PCYDDS yn Arddangos Cyfleoedd Addysg Uwch yn Nigwyddiad Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg
Yn ddiweddar, croesawodd tîm Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddisgyblion a myfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws De-orllewin Cymru i raglen o weithdai a gynlluniwyd i’w cyflyno i astudiaethau addysg uwch a’r cyfleoedd sydd ar gael yn y Brifysgol.

Roedd y digwyddiad wedi galluogi cyfranogwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau rhyngweithiol a bwysleisiodd ddatblygiad sgiliau datrys problemau, creadigrwydd a sgiliau meddwl beirniadol. Yn ogystal, darparodd gyfle i dynnu sylw at ddull PCYDDS o ddysgu drwy brofiad, sy’n ymestyn y tu hwnt i ddarlithoedd traddodiadol ac yn meithrin cydweithredu rhyngddisgyblaethol ar draws yr Athrofa Addysg a Dyniaethau ehangach.
Roedd y gweithdai’n cynnwys gweithgareddau a ddefnyddiodd arbenigedd ar draws meysydd pwnc gwahanol, megis hanes plentyndod mewn partneriaeth ag arbenigwyr yn y Dyniaethau a’r Blynyddoedd Cynnar ac astudiaeth o’r teulu o fewn cymdeithas sy’n newid wedi’i lywio gan safbwyntiau Cymdeithaseg, Hanes ac Addysg. Yn ogystal, profodd cyfranogwyr ddarpariaeth ddysgu ddigidol ac ymdrochol y Brifysgol, gan adlewyrchu ymrwymiad y sefydliad i arloesi mewn dysgu ac addysgu.

Yn ogystal, roedd y digwyddiad yn blatfform i drafod rhaglenni sydd ar y gweill, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer cyrsiau newydd yn 2026 a’r cyfle i archwilio manteision astudiaethau rhyngddisgyblaethol a chysylltiedig.
Mae’r tîm yn awyddus i gynnal y digwyddiad hwn yn flynyddol, er mwyn arddangos y cyfleoedd gwych sydd ar gael yn PCYDDS, a chefnogi ysgolion a cholegau lleol i allu cael y profiad a’r atebion sydd eu hangen arnynt wrth ystyried astudiaethau Addysg Uwch yn y dyfodol.
Roedd cefnogaeth gan dîm Ymestyn yn Ehangach PCYDDS wedi galluogi’r ysgolion a’r colegau addysg bellach fynychu drwy ddarparu trafnidiaeth a ariennir, gan sicrhau cyfranogiad eang ar draws y rhanbarth.
Meddai Natalie Macdonald, Cyfarwyddwr Academaidd Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg PCYDDS:
“Mae wedi bod yn wych croesawu myfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws De Cymru ar ddechrau’r flwyddyn gyffrous sydd o’n blaenau. Mae datblygu ein partneriaethau Addysg Bellach yn flaenoriaeth allweddol i ni wrth i ni ail-ddatblygu ein cynnig Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn PCYDDS.
“Mae ein tîm yn Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn cyfrannu’n weithredol i ymchwil a pholisi, gan lywio’r arfer ar gyfer y blynyddoedd cynnar, addysg a gwaith ieuenctid. Mae’r wybodaeth a’r arbenigedd hyn wedi’u hymgorffori i’n rhaglenni gan roi’r dyfnder, y sgiliau a’r arfer ar gyfer cyflogaeth yn y presennol a’r dyfodol.”
Am ragor o wybodaeth am y ddarpariaeth newydd sydd i ddod yn fuan, cliciwch yma: Cyrsiau israddedig sydd i ddod yn fuan | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476