Talent Rygbi PCYDDS Sam Potter wedi’i Ddewis ar gyfer Cystadleuaeth 7 bob ochr Dubai
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod myfyriwr Addysg Gorfforol, Sam Potter wedi’i ddewis i chwarae yng nghystadleuaeth rygbi 7 bob ochr fyd-enwog Dubai.
Mae Dubai wedi cynnal twrnamaint Rygbi 7 bob ochr blynyddol ers 1999, ac mae’n un o’r twrnameintiau rygbi saith bob ochr mwyaf yn y byd yn ogystal â bod yn un o’r rhai mwyaf cystadleuol.
Dechreuodd daith Sam i gystadleuaeth rygbi 7 bob ochr Dubai drwy ei berfformiadau yng nghyfres 7 bob ochr LIT (Twrnament 7 bob ochr Rhyngwladol Llundain), lle chwaraeodd i’r Preseli Babas. Pan nad oedd y tîm hwnnw yn gallu mynd i’r gystadleuaeth yn Dubai, gofynnodd tîm y Sharks i Sam ymuno â’u carfan. Meddai:
“Rwy’n gyffrous iawn i gymryd rhan mewn un o gystadlaethau 7 bob ochr mwyaf yn y byd. Chwaraeais yn Hong Kong y llynedd a nawr rwy’n methu aros i chwarae yn Dubai.”
Mae cystadlu yn Dubai yn mynd i fod yn garreg filltir bwysig yn natblygiad Sam fel chwaraewr ac fel myfyriwr. Ychwanegodd:
“Bydd yn helpu fy ngyrfa rygbi drwy fy nghaniatáu i chwarae gyda chwaraewyr o safon uchel ac yn eu herbyn mewn cystadleuaeth o ansawdd uchel , a bydd yn fy helpu i adeiladu cysylltiadau â myfyrwyr o brifysgolion eraill.”
Mae Sam yn rhoi clod i Academi Chwaraeon PCYDDS am ei rôl wrth ei helpu i baratoi ar gyfer yr her sydd o’i flaen.
“Maen nhw wedi darparu gwasanaeth rygbi llawn, gan gynnwys cryfder a chyflyru ac adborth unigol, sydd yn ei dro wedi fy helpu i wella fy ngêm.”
Gwnaeth Sam sy’n astudio Addysg Gorfforol drwy gyfrwng y Gymraeg y penderfyniad i astudio yn PCYDDS oherwydd ei chyfuniad unigryw o astudiaeth academaidd, addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a chymorth cryf i fyfyrwyr-athletwyr.
Meddai Gareth Potter, Pennaeth Rygbi PCYDDS:
“Rydym wrth ein bodd fod un o’n myfyrwyr wedi cael y cyfle gwych hwn. Mae Sam wedi gweithio’n galed o fewn y rhaglen rygbi i ddatblygu ei sgiliau ac mae hyn yn glod arbennigr am berfformiadau cyson i’r Brifysgol, ei glwb Rhydaman ac ymgyrch ei 7 bob ochr dros yr haf gyda’r Preseli Babas.”
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Sam yn gobeithio dychwelyd o Dubai gyda mwy na phrofiad chwaraeon yn unig. “Rwy’n gobeithio mwynhau’r profiad i’r eithaf ar y cae ac oddi arno.”
Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:
“Mae taith Sam i gystadleuaeth rygbi 7 bob ochr Dubai yn dyst i’r gwaith caled mae’n ei wneud bob dydd a’r amgylchedd perfformiad rydym wedi gweithio i’w adeiladu yn Academi Chwaraeon PCYDDS. Mae wedi datblygu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fel chwaraewr ac fel person a’r cam nesaf ar y daith hon yw’r cyfle hwn. Rydym yn hynod falch ohono ac yn edrych ymlaen at ei weld yn arddangos ei dalent yn Dubai.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476