Gradd-brentis yn Llwyddo ym maes Datblygu Meddalwedd ac yn Cydbwyso Gwaith, Astudio a Bywyd Teuluol
Mae Nicholas Aldous, Gradd-brentis Peirianneg Meddalwedd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn diddordeb mewn technoleg. Ac yntau’n hanu o’r Mwmbwls, Abertawe, ac â gyrfa sefydledig y tu ôl iddo, gwnaeth y penderfyniad dewr i gamu’n ôl a chychwyn ar daith newydd mewn datblygu meddalwedd.

Bellach mae’n gweithio’n Ddatblygwr Meddalwedd ar Brentisiaeth yn PCYDDS tra mae’n astudio’n rhan amser am ei radd, ac mae’n ffynnu yn ei fywyd academaidd a phroffesiynol, gan gydbwyso hyn hefyd â gofynion bod yn dad.
“Rwyf bob amser wedi fy nghyfareddu gan dechnoleg a sut mae’n siapio’r byd o’n cwmpas ni,” meddai. “Pan gododd y cyfle am y brentisiaeth hon, roedd hi’n teimlo fel y ffordd berffaith i gael profiad ymarferol ar yr un pryd â dysgu. Roedd y cyfuniad o astudiaeth academaidd a chymhwyso yn y byd go iawn yn addas iawn ar gyfer f’arddull ddysgu a’m dyheadau i o ran gyrfa.”
Roedd ei nod yn glir o’r cychwyn cyntaf: adeiladu sylfaen gref mewn peirianneg meddalwedd, gwella sgiliau technegol, a dod yn ddatblygwr hyblyg. Drwy’r cwrs, mae wedi ennill hyder wrth weithio gyda chronfeydd data, rhwydweithiau, a datblygu ystwyth – sgiliau a fydd yn agor cyfleoedd cyffrous am yrfa yn y dyfodol.
Mae un o’r agweddau ar y brentisiaeth sydd wedi sefyll allan yw cymhwyso beth mae’n ei ddysgu yn ei astudiaethau’n uniongyrchol i’w waith yn PCYDDS. Yn arbennig mae wedi mwynhau gweithio gyda chronfeydd data, SQL, ac ieithoedd rhaglennu megis JavaScript.
“Mae’r dysgu ymarferol wedi bod yn uchafbwynt mawr,” meddai. “Hefyd rwyf wedi cael fy nghyflwyno i rwydwaith gwych o gymheiriaid, sydd wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer fy natblygiad.”
Mae’r brentisiaeth eisoes wedi cael effaith uniongyrchol ar waith Nicholas, gan roi iddo’r sgiliau a’r hyder i gyfrannu’n fwy effeithiol i’w dîm. “Mae dysgu am reoli cronfeydd data a SQL wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol, gan fy helpu i ddeall sut mae data’n cael eu strwythuro a’u rheoli. Mae methodolegau ystwyth hefyd wedi gwella’r ffordd rwy’n cydweithio ac yn gweithio’n effeithlon o fewn tîm.”
Mae cydbwyso gwaith, astudio, a bywyd teuluol wedi bod yn her, yn enwedig fel tad i ddau blentyn ifanc. Fodd bynnag, drwy reoli’i amser yn ofalus a chael cymorth gan ei gyflogwr, y brifysgol, a’i deulu, mae wedi darganfod ffordd i wneud iddi weithio.
“Rwyf wedi gorfod bod yn ddisgybledig iawn gyda f’amserlen, gan roi amser penodedig o’r neilltu ar gyfer aseiniadau ar yr un pryd â bod yn bresennol ar gyfer fy nheulu. Mae wedi bod yn anodd, ond yn foddhaus dros ben.
“Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylfaen ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno dechrau gyrfa mewn datblygu meddalwedd. Mae’r model prentisiaeth yn fantais enfawr am eich bod chi’n dysgu tra rydych yn cael profiad go iawn mewn diwydiant, sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr yn y sector TG.
“Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn fy ngalluoedd technegol a’m cyfraniadau yn y gwaith. Yn bersonol, mae wedi bod yn foddhaus fy herio fy hun, datblygu sgiliau newydd, a gosod esiampl i fy mhlant nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn eich diddordebau a newid eich gyrfa.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071