Skip page header and navigation

Mae’r actores ifanc o Gaernarfon, Gwenno Fôn, yn dathlu carreg filltir bwysig yn ei gyrfa wrth iddi raddio gyda gradd BA Perfformio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS),  yn ogystal a serennu yn y gyfres ddrama boblogaidd STAD ar S4C.

Gwenno Fon

Mae Gwenno, sydd â chariad at y celfyddydau perfformio, wedi bod yn actio, canu a dawnsio ers yn ferch fach. Wrth siarad am ei thaith, dywedodd hi:

“Pan welais i’r cwrs ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, roeddwn yn gwybod yn syth mai dyna lle roeddwn i eisiau astudio, i allu gwneud yr hyn dwi’n ei garu bob dydd, yng nghanol y brifddinas!”

Prif reswm Gwenno dros ddewis y cwrs BA Perfformio oedd y ffaith fod y cwrs yn cael ei gynnig. Ychwanegodd:

“Mae’n wych cael astudio celfyddydau perfformio mewn amgylchedd mor gefnogol i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg. Roedd y cwrs yma’n cynnig cyfle i ddatblygu actio, canu a dawnsio, a fydd yn hanfodol wrth gamu ymlaen i’r byd proffesiynol tu allan i addysg.

“Byddwn i’n argymell y cwrs yma i unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau perfformio ac eisiau cael profiadau gwerthfawr mewn amgylchedd creadigol, cefnogol a Chymraeg eu hiaith.”

Yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol, cafodd Gwenno nifer o brofiadau bythgofiadwy, gan gynnwys chwarae rhan Hermia yn Breuddwyd Noswyl Ifan dan gyfarwyddyd Kira Bissex, a chymryd rhan mewn modiwl Actio i Sgrîn ar set Pobol y Cwm, a fu’n gyfle arbennig i weld sut mae pethau’n gweithio y tu ôl i’r camera mewn cynhyrchiad proffesiynol.

Tra’n y Brifysgol, dywedodd Gwenno iddi dderbyn cefnogaeth arbennig gan diwtoriaid y cwrs. 

“Roedd y tiwtoriaid yn anhygoel ac yn wirioneddol ofalus am les ac anghenion pob myfyriwr. Cefais lawer o gefnogaeth gan Elen Bowman yn arbennig, roedd hi bob amser ar gael i helpu, ac yn sicrhau bod popeth yn iawn o ran y cwrs ac yn bersonol hefyd.”

Meddai Angharad Lee, Rheolwr Rhaglen BA Perfformio yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru:

“ Mae bob amser yn bleser dathlu llwyddiannau ein myfyrwyr, ac mae ymroddiad a ffocws Gwenno yn ystod ei hamser gyda ni wir yn dwyn ffrwyth. Rydym yn falch o ddatblygu cysylltiadau cryf â’r diwydiant ac o gynnig cyrsiau sy’n cyrraedd safonau proffesiynol. Mae ein cyfradd lwyddiant wych gyda chyn-fyfyrwyr,  y mae llawer ohonynt bellach i’w gweld ar ein sgriniau ar S4C a’r BBC  yn dyst i’r ymrwymiad hwnnw.”

photo of Gwenno on set with S4C

Yn ogystal â llwyddo’n academaidd, mae Gwenno hefyd wedi gwneud enw iddi’i hun ar y sgrîn fach drwy chwarae rhan Kimberleigh Rose yn y gyfres ddrama STAD syddar S4C ar hyn o bryd. Meddai:

“ Mae Kim wedi wynebu llawer o heriau yn y gyfres gyntaf, ac mae’r ail gyfres yn mynd ymhellach fyth. Mae hi’n gymeriad cymhleth sy’n aml yn delio â’i phroblemau drwy gamymddwyn, felly mae digon o ddrama a helynt o’i chwmpas!”

Cafodd Gwenno glyweliad ar gyfer y rhan pan oedd hi dal yn yr ysgol, a llwyddodd i gydbwyso’r gwaith ffilmio gyda’i hastudiaethau. Ychwanegodd:

“Cafodd yr ail gyfres ei ffilmio tra roeddwn i’n astudio yn y brifysgol, ac roedd y brifysgol yn hynod gefnogol. Roedd y tiwtoriaid yn hyblyg gyda fy oriau ac yn cynnig cymorth ychwanegol pan oedd angen - yn enwedig gyda pharatoi ar gyfer golygfeydd. Roedd hynny’n gwneud cydbwyso gwaith academaidd ac actio’n bosib ac yn llwyddiannus.”

Mae Gwenno bellach wedi symud yn ôl i’w chartref yng Nghaernarfon ac yn dysgu sesiynau drama i blant ysgol, wrth barhau i ddatblygu ei gyrfa actio. Ei breuddwyd yw parhau i ddatblygu ei gyrfa fel actores, ac mae’n edrych ymlaen at weld ble fydd y camau nesaf yn eu harwain.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon