
Cyfleusterau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol
Our Facilities
Ein Cyfleusterau
Dewch i archwilio dyfnderoedd y meddwl dynol ac ysbrydolrwydd gyda’n rhaglenni Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol. Mae ein cyfleusterau wedi’u teilwra i wella eich profiad addysgol a meithrin dealltwriaeth ddofn o’r disgyblaethau hyn.
Our Facilities Include
Ein Cyfleusterau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol
Rydym yn darparu dosbarthiadau addysgu bach sy’n cynnig amgylchedd dysgu cefnogol sy’n canolbwyntio ar gymheiriaid.
Mae pob darlith yn cael ei recordio a’i rhannu, gan sicrhau eich bod yn gallu gwylio eto pan mae’n gyfleus i chi.
Bydd adnoddau llyfrgell cynhwysfawr ar gael i chi ar y campws ac ar-lein, sy’n hanfodol ar gyfer eich astudiaethau. Mae sesiynau tiwtorial personol rheolaidd yn cynnig arweiniad academaidd a chefnogaeth fugeiliol. Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs a chyflwyniadau, gan ddileu’r angen am arholiadau ffurfiol.
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys ystod o offer TG, ystafell gyffredin i fyfyrwyr, a chyfleoedd i astudio dramor.
Yn ogystal, cewch fynediad at gasgliadau arbennig sy’n cynnig cyfoeth o adnoddau academaidd unigryw.


Adnoddau Ymchwil
Archwiliwch Gasgliadau Arbennig ac Archifau PCYDDS am adnoddau amhrisiadwy mewn Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol. O lawysgrifau prin i destunau hanesyddol, mae’r casgliadau hyn yn cefnogi ymholi academaidd dwfn ac yn cyfoethogi’ch astudiaethau gyda deunydd o ffynonellau gwreiddiol, unigryw. Dysgwch ragor yma.
Oriel Gyfleusterau
Campus Life

Bywyd ar gampws Caerfyrddin
Archwiliwch yr ystod ardderchog o gyfleusterau sydd ar gampws Caerfyrddin, ac yn cynnig profiad buddiol cyffredinol i fyfyrwyr. Mae’r campws yn cynnwys adnoddau dysgu o’r radd flaenaf, mannau ar gyfer celfyddydau creadigol, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgell yn llawn dop o gasgliadau digidol a chorfforol. Gall myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn y ganolfan chwaraeon, sy’n cynnwys campfa, dosbarthiadau ffitrwydd a chaeau chwaraeon. Yn ogystal, mae gan y campws ddigonedd o fannau cymdeithasol, caffis a hwb undeb y myfyrwyr, gan greu awyrgylch cymuned bywiog sy’n berffaith ar gyfer twf academaidd a phersonol.