Eiriolaeth (Llawn amser) (CertHE)
Mae’r radd hon yn caniatáu i chi archwilio’r berthynas rhwng eiriolaeth ac ymgyrchedd yn y gymdeithas gyfoes. Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn archwilio materion cyfredol drwy gymhwyso damcaniaethau pŵer, gwrthdaro a chydlyniant i gymdeithas ac i benderfyniadau llywodraethau, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.
Byddwch yn archwilio’r gwahanol fathau o rolau eirioli sy’n bodoli o fewn cymdeithas, o’r unigolyn sy’n eirioli ar ei ran ei hun i’r rheini sy’n cael eu cyflogi yn eiriolwyr proffesiynol, annibynnol. Byddwch hefyd yn archwilio’r rôl y mae ymgyrchedd wedi’i chwarae yn natblygiad ein cymdeithas a’r rôl y mae’n parhau i’w chwarae yn y byd heddiw. Wrth wneud hyn byddwch yn archwilio’r berthynas gymhleth rhwng eiriolaeth ac ymgyrchedd a llawer o’r gwahaniaethau damcaniaethol a gwleidyddol rhwng y ddau fath hyn o weithgaredd.
Byddwch yn ymgysylltu â fframweithiau cysyniadol a damcaniaethol, er enghraifft dinasyddiaeth a hawliau dynol, anghenion a chyfiawnder cymdeithasol, iechyd a llesiant, athroniaethau llesiant, economi wleidyddol llesiant a chyfundrefnau llesiant, damcaniaeth wleidyddol a chymdeithasol, ac arfer gwrth-ormesol, ac yn archwilio sut mae’r rhain yn gysylltiedig â chysyniadau ymgyrchedd ac eiriolaeth. Byddwch yn archwilio ymhellach farn cymdeithas am rolau eiriolwr ac ymgyrchydd a byddwch yn mynd i’r afael â’r ddadl a ydy’r naill neu’r llall yn effeithiol yn y cyd-destun cymdeithasol cyfredol.
Wrth i chi ddatblygu eich diddordebau ymchwil eich hun byddwch yn gallu archwilio’r ffyrdd y mae eiriolaeth ac ymgyrchedd yn cael eu defnyddio gan wahanol unigolion a grwpiau er mwyn ceisio unioni camarfer a newid yn y gymdeithas. Gallai’r rhain gynnwys trosedd a chyfiawnder cymdeithasol, addysg, teulu a phlentyndod, iechyd a gofal cymdeithasol, tai ac adfywio trefol, cynnal incwm a nawdd cymdeithasol, mudo, tlodi, anghyfartaledd ac allgau cymdeithasol, gwaith, cyflogaeth, a marchnadoedd llafur.
*Modiwlau dethol yn amodol i ail-ddilysu
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Cymraeg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ailddilysu.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Rhaglen blwyddyn o hyd yw Eiriolaeth (TystAU). Mae’r flwyddyn sylfaen gychwynnol yn archwilio eiriolaeth, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol ac astudiaethau cymdeithasol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Caerfyrddin
Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd. Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu dogfen ddatgelu fanylach foddhaol oddi wrth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
80 o bwyntiau UCAS.
Caiff myfyrwyr anhraddodiadol eu hystyried ar sail eu profiad a’u teilyngdod unigol.
Croesewir ymgeiswyr sydd â chymwysterau AB/Mynediad. -
Nid oes arholiadau ar y rhaglen hon oherwydd byddwch yn cwblhau ystod o asesiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau a mathau eraill o asesu yn cynnwys blogiau a phortffolios o dystiolaeth.
-
- DBS:Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu costau gwerslyfrau hanfodol, y gallai fod arnynt eu hangen i lunio traethodau, aseiniadau a thraethodau hir i fodloni gofynion academaidd pob rhaglen astudio.
- Hefyd, bydd costau pellach ar gyfer y canlynol, nad ydynt ar gael i’w prynu gan y Brifysgol:
- Llyfrau
- Dillad
- Gwaith Maes
- Argraffu a chopïo
- Deunydd ysgrifennu
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Cyfleoedd i astudio yn Ewrop a’r UD am semester ym mlwyddyn 2.
-
Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:
- Gweithiwr Cymorth Eiriolaeth – Plant ag anawsterau dysgu
- Gweithiwr Cymorth Eiriolaeth – Gofal Preswyl i Oedolion
- Swyddog Cymorth Busnes
- Eiriolwr Ysgol Plant
- Eiriolwr Ymgysylltu â’r Gymuned
- Rolau sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant chwaraeon a ffilm (yn ymateb i ddigwyddiadau presennol)
- Swyddog Cyswllt â Theuluoedd
- Eiriolwr Gofal Iechyd GIG
- Eiriolwr Annibynnol
- Eiriolwr Trais Domestig Annibynnol
- Eiriolwr Gallu Meddyliol Annibynnol
- Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol
- Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol
- Darlithydd BA Eiriolaeth (gydag astudiaethau pellach)
- Eiriolwr Gofal Plant Awdurdod Lleol
- Rheolwr Sefydliadau Gwirfoddol y Trydydd Sector
- Eiriolwr/Cymorth Disgyblion (Anghenion Dysgu Ychwanegol)
- Eiriolwr Cymorth Disgyblion
- Gweithiwr Cyswllt dan Oruchwyliaeth – Gwasanaethau Cymdeithasol
- Rheolwr Gwirfoddolwyr: Trydydd Sector
Gall graddedigion hefyd ddewis parhau i astudio a chwblhau cymwysterau ôl-radd ac ymchwil ôl-radd trwy fynd ymlaen i, naill ai:
- MA Tegwch ac Amrywiaeth mewn Cymdeithas,
- neu PhD mewn Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol.
Mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio cyllid ôl-radd drwy Gwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr Llywodraeth y DU.