Skip page header and navigation

Mae Laura Farrell, un o raddedigion y cwrs  BA Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn PCYDDS, wedi cyfuno ei chariad at ddigwyddiadau a’r awyr agored i wneud gyrfa iddi hi ei hun. Bellach yn gweithio i PGL Travel yn Awstralia mewn swydd yr oedd hi unwaith wedi breuddwydio amdano, mae hi’n ysbrydoli pobl ifanc i gofleidio antur awyr agored. Mae hi’n dweud bod ei gradd wedi ei helpu i lunio profiadau - iddi hi ei hun ac i eriall - sy’n gwneud gwahaniaeth.

woman taking selfie with 'PGL' written on her shirt

Mae Laura, a raddiodd yn 2022, bob amser wedi bod yn angerddol dros ddod â phobl at ei gilydd trwy brofiadau effeithiol. Darparodd Rheolaeth Digwyddiadau y ffordd berffaith i droi’r angerdd hwn yn yrfa, gan ei harwain at PCYDDS am ei henw da cadarn yn y maes yn ogystal â’i phwyslais ar ddysgu ymarferol a chyfleoedd byd-eang.

Pan ddaeth hi’n amser ar gyfer ei modwl lleoliad ar ei chwrs, gwelodd Laura hyn fel cyfle i ennill profiad ymarferol a chymhwyso ei sgiliau mewn amgylchedd byd go iawn. Roedd hi’n chwilio am rôl a fyddai’n ei herio a’i hysbrydoli wrth ehangu ei harbenigedd. Daeth ei chyfle yn ystod seminarau lleoliad lle dysgodd am Ganolfannau Gweithgareddau PGL sy’n cynnig profiadau addysgol yn yr awyr agored i bobl ifanc.

Dywedodd Laura: “Roedd hyn yn gwireddu breuddwyd i mi! Roeddwn i bob amser wedi bod eisiau gweithio yn yr awyr agored gyda phlant, ac roedd ethos PGL o gyfoethogi bywydau ifanc trwy addysg awyr agored yn cyd-fynd â fy nodau personol. Gan fod y rhaglenni strwythuredig yr oeddent yn eu cynnig yn cael eu hystyried yn ‘ddigwyddiadau’, roedd y cyfle hwn yn cyd-fynd yn berffaith â fy ngradd. Roedd yn cyfateb yn wych, a doedd dim angen dwyn perswâd arnaf i wneud cais.”

Pan darodd y pandemig byd-eang yn 2020 tra roedd Laura ar leoliad, torrwyd ei hantur yn PGL yn fyr, er nad oedd hyn wedi ei hatal rhag dyfalbarhau yn ei haddysg ac ennill gradd dosbarth cyntaf. 

Wrth aros i’r diwydiant digwyddiadau i adfer ar ôl ergyd y pandemig, rhagorodd mewn gyrfa ym maes lletygarwch, gan ennill dyrchafiadau mewn amryw o fwytai o amgylch Abertawe. Er ei bod yn ffynnu yn y maes hwn, roedd gan Laura awydd i deithio, ac yn gynnar yn 2024, penderfynodd hel ei phac a symud i Sydney, Awstralia i chwilio am gyfleoedd newydd. 

Wrth lywio’r heriau o adeiladu bywyd newydd dramor, trodd yn y pen draw at atgofion ei chyfnod gyda PGL felly dechreuodd chwilio am gyfleoedd tebyg. Er mawr syndod a llawenydd iddi, darganfu bod gan PGL ganolfannau yn Awstralia.

Dywedodd Laura: “Roeddwn i wrth fy modd pan ddysgais fod canolfannau PGL yma. Roedd yn gyfle o’r diwedd i gyflawni’r hyn roeddwn i wedi bwriadu ei wneud yn ystod fy amser yn PCYDDS – i deithio, i weithio mewn addysg awyr agored, ac i ysbrydoli pobl ifanc.”

Gyda’i phrofiad a’i chymwysterau, nid oedd yn hir cyn iddi sicrhau ei rôl newydd yng Nghanolfan Campaspe Downs PGL yn Victoria. Mae hi bellach yn treulio ei dyddiau yn arwain gweithgareddau awyr agored, gan feithrin dysgu drwy brofiadau.

Dywedodd: “Yn PGL, rwy’n cynnal digwyddiadau ar raddfa fach sy’n canolbwyntio ar addysg awyr agored i ysgolion a grwpiau cymunedol, gan arwain gweithgareddau fel abseilio, dringo creigiau a chyfeiriannu. Rwy’n helpu plant i gamu y tu hwnt i’w ffiniau cyfforddus dan do, gan gyfrannu at eu twf a’u datblygiad. Nid yw llawer wedi wynebu heriau o’r fath erioed o’r blaen, ac mae’n rhoi boddhad aruthrol i’w harwain – p’un ai i oresgyn ofnau neu i ddysgu ymddiried yn eu hoffer.

“Atgyfnerthodd fy astudiaethau yn PCYDDS pa mor effeithiol y gall digwyddiadau fod wrth lunio profiadau pobl – yn enwedig i blant, a fydd yn cario’r atgofion hyn am oes. Mae hyn yn rhywbeth rwy’n adfyfyrio arno bob dydd yn fy rôl gyda PGL, gan wybod bod gan bob sesiwn y potensial i gael effaith barhaol.”

Trwy fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynwyd iddi, trwy ei chwrs a’i hymdrechion rhagweithiol ei hun, llwyddodd Laura i drawsnewid heriau yn gerrig sarn tuag at ei gyrfa delfrydol. Mae ei stori yn dangos yr ystod eang o bosibiliadau sydd ar gael i raddedigion a chyrhaeddiad byd-eang eu sgiliau a’u cymwysterau, gan arddangos sut y gall dyfalbarhad a phrofiadau yn y byd go iawn agor drysau ar draws diwydiannau a ffiniau.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon