Rebecca Jones wedi derbyn Gwobr Gymrodoriaeth EEUK fawreddog
Mae Rebecca Jones, Rheolwr Datblygu Menter ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgwyr Menter y DU (EEUK), unig gydnabyddiaeth sector gyfan y DU i weithwyr proffesiynol addysg menter.

Mae Cymrodoriaeth EEUK yn cydnabod y rolau amrywiol sy’n cefnogi datblygiad canlyniadau entrepeneuraidd mewn eraill, gan ddathlu cyflawniadau unigolion sy’n hyrwyddo addysg fenter ar draws addysg uwch, addysg bellach a’r tu hwnt.
Mae Rebecca sydd wedi treulio mwy nag 20 mlynedd yn cefnogi ac yn annog menter ac wedi bod yn entrepreneur ei hun ers dros 30 o flynyddoedd, wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol i ymgorffori entrepreneuriaeth mewn addysg a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes.
Yn ei rôl bresennol fel Rheolwr Datblygu Menter yn PCYDDS, mae Rebecca yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr academaidd i integreiddio menter i’r cwricwlwm ac yn cyflwyno sesiynau i fyfyrwyr ar fenter ac entrepreneuriaeth. Yn ogystal, mae’n darparu cymorth un i un i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn sefydlu eu busnesau eu hunain, gan gynnig arweiniad drwy fentrau megis cwrs cychwyn busnes y Brifysgol.
Meddai Rebecca:
“Mae’r Gymrodoriaeth yn arbennig o bwysig i mi gan ei bod yn cynrychioli cydnabyddiaeth gan fy nghyd-weithwyr. Mae’n cydnabod fy ngwaith yn y gorffennol a’m rôl bresennol wrth helpu pobl i ystyried entrepreneuriaeth fel rhan o’u taith yrfa. Mae’n fraint i fod yn rhan o’r rhwydwaith hwn o addysgwyr menter ar draws y DU.”
Mae Enterprise Educators UK yn rhwydwaith aelodaeth annibynnol ar gyfer addysgwyr menter, ac mae’r Cymrodoriaeth yn rhoi cydnabyddiaeth o gyflawniad proffesiynol personol i unigolion sydd wedi’u hymrwymo i feithrin sgiliau a chyfleoedd entrepreuneuraidd.
Meddai Lisa Lucas, Rheolwr Datblygu Masnach a Phartneriaethau yn INSPIRE y Brifysgol:
“Mae angerdd Rebecca dros fenter a’i hymroddiad i rymuso myfyrwyr a chydweithwyr yn ysbrydoledig. Mae’r Gymrodoriaeth hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn o’r effaith y mae hi wedi’i chael, nid yn unig yn PCYDDS, ond ar draws y gymuned addysg menter ehangach.”
Mae enw Rebecca yn ymuno â’r rhestr gynyddol o Gymrodorion EEUK, y gellir ei gweld yn.
Mae’r wobr hob yn tanlinellu ymrwymiad PCYDDS i feithrin menter ac entrepreneuriaeth yn ei rhaglenni, gan gefnogi myfyrwyr a staff i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r creadigrwydd i lwyddo mewn byd sy’n newid yn gyflym.
Pennawd y llun: Mae Rebecca (chwith) i’w gweld yn y llun gyda’r Arlywydd Emilee Simmons a’r Cyn-Arlywydd Dave Bolton.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071