Myfyrwraig Arwen Garland o PCYDDS wedi’u henwi’n gystadleuydd yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc a Chymysgydd Ifanc Cymru 2025
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi bod Arwen Garland, myfyriwr 19 oed ar y cwrs Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol wedi’i dewis yn gystadleuydd ar gyfer Rownd Derfynol Cystadleuaeth Cogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc a Chymysgydd Ifanc Cymru 2025. Cynhelir y digwyddiad mawreddog hwn yn Stadiwm Abertawe.com ddydd Llun, 22 Medi, 2025, gan arddangos y dalent mwyaf disglair yn sector lletygarwch Cymru.

Mae Arwen, sy’n siaradwr Cymraeg rhugl o Abertawe, wedi bod yn angerddol am letygarwch ers iddi ddechrau gweithio yn Stadiwm Abertawe.com ar ei phen-blwydd yn 16 oed. Cynorthwyodd â phrofiad bwyta tri chwrs yng nghyngerdd Elton John ar ei shifft gyntaf, profiad a sbardunodd ei brwdfrydedd dros y diwydiant. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae wedi codi drwy’r rhengoedd yn y stadiwm, gan weithio ar draws timau cynhadledd a digwyddiadau, criwiau sefydlu a lletygarwch diwrnod gêm ac mae bellach yn oruchwyliwr bar yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe hefyd.
Dewisodd Arwen astudio yn PCYDDS oherwydd iddi gael ei denu gan yr addysgu a’r cyfleoedd ymarferol ar y Cwrs Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol sy’n cysylltu astudio yn yr ystafell ddosbarth â phrofiad yn y diwydiant. Mae hi eisoes wedi cwblhau dros 100 awr o brofiad gwaith, gan helpu i gyflwyno Cynhadledd Flynyddol ITT, lle ymgymerodd â rôl hwyliog ‘Minnie Mouse’ er mwyn diddanu cynrychiolwyr.
Yn ogystal, mae wedi teithio gyda’i dosbarth i Farchnad Teithio’r Byd yn Llundain, profiad mae’n ei ddisgrifio’n uchafbwynt y cwrs, gan roi cipolwg iddi ar y cyfleoedd byd eang sydd ar gael yn y diwydiant.
Gan adfyfyrio ar gael ei dewis yn gystadleuydd yn y rownd derfynol, meddai Arwen:
“Mae’n anrhydedd go iawn cynrychioli PCYDDS yn y gystadleuaeth hon. Mae’r cwrs hwn wedi rhoi cymaint o wybodaeth a hyder i mi, o gael cymwysterau mewn gwasanaethau a gwin i ddysgu am gynaliadwyedd a rheolaeth digwyddiadau. Mae bod yn rhan o Gogydd Ifanc, Gweinydd Ifanc a Chymysgydd Ifanc yn gyfle anhygoel i arddangos y sgiliau hynny a gwthio fy hun ymhellach.”
Meddai Dr Jayne Griffith-Parry, Cyfarwyddwr Academaidd Rheolaeth Lletygarwch a Thwristiaeth yn PCYDDS:
Mae Arwen yn enghraifft wych o’r bobl ifanc dalentog, llawn cymhelliant a phroffesiynol yr ydym yn falch o’u cefnogi yn PCYDDS. Mae wedi cofleidio pob cyfle i ddatblygu ei sgiliau ac mae ei hangerdd dros letygarwch yn amlwg. Mae’n gyflawniad gwych i fod yn gystadleuydd yn rownd derfynol y gystadleuaeth hon mor gynnar yn ei gyrfa, ac rydym yn gyffrous i weld ei dyfodol yn datblygu.”
Uchelgeisiau Arwen yw cael cymaint o brofiadau â phosibl yn ystod ei hastudiaethau ac yn y pen draw, symud ymlaen i rôl reoli yn y diwydiant lletygarwch. Am y tro, mae ei ffocws ar ddechrau ei hail flwyddyn yn PCYDDS - a gobeithio codi’r tlws yn rowndiau terfynol y gystadleuaeth eleni.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071