Oedolion yn PCYDDS
Mae’r tîm Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn gyffrous i lansio’r tymor academaidd newydd drwy ddathlu Wythnos Addysg Oedolion a chroesawu carfan newydd o fyfyrwyr i’w rhaglenni gradd hyblyg, sy’n canolbwyntio ar yrfa.

Gyda chyrsiau nos mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, yn ogystal â Graddau Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol a Graddau Atodol, mae’r tîm yn falch o gynnig cyfleoedd sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion sy’n cydbwyso ymrwymiadau gwaith, teulu ac astudio.
Mae’r graddau hyn yn cyd-fynd ag ethos wythnos addysg oedolion, gan gynnig graddau y gellir eu hastudio gyda’r nos, ac eraill sydd hefyd yn gyfunol, sy’n golygu y gall myfyrwyr astudio o gwmpas gwaith ac ymrwymiadau eraill. Yr un mor bwysig, mae’r cyrsiau hyn wedi eu cynllunio gan ddarlithwyr sydd ag arbenigedd hirdymor mewn darparu darpariaeth hyblyg o ansawdd uchel ac sy’n deall y rhwystrau a all atal pobl rhag dychwelyd i astudio. O ganlyniad, mae’r amgylchedd dysgu a grëir yn seiliedig ar grwpiau bach, trafodaeth a dysgu ymarferol, ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymchwil ac academaidd pellach. Mae myfyrwyr yn dod â’u profiadau bywyd a phroffesiynol i’r ystafell ddosbarth, gan gyfoethogi trafodaethau a gwneud pob sesiwn yn ddifyr ac yn ddeinamig.
Meddai Alison Rees Edwards, Rheolwr Rhaglen ar gyfer y BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn PCYDDS:
“Mae ein rhaglenni gradd Hyblyg Llwybr Carlam (FTF) dwy flynedd yn ymgorffori ein hymrwymiad i ddysgu gydol oes trwy alluogi ein myfyrwyr i astudio’n llawn amser ochr yn ochr â gwaith. Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, rydym yn dathlu effeithiau trawsnewidiol addysg, a thrwy ein rhaglenni FTF, rydym yn grymuso ymarferwyr, rhieni a chymunedau i lunio dyfodol mwy disglair i blant ifanc. Rydym yn hynod falch o’n rhaglenni FTF ac mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn cael eu hysbrydoli’n barhaus gan allu ein myfyrwyr i ffynnu a thyfu fel gweithwyr proffesiynol a dysgwyr gydol oes.”
Rhannodd Katie, sy’n gweithio mewn meithrinfa leol, ei meddyliau wrth iddi ddechrau ei hastudiaethau:
“Rwy’n gyffrous, yn nerfus ond ni allaf aros i weld fy natblygiad a’m hyder yn ystod y cwrs.”
Dywedodd myfyriwr arall, Ingke, ei bod wedi ymuno â’r cwrs:
“er mwyn ehangu ei busnes a datblygu ei rôl reoli.”
Ymunodd Nasima â’r cwrs er ei mwyn ei hun a chael llwybr i addysgu.
“Rwy’n fam i ddau o blant, felly mae’r opsiwn hyblyg yn gweithio’n dda o ran amser”.
Cafodd Rhian, sy’n gweithio mewn ysgol leol, ei hysbrydoli gan adborth gan gyn-fyfyrwyr:
“Mae’n gweithio o gwmpas fy ngwaith yn yr ysgol ac o gwmpas bywyd teuluol, ac rwy’n edrych ymlaen at yr hyn sydd o’m blaen yn ystod y ddwy flynedd nesaf”.
Meddai Glenda Tinney, y Tiwtor Derbyn ar gyfer y ddarpariaeth Blynyddoedd Cynnar yn PCYDDS:
“Mae’n wych croesawu cynifer o fyfyrwyr newydd. Mae ein cyrsiau wedi cael eu datblygu, ac yn parhau i gael eu datblygu, gyda ffocws ar ddarparu addysg oedolion o ansawdd uchel wedi’i theilwra ar gyfer anghenion y rhai sydd ag ymrwymiadau gwaith, teulu ac eraill. Mae’r dyddiau o orfod rhoi’r gorau i waith er mwyn astudio wedi hen fynd. Rydym am gael gwared ar rwystrau ar gyfer ein myfyrwyr fel y gallant ddilyn eu nodau personol, gyrfaol ac astudio. Felly mae astudio ochr yn ochr â gweithio neu wirfoddoli yn y sectorau plentyndod, ieuenctid ac addysg yn rhan bwysig o’n portffolio. Rydym hefyd yn cynnig dewis gydag amrywiaeth o gyrsiau yn ystod y dydd i fyfyrwyr sy’n ffafrio’r llwybr hwn. Pan fyddwn yn dylunio ein cyrsiau - mae’r hyn sy’n helpu’r myfyriwr i gael mynediad i’r astudiaeth sydd ei hangen arnynt yn flaenllaw iawn yn ein meddyliau. Yna rydym yn dylunio cyrsiau sy’n gynhwysol ac yn hygyrch i’n holl ddysgwyr. Ni allwn aros i’r garfan newydd hon ddechrau.”
Os ydych wedi’ch ysbrydoli i ddechrau eich taith ddysgu eich hun, ymunwch ag un o’n diwrnodau agored a dysgu rhagor am ein gwahanol raddau yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Caerdydd ac yng Nghil-maen, Sir Benfro, a gwahanol lwybrau i gefnogi dychwelyd i astudio.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476