O Brentis Gradd i Arweinydd Trawsnewid Digidol: Stori Lwyddiant Sam Jackson, Un o Raddedigion PCYDDS
Yn ddim ond 25 mlwydd oed, mae Sam Jackson, un o brentisiaid Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar y Radd-brentisiaeth Ddigidol, bellach yn Rheolwr Power Platform yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Yno, mae’n arwain gwaith datblygu atebion Power Platform digidol diogel sydd â’r gallu i dyfu ledled yr Ymddiriedolaeth ac mewn cydweithrediad â GIG Cymru.
Mae Sam wedi cyfuno gwaith llawn amser yn y GIG ag astudiaethau academaidd er mwyn cyflawni dilyniant gyrfa a chydnabyddiaeth broffesiynol.
Ymunodd Sam â rhaglen BSc (Anrh) Gradd-brentisiaeth mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol (llwybr Cyfrifiadura Cwmwl) PCYDDS yn 2020, tra oedd eisoes yn gweithio yn GIG Cymru. Iddo ef, roedd y rhaglen yn cynnig y cydbwysedd perffaith rhwng astudiaethau academaidd a defnydd yn y gweithle.
“Roeddwn i’n chwilio am ffordd i ychwanegu at fy mhrofiad ymarferol gyda chymhwyster a oedd yn cefnogi fy nodau gyrfa,” meddai Sam. “Roedd y cwrs yn cynnig llwybr hyblyg a pherthnasol i wneud hynny’n union. Un o’r uchafbwyntiau mwyaf oedd gweld sut roedd y theori’n cysylltu’n uniongyrchol â’m gwaith. Rwy’n cofio pobl yn gofyn cwestiynau technegol imi yn ystod gwaith uwchraddio TG a sylweddoli y gallwn ateb yn hyderus diolch i’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu yn fy modylau.”
Roedd cymhelliad Sam i ymuno â’r rhaglen yn amlwg: i gryfhau ei arbenigedd technegol wrth ddatblygu’r sgiliau arwain a datrys problemau sydd eu hangen i fod yn arweinydd strategol mewn trawsnewid digidol.
Fe wnaeth y Radd-brentisiaeth ei alluogi i wneud y canlynol:
- Cymhwyso sgiliau newydd yn ei rôl yn y GIG yn syth
- Datblygu i swyddi lle gallai ddylanwadu ar strategaeth ddigidol
- Magu’r hyder a’r hygrededd sydd eu hangen i symud ymlaen i lefel reoli
“Yn broffesiynol, rhoddodd y cwrs yr adnoddau imi dderbyn rolau mwy strategol ac fe wnaeth chwarae rhan wrth imi ennill fy nyrchafiad i fod yn Rheolwr Power Platform,” eglura Sam. “Yn bersonol, fe wnaeth fy annog i barhau i ddysgu ac i ystyried cyfleoedd academaidd eraill yn y dyfodol.”
Wrth edrych ymlaen, mae Sam yn bwriadu parhau â’i daith academaidd ochr yn ochr â’i rôl broffesiynol, gan ddatblygu ei arbenigedd mewn trawsnewid digidol ymhellach.
Meddai Matthew Wicker, Pennaeth Uned Gradd-brentisiaethau’r Brifysgol: “Mae taith Sam yn enghraifft wych o’r ffordd y gall ein rhaglenni Gradd-brentisiaeth drawsnewid gyrfaoedd. Trwy gyfuno astudiaethau academaidd â defnydd yn y byd go iawn, mae prentisiaid fel Sam nid yn unig yn ennill cymwysterau ond hefyd yn creu effaith uniongyrchol yn eu diwydiannau.”
Pennawd y llun: Mae Sam Jackson yn y llun gyda Swyddog Cyswllt Prentisiaid PCYDDS, Steve Hole.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071