Yr hyn y gall y byd ei ddysgu gan Gymru
Mae Dr Luci Attala yn anthropolegydd, awdur, ac ysgolhaig cynaliadwyedd y mae ei gwaith yn pontio diwylliant, moeseg ac ecoleg. Fel aelod o Glymblaid BRIDGES y Cenhedloedd Unedig ac uwch academydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae hi’n archwilio sut y gall gwerthoedd gofal, cydbwysedd a dwyochredd lywio dyfodol mwy cynaliadwy.
Yn ei sgwrs Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN) sydd ar ddod, bydd Luci yn trafod llawer o’r syniadau a archwiliwyd yma - gan ystyried sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol Cymru yn parhau i ysbrydoli dulliau rhyngwladol o ymdrin â chynaliadwyedd. Yn y darn hwn, mae hi’n cyflwyno rhai o’r themâu y bydd yn ymhelaethu arnynt yn y sgwrs honno, gan ddangos sut mae Cymru’n dod yn fodel ar gyfer ailddychmygu llywodraethu, addysg, a’n cyfrifoldeb a rennir i’r rhai sydd eto i ddod.
Pan ddywedaf wrth bobl yn UNESCO fy mod i’n dod o Gymru, mae eu llygaid yn goleuo. Mae yna chwilfrydedd gwirioneddol am y wlad fach hon yn eu coridorau nhw. Mae Cymru’n adnabyddus i rai am ei chestyll a’i dreigiau, ond i eraill am rywbeth llawer mwy rhyfeddol: cenedl sydd wedi gwneud y dyfodol yn fater o gyfraith.
Fel rhywun sydd bellach yn gweithio o fewn system y Cenhedloedd Unedig, gallaf ddweud gyda sicrwydd bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hystyried yn rhyngwladol fel un weledigaethol, ymarferol a thawel chwyldroadol.
Cenedl Fach â Syniadau Mawr
Mae’r Ddeddf yn rhoi rhywbeth gwirioneddol unigryw i Gymru: ymrwymiad wedi’i ddiogelu’n gyfreithiol i feddwl y tu hwnt i’r tymor byr. Mae’n mynnu bod cyrff cyhoeddus yn ystyried llesiant cenedlaethau’r dyfodol ym mhob penderfyniad mawr a wnânt.
I wneuthurwyr polisi ledled y byd, mae hyn nid yn unig yn ysbrydoli - mae’n agoriad llygad. Mae’n profi nad oes rhaid i gynaliadwyedd fod yn rhywbeth uchelgeisiol. Gall fod yn weithredol. Mae Cymru wedi troi’r hyn y mae eraill yn ei fynegi fel gobaith yn fodel llywodraethu gweithredol. A dyna pam, pan blediais achos Cymru i fod yn gartref i Ganolfan UNESCO BRIDGES y DU, nad oedd yn anodd perswadio unrhyw un.
O Gyfraith Leol i Arweinyddiaeth Fyd-eang
BRIDGES yw rhaglen gwyddor gynaliadwyedd fyd-eang UNESCO sy’n rhan o’r adran Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol (MOST). Fe’i crëwyd i gau’r bwlch rhwng gwybodaeth a gweithredu, rhwng yr hyn rydyn ni’n ei wybod am gynaliadwyedd a’r hyn rydyn ni’n ei wneud amdano.
Yr hyn sy’n gwneud BRIDGES yn unigryw yw ei sylfaen yn y Dyniaethau. Mae’n cydnabod bod cynaliadwyedd yn fater diwylliannol a moesegol, nid problem dechnegol, a bod moesoldeb, dychymyg, empathi, a phrofiad byw yn hanfodol i sicrhau trawsnewid effeithiol.
Pan gyhoeddodd UNESCO alwad am Ddatganiadau o Ddiddordeb i sefydlu Canolfannau BRIDGES cenedlaethol, cynigiais y dylid lleoli Canolfan y DU yng Nghymru. Dadleuais fod Cymru, er gwaethaf ei maint, eisoes yn arweinydd byd-eang o ran ailfeddwl cynaliadwyedd trwy bolisi, diwylliant a chymuned, a’r Ddeddf oedd conglfaen y ddadl honno.
Roedd yr ymateb gan UNESCO yn frwdfrydig. Roedden nhw’n gwybod eisoes am y Ddeddf, ac roedd llawer eisiau dysgu ohoni. Y canlyniad oedd angori Canolfan BRIDGES y DU ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), sydd bellach yn gartref hefyd i Swyddfa Rhaglenni Rhyngwladol holl Glymblaid Fyd-eang BRIDGES, rhwydwaith gweithredol o dros 50 o sefydliadau ledled y byd.
Cydweithredu yn Greiddiol
Nid rhywbeth symbolaidd yw ein canolfan; mae’n strategol. Mae gwerthoedd y Ddeddf o feddwl yn hirdymor, cydweithio, cyfiawnder a llesiant yn adlewyrchu gweledigaeth UNESCO ac ethos PCYDDS fel prifysgol ddinesig sy’n gosod cymuned a diwylliant yng nghanol ei chenhadaeth.
Yn Y Drindod Dewi Sant, nid mewn polisi neu ymchwil yn unig y mae’r syniadau hyn yn byw, ond maent yn llunio sut rydym yn addysgu a sut mae ein myfyrwyr yn dysgu. Mae ein cyrsiau mewn cynaliadwyedd, busnes, y celfyddydau, addysg a’r dyniaethau yn annog myfyrwyr i feddwl fel gwarcheidwaid cenedlaethau’r dyfodol: i ddylunio, cynllunio a gweithredu gyda’r effaith hirdymor mewn golwg. Trwy BRIDGES, mae ein myfyrwyr yn cysylltu’n uniongyrchol â phartneriaid byd-eang, gan gyfrannu at brosiectau rhyngwladol sy’n trosi damcaniaeth yn drawsnewidiad.
Bellach, o ganlyniad, rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, y mae ei harweinyddiaeth yn parhau i ddangos i’r byd sut y gall polisi ddod yn arfer. Gyda’n gilydd, rydym yn dangos sut y gall deddfwriaeth genedlaethol hau arloesedd rhyngwladol a sut y gall gwlad fach arwain newid systemau byd-eang nid trwy rym, ond trwy egwyddor.
Persbectif Anthropolegydd
I mi, mae’r Ddeddf yn taro tant ar lefel bersonol iawn. Mae fy nghefndir mewn anthropoleg, ac mae llawer o fy ymchwil wedi’i siapio gan athroniaeth frodorol sy’n herio syniadau cynnydd a yrrir gan y farchnad. Mae’r traddodiadau hyn yn ein hatgoffa i weithredu gyda’r seithfed genhedlaeth mewn golwg ac i gydnabod ein cyfrifoldebau i hynafiaid, disgynyddion a’r tir ei hun. Nid syniadau newydd yw’r rhain; maen nhw’n rhai hynafol. Mae eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yng nghyfraith Cymru yn rhyfeddol ac yn wefreiddiol. Cawn ein hatgoffa gan y Ddeddf bod arloesi ystyrlon yn aml yn deillio nid o dechnoleg a dyfeisgarwch, ond o gofio ac ailgynnau gwerthoedd gofal, cydbwysedd a chilyddiaeth sydd wedi cynnal cymunedau ers miloedd o flynyddoedd.
Cymru: Labordy byw ar gyfer y dyfodol
Efallai bod Cymru’n fach ac yn hudolus - gwlad o gestyll, dreigiau, a gorwelion arfordirol - ond mae ei gwir hud yn gorwedd yn ei meddylfryd. Yma, nid gobaith haniaethol yw’r dyfodol ond addewid cyfreithiol.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi troi Cymru yn labordy byw ar gyfer llywodraethu cynaliadwy: lle mae dychymyg yn cwrdd ag atebolrwydd a lle mae polisi yn meiddio meddwl mewn canrifoedd, nid cylchoedd etholiadol. Dengys nad oes angen i’r systemau sy’n llunio ein dyfodol cyffredin gael eu hadeiladu ar enillion tymor byr neu’r rhith o dwf diddiwedd. Yn hytrach, gallant fod yn seiliedig ar werthoedd sy’n berthnasol i’n synnwyr dyfnaf o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol.
O Gymru i’r Byd ac yn ôl eto
A minnau’n gweithio rhwng Cymru ac UNESCO, rwy’n aml yn cael fy hun yn symud rhwng y lleol a’r byd-eang, gan gario gwersi o’r naill i’r llall. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r offer i mi sefyll mewn fforymau rhyngwladol a dweud:
“Dyma sut beth yw meddwl hirdymor yn ymarferol. Dyma sut beth yw cyfiawnder rhwng cenedlaethau mewn llywodraethu. A dyma sut y gallwn adeiladu rhywbeth ystyrlon gyda’n gilydd - ar draws diwylliannau, sectorau a chenedlaethau.”
O Gymru i’r byd, ac o’r byd yn ôl adref eto, mae stori’r Ddeddf yn un o obaith, gostyngeiddrwydd a dychymyg. Dylai Cymru fod yn falch. Ac mae’r byd yn talu sylw.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076