Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) unwaith eto wedi cael ei chydnabod ymhlith addysgwyr ac arloeswyr digwyddiadau mwyaf blaenllaw’r DU, gan sicrhau tri enwebiad yng Ngwobrau mawreddog Cymdeithas Genedlaethol Digwyddiadau Awyr Agored (NOEA) 2025.

Students jumping up in celebration and waving their arms.

https://www.uwtsd.ac.uk/cy/rhaglen-chyrsiau/undergraduate/hospitality-leisure-and-tourism/rheolaeth-digwyddiadau-gwyliauHon yw’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r Drindod Dewi Sant gyrraedd y rhestr fer, gan dynnu sylw at ddull y Brifysgol sy’n arwain y sector o addysg digwyddiadau, ynghyd â’i chydweithrediad cryf, gweithredol â diwydiant.

Mae PCYDDS wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y meysydd canlynol:

  • Cwrs Digwyddiadau Prifysgol neu Goleg Gorau – BA Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol
  • Digwyddiad Myfyrwyr Gorau – ITT Future You Cymru (dan arweiniad myfyrwyr)
  • Digwyddiad Rhanbarthol y Flwyddyn – Parti Tŷ Abertawe (wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth ag Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe)

Mae’r enwebiadau hyn yn adlewyrchu’n uniongyrchol y profiad ymarferol a gaiff myfyrwyr trwy ddigwyddiadau go iawn a grëwyd ac a gyflwynwyd mewn partneriaeth â’r diwydiant. Mae ITT Future You Cymru a Pharti Tŷ Abertawe yn arddangos creadigrwydd, arloesedd a gallu proffesiynol myfyrwyr wrth fynd i’r afael ag anghenion y diwydiant ac ymgysylltu â’r gymuned.

Mae gan PCYDDS hanes cryf yng Ngwobrau NOEA:

  • Yn 2024, enillodd ITT Future You Cymru wobr y Digwyddiad Myfyrwyr Gorau
  • Yn 2023, enillodd y rhaglen Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol wobr y Cwrs Digwyddiadau Prifysgol neu Goleg Gorau (cydradd) ac enillodd digwyddiad dan arweiniad myfyrwyr mewn partneriaeth ag Arena Abertawe wobr y Digwyddiad Myfyrwyr Gorau

“Mae cyrraedd y rhestr fer am y drydedd flwyddyn yn olynol yn gamp a hanner,” meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen Teithio Rhyngwladol, Twristiaeth, Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau. “Mae’n adlewyrchu proffesiynoldeb ein myfyrwyr a chymorth amhrisiadwy partneriaid diwydiant.”

“Mae’r cydweithrediadau hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr lunio dyfodol digwyddiadau cynaliadwy, cynhwysol ac effeithiol,” ychwanegodd Debbie Jenkins, un o ddarlithwyr Rheolaeth Digwyddiadau.

Mae digwyddiad ITT Future You Cymru 2025 yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan ddod â dros 600 o fyfyrwyr, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant at ei gilydd eleni ar gyfer rhwydweithio, gweithdai a sgyrsiau ysbrydoledig. Eleni gwelwyd y nifer uchaf erioed yn bresennol yn y digwyddiad a chafwyd adborth eithriadol gan gynrychiolwyr a phartneriaid.

“Mae brwdfrydedd a gweledigaeth myfyrwyr PCYDDS yn gwneud iddyn nhw sefyll allan flwyddyn ar ôl blwyddyn,” meddai James Morgan, Cynhyrchydd Dysgu Creadigol yn Arena Abertawe.

Mae Gwobrau NOEA yn dathlu arfer gorau ac arloesedd ar draws y sector digwyddiadau awyr agored byw. Cynhelir seremoni 2025 ar 26 Tachwedd yn yr Ystafelloedd Pwmp hanesyddol, Caerfaddon, gyda derbyniad o amgylch y Baddonau Rhufeinig.

“Mae’r enwebiadau hyn yn ategu safle PCYDDS yn un o brif brifysgolion y DU ar gyfer rheoli digwyddiadau,” ychwanegodd Jacqui Jones. “Rydyn ni’n hynod falch o bawb sy’n cymryd rhan.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon