Skip page header and navigation

Mewn cydweithrediad â Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yng Nghaerfyrddin, derbyniodd myfyrwyr lefel 6 ar y rhaglenni Astudiaethau Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hyfforddiant Arweinydd Taith Gerdded Iechyd achrededig yn ddiweddar sy’n eu galluogi i arwain teithiau cerdded yn y gymuned a fydd yn helpu pobl i fod yn egnïol, hybu ffitrwydd, cefnogi adferiad a gwella lles meddyliol a chymdeithasol. 

A group of students on a wellbeing walk

Sefydlwyd Hwb Cynefin yn 2022 yng Nghaerfyrddin ac fe’i galluogwyd gyda grant gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Caerfyrddin. Nod yr Hwb yw hyrwyddo cyfleoedd iechyd meddwl a lles cymunedol i grwpiau cymunedol drwy fynediad i fannau gwyrdd lleol. 

Meddai Andrew Williams, Swyddog Prosiect ac Ymgysylltu PCYDDS yn Cynefin:

 “Mae cynnig y math hwn o gyfle i fyfyrwyr PCYDDS wrth wraidd beth mae Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin yn ei wneud. Yn yr achos hwn, mae’r ffaith y bydd ein myfyrwyr yn mynd ymlaen eu hunain i addysgu eraill yn arbennig o ysbrydoledig gan y gellir cymhwyso’r hyn y byddan nhw’n ei ddysgu yma yn uniongyrchol yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol i wella lles eu myfyrwyr.”

Darparwyd yr hyfforddiant gan Goed Lleol, sy’n gweithio mewn partneriaeth â Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin, ac sy’n darparu rhaglenni llesiant coetir rhad ac am ddim ledled Cymru ers dros 10 mlynedd.  Mae hyfforddiant Arweinydd Taith Gerdded Iechyd nid yn unig yn gwella datblygiad proffesiynol myfyrwyr ond hefyd yn cyfrannu’n uniongyrchol at eu dealltwriaeth o lesiant ym maes addysg. 

Roedd yn caniatáu i fyfyrwyr Astudiaethau Addysg ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth a chysylltu theori ag ymarfer. Roedd y cwrs yn eu dysgu sut i gynllunio, arwain a gwerthuso teithiau cerdded iechyd sy’n seiliedig ar natur ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl. Dysgodd y myfyrwyr am fanteision natur ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â sut i reoli risgiau a sicrhau diogelwch yn ystod y teithiau cerdded. 

Meddai Laura Hutchings, Cyfarwyddwr Rhaglen rhaglenni Astudiaethau Addysg Y Drindod Dewi Sant:

“Er mwyn cyfoethogi dysgu ein myfyrwyr y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, rydym yn manteisio ar bob cyfle i gysylltu gwybodaeth ddamcaniaethol â chymhwysiad ymarferol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin am gynnig y profiad a’r ardystiad amhrisiadwy hwn i’n myfyrwyr, a fydd yn datblygu eu harbenigedd ymhellach ym maes addysg.”

Cafodd yr hyfforddiant ei gysylltu’n uniongyrchol â modiwl lles mewn addysg, lle bu’r myfyrwyr Astudiaethau Addysg yn archwilio cysyniadau lles, gwytnwch a hapusrwydd mewn perthynas â dysgu ac addysgu. Cafodd y myfyrwyr gyfle i gymhwyso eu sgiliau a’u gwybodaeth yn ymarferol trwy arwain taith gerdded iechyd natur ar gyfer eu cyfoedion a’u tiwtoriaid. 

Ychwanegodd Sue Ainsworth, Darlithydd ar y modwl Llesiant mewn Addysg:

“Bydd y cyfle i ddysgu sgil newydd a chael achrediad wrth ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol yn cael effaith barhaol ar fyfyrwyr a darlithwyr fel ei gilydd”. 

Roedd yr adborth gan y cyfranogwyr yn gadarnhaol iawn ac roeddent yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n fwy hamddenol, egnïol a chysylltiedig ar ôl y daith. 

Meddai Daniel Ashby, myfyriwr Astudiaethau Addysg: Cynradd:

“Rwy’n credu bod yr hyfforddiant arweinydd teithiau cerdded iechyd natur yn gyfle gwych i ni fel myfyrwyr astudiaethau addysg. Roedd yn help i fi ddysgu rhagor am fanteision cysylltu â natur ar gyfer ein hiechyd meddwl a chorfforol, yn ogystal â sut i hwyluso profiadau awyr agored cadarnhaol i eraill. Fe wnes i fwynhau’r sesiwn ymarferol hon wrth i ni ymarfer arwain teithiau cerdded ac ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol. Roedd y staff sy’n darparu’r hyfforddiant yn hynod gyfeillgar a gwybodus. O ganlyniad, rwy’n teimlo’n fwy hyderus a brwdfrydig i gymhwyso’r sgiliau hyn yn fy ngyrfa fel addysgwr yn y dyfodol.”

Am fwy o wybodaeth am gyrsiau Astudiaethau Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ewch i:

Astudiaethau Addysg (Llawn Amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (pcydds.ac.uk) 

Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (Llawn Amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (pcydds.ac.uk)

Astudiaethau Addysg: Cynradd (Llawn Amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (pcydds.ac.uk)

Os hoffech chi ddysgu rhagor am y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael yn Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin, ewch i: Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (pcydds.ac.uk)


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau