Skip page header and navigation

Croesawyd tua thrigain o fyfyrwyr a staff o saith prifysgol ar draws Cymru i gampws Llambed, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ddiweddar ar gyfer Gweithdy Ymchwil ac Ysgrifennu Blynyddol y rhaglen gydweithredol MA Addysg (Cymru).

Rhonwen Morris speaking behind lectern
Rhonwen Morris, Headteacher of Ysgol Bro Preseli

Nod y gweithdy oedd cefnogi myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf wrth iddynt gwblhau eu traethodau hir, drwy gyfres o gyflwyniadau ysbrydoledig a gweithdai ymarferol.

Cychwynnodd y penwythnos gyda neges gan Dr Kevin Palmer, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol yn Llywodraeth Cymru, a wnaeth danlinellu rôl allweddol dysgu proffesiynol o safon ym maes addysg yng Nghymru.

Cyflwynodd Anna Brychan, Deon Cynorthwyol yr Athrofa, Pennaeth Ysgol Bro Preseli, Mrs Rhonwen Morris i agor y gynhadledd gyda neges twymgalon am bwysigrwydd sicrhau bod pob dysgwr yn profi llwyddiant.

Yn ystod y dydd, rhannodd cyn-fyfyrwyr o’r rhaglen eu profiadau o sut y bu i’w hymchwil ddylanwadu ar eu hymarfer proffesiynol , nid yn unig yn eu sefydliadau eu hunain ond hefyd ar lefel ehangach.

Cyflwynodd yr Athro Andy Townsend o Brifysgol Abertawe sesiwn werthfawr ar ysgrifennu academaidd, gan gynnig cyngor ymarferol a defnyddiol i’r myfyrwyr. Cafwyd cyfle i drafod ac i rannu ymchwil gydag eraill,  cyfoedion o brifysgolion eraill a thiwtoriaid arbenigol o bob un o’r saith sefydliad.

Yn ystod y ddeuddydd cafwyd amryw o gyfleoedd i rwydweithio a disgrifiwyd y digwyddiad gan un o’r myfyrwyr fel:

“Cyfle gwych i gwrdd â chyfoedion, trafod ymchwil, gofyn cwestiynau, ceisio cymorth, a derbyn cyngor a gwybodaeth arbenigol! Dyma uchafbwynt yr MA i mi ac mae wedi fy ysbrydoli i gwblhau fy nhraethawd hir!”

Meddai Nanna Ryder, un o drefnwyr y gweithdy a chyfarwyddwr rhaglen yr MA Addysg (Cymru) yn PCYDDS, 

“Braint oedd cael gwesteio’r gweithdy hwn eleni a phrofi brwdfrydedd y myfyrwyr, siaradwyr gwadd a thiwtoriaid dros gynnal ymchwil gweithredol mewn sefydliadau addysgol er mwyn trawsnewid ymarfer a gwella profiadau dysgu ein dysgwyr ar draws Cymru.”    

Am fwy o wybodaeth am MA Addysg, cysylltwch â Nanna Ryder: n.ryder@uwtsd.ac.uk 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon