Skip page header and navigation

Cefndir

Mae Gavin yn bensaer siartredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu ac mae’n Gyn-Lywydd Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru (RSAW).

Mae’n Ddarlithydd mewn Pensaernïaeth ac Adeiladu yn PCYDDS  yn yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd yn Abertawe.

Cyn ymuno â PCYDDS ym mis Ebrill 2019, roedd Gavin yn Rheolwr Gweithredol Dylunio a Datblygu Prosiectau yng Nghyngor Caerdydd ac yn arwain y tîm amlddisgyblaethol o ymgynghorwyr a oedd yn darparu’r gwasanaethau dylunio a rheoli adeiladu ‘mewnol’ i’r awdurdod. Yn ystod ei gyfnod yng Nghyngor Caerdydd, bu Gavin yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ar draws portffolio’r  Cyngor. Bu’n rheoli timau dylunio ar brosiectau a oedd yn amrywio o ran maint a chymhlethdod; mewn sectorau yn cynnwys addysg, hamdden, masnachol, preswyl a chadwraeth.

Pynciau Arbenigol

  • Pensaernïaeth ac Adeiladu
  • Sgiliau a Thechnoleg Ddigidol

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae gan Gavin gysylltiadau proffesiynol rhagorol yn y sectorau Pensaernïaeth ac Adeiladu ac mae'n Gyn-Lywydd Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru. Mae wedi bod yn aelod o Gyngor RSAW ers dros 10 mlynedd ac mae'n Gyn-Gadeirydd y Cylch Dylunio (De RSAW). Mae Gavin hefyd yn gyn-Gadeirydd Grŵp Dylunio CLAW (Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru), yn gyn-aelod o Grŵp Llywio CLAW a chyn hynny roedd yn gynrychiolydd Bwrdd Swyddogion Enwebedig CLAW. Mae Gavin wedi cynrychioli Cyngor Caerdydd yn flaenorol ar SEWSCAP, fframwaith adeiladu ar gyfer caffael sector cyhoeddus yn Ne-ddwyrain Cymru.

Mae Gavin yn eiriolwr dros fwy o gydlyniant rhwng y byd academaidd ac arfer proffesiynol ac yn hynny o beth mae wedi cymryd rhan o’r blaen yng nghynllun mentora RSAW. Mae hefyd wedi bod yn feirniad gwadd ar gyfer Ysgol Pensaernïaeth Birmingham ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae’n ymwneud â nifer o grwpiau proffesiynol Llywodraeth Cymru gan gynnwys Sgiliau Digidol a Diogelwch Adeiladu.

Cymwysterau

  • BSc(Anrh)
  • P.G.Dip Arch (rhagoriaeth)
  • P.G. Dip Arch Prac
  • RIBA PP-RSAW

Ieithoedd a Siaradwyd

Saesneg, Dysgwr Cymraeg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Bwrdd Cofrestru Penseiri ARB
Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain RIBA
Cymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru RSAW
Cyn-Lywydd RSAW
Aelod o Gyngor RSAW