Skip page header and navigation

Addysg Gynhwysol (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser

Anelir y Radd BA Addysg Gynhwysol at fyfyrwyr sydd wedi cwblhau’r Radd Sylfaen Addysg Gynhwysol.

Lluniwyd y rhaglen ar gyfer myfyrwyr sy’n gweithio fel Cynorthwywyr Addysgu / Cynorthwywyr Cymorth Dysgu neu staff eraill sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gydag amgylcheddau dysgu eraill. Nod y radd dysgu seiliedig ar waith hon yw cysylltu sefyllfaoedd y byd go iawn â dysgu, yn ogystal â’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth, polisi ac arfer.

Cyflwynir y BA Addysg Gynhwysol nid yn unig ar y tri champws, fe’i cyflwynir hefyd mewn lleoliadau cymunedol ehangach megis Ysgol Priordy Cil-maen yn Sir Benfro.

Mae gan y rhaglen ethos cryf o gefnogi myfyrwyr mewn dysgu cydweithredol, ac o ddatblygu cyfleoedd i ymwneud â chymuned ddysgu ehangach drwy ddeialog broffesiynol.

Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gyflwyno eu gwaith naill ai yn Gymraeg neu Saesneg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Hyblygrwydd – caiff sesiynau eu cyflwyno gyda’r hwyr yn ogystal ag ar ddyddiau Sadwrn
02
Dysgu Seiliedig ar Waith
03
Dilyniant gyrfaol – TAR, MA

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Gan adeiladu ar y Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol, lluniwyd y rhaglen BA atodol hon, sy’n flwyddyn o hyd, i ddwysau dealltwriaeth o addysg yn yr 21ain Ganrif ac i ddatblygu ymhellach sgiliau myfyrwyr o ran ysgrifennu academaidd, cyfathrebu a meddwl yn yr oes ddigidol.

Mae gan y rhaglen yr amcanion addysgol cyffredinol a phenodol canlynol:

  • Rhoi i fyfyrwyr wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o addysg mewn byd cyfnewidiol
  • Cynnig gwybodaeth a dealltwriaeth eang a chytbwys o brif nodweddion addysg mewn cyd-destunau amrywiol
  • Cael myfyrwyr i ofyn cwestiynau sylfaenol ynghylch y dibenion a’r gwerthoedd sy’n sail i addysg
  • Helpu myfyrwyr i ddod yn ymwybodol o faterion a phroblemau sy’n gysylltiedig â theori, polisi ac arfer addysg
  • Cael myfyrwyr i gymryd rhan mewn disgyrsiau am brosesau addysgol
  • Annog myfyrwyr i gaffael ystod o sgiliau academaidd trosglwyddadwy ac i weithio’n annibynnol ac yn gydweithredol
  • Mae’r rhaglen yn cefnogi cyflogadwyedd drwy gynnwys meysydd astudio eang sy’n adlewyrchu anghenion dysgwyr o fewn y sectorau yn ogystal ag agendâu cenedlaethol a rhyngwladol ehangach
  • Datblygu gallu myfyrwyr i lunio dadleuon rhesymegol ar faterion addysgol mewn modd clir a chydlynol
  • Hyrwyddo ystod o rinweddau personol yn cynnwys annibyniaeth, hyblygrwydd, meddwl yn adfyfyriol ac ymgysylltu beirniadol.

Mae’r rhaglen BA hefyd yn anelu at ddatblygu darpariaeth sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau a fydd yn eu paratoi i gyfrannu yn y dyfodol i addysg, i’r economi, i’r gymuned ac i’r amgylchedd, o fewn a’r tu hwnt i’w gweithle.

** Mae pum Safon Broffesiynol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynorthwyo Addysgu (Cynorthwywyr Addysgu), sef Addysgeg, Dysgu Proffesiynol, Arloesi, Arweinyddiaeth a Chydweithredu, wedi’u hymgorffori yn y modwl hwn. Bydd myfyrwyr yn mynd i’r afael yn weithredol â dysgu proffesiynol gyda’r bwriad o ddatblygu arbenigedd unigol a chyfunol i gael effaith gydweithredol, gydlynol, arloesol a chynaliadwy a arweinir gan ymchwil ar bob dysgwr.

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Cefnogi'r dysgwr

(20 credydau)

Archwilio ymddygiad ac ymyriadau yn yr amgylchedd dysgu

(20 credydau)

Anghenion ychwanegol yn eu cyd-destun

(20 credydau)

Egwyddorion dysgu ac addysgu

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Mae Rhifau'n Cyfri

(20 credydau)

Llythrennedd: allwedd i ddysg

(20 credydau)

Dathlu iaith a diwylliant - perthyn i Gymru

(20 credydau)

Iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc

(20 credydau)

Cadw ein plant yn ddiogel

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Symud oddi wrth yr ystafell ddosbarth draddodiadol: Addysg a dysgu awyr agored

(20 credydau)

Symud oddi wrth yr ystafell ddosbarth draddodiadol: Y chwyldro digidol tawel mewn addysg

(20 credydau)

Rheoli’r Ystafell Ddosbarth

(20 credydau)

Safbwyntiau byd-eang mewn addysg

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon yn denu ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau o ran cyflogaeth a chymwysterau academaidd ffurfiol.

    Nid yw’r rhaglen hon yn gofyn i ymgeiswyr feddu ar gymwysterau ffurfiol; bydd yr adran derbyniadau’n asesu addasrwydd ymgeiswyr trwy gyfweliad trylwyr a phrawf ysgrifenedig.

  • Gosodir gwaith cwrs a phrofion ymarferol mewn amrywiaeth o fformatau. Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Ymarferion gosod ymarferol yn y dosbarth
    • Chwarae rôl (e.e. ffug gyfweliadau)
    • Cyflwyniadau (e.e. cynlluniau busnes)
    • Portffolios o waith
    • Prosiectau ymchwil
    • Traethodau
    • Adroddiadau

    Gan fod y rhaglen yn denu dysgwyr o ystod o gefndiroedd, gydag amrywiaeth o brofiad gwaith a phersonol, mewn llawer o achosion mae’r asesiadau’n darparu hyblygrwydd i’r myfyriwr ddefnyddio eu cefndir a’u profiad i wneud y dysgu’n berthnasol i’w profiad gwaith blaenorol; bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu prosiectau sy’n berthnasol i’w dyheadau gyrfa.

  • Mae’r holl gostau ychwanegol a restrir yn yr adran yn ddangosol.

    Costau angenrheidiol

    Bydd angen mynediad ar ddysgwyr i galedwedd a meddalwedd cyfrifiadurol addas: tua £500.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae cysylltiadau gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector preifat a siaradwyr gwadd a chyfleoedd mentora rheolaidd wedi’u hymgorffori yn y rhaglenni TystAU a BA i amlygu’r ystod o swyddi a llwybrau gyrfa sydd ar agor i’r myfyrwyr.

    Mae cymryd rhan yn nigwyddiadau ‘Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd’ a ‘Gŵyl Dechrau Busnes yr Haf’ yn ogystal â mynychu a chysylltiadau gyda sesiynau Modelau Rôl Syniadau Mawr Cymru yn galluogi myfyrwyr i siarad gyda, a dysgu gan entrepreneuriaid llwyddiannus.

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau