Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cynnig cyfleoedd ardderchog i fyfyrwyr o’r cyrsiau BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar i archwilio iaith, llythrennedd a straeon mewn ffyrdd arloesol trwy ei hystafelloedd trochi.

A group of students in the immersive rooms

Mae myfyrwyr ail flwyddyn o gampysau Caerfyrddin ac Abertawe wedi bod yn archwilio’r cyfleoedd i greu cyfleoedd atyniadol sy’n rhoi plant yng nghanol y llyfr stori. Maen nhw hefyd wedi bod yn ystyried sut y gellid defnyddio’r dechnoleg benodol hon i greu eu profiadau amser stori eu hunain a chefnogi eu harfer eu hunain mewn lleoliadau.

Mae’r ystafelloedd trochi ar y campws yn darparu cymaint o ffyrdd arloesol i fyfyrwyr ddysgu. Mae’r cwrs Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar hefyd wedi defnyddio’r ystafelloedd i rannu delweddau sy’n galluogi myfyrwyr i adfyfyrio ar yr hyn a wnânt yn eu gwaith eu hunain gyda phlant. 

Cafodd y myfyriwr Danielle Wheatland fod y profiad yn ysbrydoledig ac yn fuddiol. Dywedodd: 

“Yn bersonol, cefais ei fod yn ddiddorol iawn a chefais fy syfrdanu gan faint o wahanol bethau y gallwch eu gwneud yn yr ystafell gyda’r dechnoleg a oedd ganddynt.”

Mae’r adran bellach yn bwriadu ffilmio gweithgareddau ymarferol y myfyrwyr er mwyn iddynt allu datblygu’r cynnwys a rennir yn yr ystafelloedd ymhellach.

Ychwanegodd Glenda Tinney, Darlithydd a Thiwtor Derbyn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar PCYDDS: 

“Rydym yn dechrau ein modwl awyr agored ac yn ddiolchgar y bydd tîm ystafelloedd trochi PCYDDS yn ein cefnogi i ffilmio a chreu cynnwys sy’n helpu myfyrwyr i adfyfyrio ar ddysgu yn yr awyr agored a’r cyfleoedd i blant ifanc. Mae’r cydweithio hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein graddau’n cadw eu harloesedd a chysylltiadau cryf rhwng damcaniaeth ac arfer.”

A group of students in the immersive rooms

Dywedodd Alison Rees Edwards, Cyfarwyddwr Rhaglen PCYDDS ar gyfer y radd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: 

“Gyda datblygiad parhaus llythrennedd digidol ym maes addysg, mae’n arbennig o bwysig bod ein myfyrwyr yn cael cynifer o gyfleoedd â phosibl i adeiladu ar eu sgiliau digidol eu hunain. Yn rhan o’r modwl Iaith a Llythrennedd, mae myfyrwyr yn dysgu am gymhwysedd digidol, mewn oedolion a phlant, ac mae gofyn iddynt ddefnyddio dyfais ddigidol i arddangos eu sgiliau adrodd straeon digidol eu hunain. Trwy gyflwyno myfyrwyr i’r ystafelloedd trochi, ceir potensial i wella’r sgiliau digidol hyn ymhellach ac rydym yn llawn cyffro i weithio gyda thîm yr Ystafelloedd Trochi ar gyfer modylau yn y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau