Skip page header and navigation

Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (Rhan amser) (ProfDoc)

Caerfyrddin
6 Blynedd Rhan amser

Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc mewn ystod eang o rolau. Mae pob cam o’r Ddoethuriaeth Broffesiynol (Prof Doc) wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau lefel uchel o berthnasedd uniongyrchol i’r byd gwaith; bydd myfyrwyr yn cwestiynu ymchwil, yn beirniadu damcaniaethau ac yn cynnal ymchwil cadarn yn gysylltiedig â’u galwedigaeth.

Oherwydd ei bod wedi’i llunio gan ystyried anghenion pobl sy’n gweithio, cyflwynir y rhaglen yn hyblyg trwy gymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae’r Prof Doc yn rhannu sawl modwl â’i chwaer gymhwyster, y Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (MA).

Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu’n benodol at y rhai sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc mewn ystod eang o alwedigaethau ac arbenigeddau. Er enghraifft:

  • Gwasanaethau Ieuenctid
  • Gwasanaethau Teuluoedd
  • Gofal Plant
  • Addysg Blynyddoedd Cynnar
  • Gofal Cymdeithasol
  • Datblygiad Cymunedol
  • Gwaith Chwarae
  • Gweision Sifil
  • Sefydliadau’r Trydydd Sector
  • Gwasanaethau Golau Glas (yr heddlu’n arbennig)
  • Cyfiawnder Ieuenctid
  • Gwasanaethau Iechyd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
6 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Hyblygrwydd: gall y cwrs hwn addasu i gyd-fynd â’ch amserlen.
02
Cydweithio: mae’n creu cyfleoedd i chi ymgysylltu â’ch cyfoedion ym mhob modwl.
03
Ffocws: os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc, mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i’ch cefnogi a’ch herio.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Er mwyn sicrhau, fel gweithiwr proffesiynol prysur, y cewch eich cefnogi i lwyddo, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i’w chyflwyno y tu allan i oriau gwaith arferol. Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd ar ddydd Sadwrn wedi’u cefnogi gan weminarau ar-lein mynych gyda’r nos. Mae staff ar gael ar gyfer tiwtorialau gyda’r nos os oes angen, a byddant yn eich cefnogi trwy gynnig tiwtorialau dal i fyny os byddwch yn cael eich gorfodi i golli sesiynau dysgu oherwydd eich cyfrifoldebau proffesiynol.

Os ydych yn ansicr o’ch sgiliau ysgrifennu academaidd ar ôl cyfnod hir i ffwrdd o addysg ffurfiol, bydd staff yn rhoi cymorth ar ffurf tiwtorialau. Datblygir eich sgiliau ysgrifennu academaidd hefyd trwy’r adborth wedi’i dargedu a roddir gan staff cyn i chi gyflwyno eich aseiniadau.

Mae gan y rhaglen elfen gydweithredol gryf. Gallwch ddisgwyl ymgysylltu â myfyrwyr eraill ar eich cwrs i drafod a beirniadu’ch cynlluniau ymchwil eich gilydd mewn modd adeiladol.

Os byddwch yn ymuno â’r rhaglen ond wedyn yn penderfynu nad ydych am symud ymlaen i Lefel 8 (y traethawd hir), gallwch drosglwyddo i’r llwybr Gradd Meistr, ac ennill MA sy’n benodol i ddisgyblaeth.

Gorfodol

Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol

(30 credydau)

Canolbwyntio ar y Dyfodol: Effeithio ar newid ac arwain gwelliant trwy ymchwil

(30 credydau)

Dewisol

Asesu a Chydnabod Dysgu Blaenorol

(30 credydau)

Asesu a Chydnabod Dysgu Blaenorol

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Accommodation

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Dylech fod ag o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol mewn maes sy’n gysylltiedig â’r Ddoethuriaeth Broffesiynol cyn ymgeisio. Gweler hefyd chwaer gymhwyster y cwrs hwn, y Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (MA), sy’n derbyn myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu gradd israddedig yn ddiweddar.

    Dylech fod â chefndir yn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

    • Gwasanaethau Ieuenctid
    • Gwasanaethau Teuluoedd
    • Gofal Plant
    • Addysg Blynyddoedd Cynnar
    • Gofal Cymdeithasol
    • Datblygiad Cymunedol
    • Gwaith Chwarae
    • Gweision Sifil
    • Sefydliadau’r Trydydd Sector
    • Gwasanaethau Golau Glas (yr heddlu’n arbennig)
    • Cyfiawnder Ieuenctid
    • Gwasanaethau Iechyd
  • Mae’r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o fathau o asesiadau. Mewn rhai modylau, cewch eich asesu trwy bortffolios, cyflwyniadau blog, a chyflwyniad tebyg i gynhadledd. Mewn eraill, mae’r asesu’n cynnwys cynnig ymchwil, ffurflen foeseg wedi’i chwblhau ac adroddiad ymchwil.

    Ar gyfer pob math o asesiad, bydd staff yn rhoi adborth i’ch caniatáu i ddatblygu eich syniadau ac ymateb i gyngor adeiladol cyn y cyflwyniad terfynol.

    Bydd y casgliad o fathau o asesiadau’n datblygu eich sgiliau mewn ysgrifennu academaidd, cyflwyno o flaen cynulleidfa, arfer adfyfyriol, meddwl yn feirniadol a dylunio ymchwil.

  • Gall myfyrwyr ddewis prynu gwerslyfrau i gefnogi eu hastudiaethau. Nid yw hyn yn ofynnol oherwydd mae’r testunau ar gael yn gyffredinol yn y llyfrgell neu ar-lein. Mae costau’r gwerslyfrau’n amrywio o £20 i £100.

    Gall fod cyfleoedd i fynychu cynhadledd(au) ymchwil, lle gallai hyn fod yn briodol i’r myfyriwr ac yn gysylltiedig â’i ddiddordeb ymchwil. Mae’r costau’n amrywio o £50–£500 yn dibynnu ar y lleoliad a’r hyd mynychu.

    Bydd dewis o gwrs preswyl ar gyfer y ddoethuriaeth broffesiynol sy’n costio rhwng £250 a £500.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Defnyddiwyd trafodaethau ac adborth gan sefydliadau sy’n weithgar ym maes gwasanaethau plant a phobl ifanc i gynllunio’r cwrs, a byddant yn parhau i lywio datblygiadau i’r dyfodol yn amcanion a chynnwys y rhaglen.

    Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn llenwi bwlch yn narpariaeth cymwysterau ymchwil ôl-raddedig sy’n canolbwyntio ar wasanaethau plentyndod, ieuenctid a chymunedol. Fel person graddedig o’r rhaglen, byddai gennych set arbennig a soffistigedig o sgiliau a fyddai’n eich gwahaniaethu wrth eich cyfoedion. Byddai’r galluoedd ac arbenigedd beirniadol datblygedig a enillwyd o’ch astudiaethau’n gwella eich cyfleoedd dilyniant gyrfa a chyflogadwyedd ar draws meini prawf amrywiol.

    O dan y Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuraidd, byddech yn cyflawni’r amcanion dysgu canlynol:

    • Nodi cyfleoedd
    • Creadigrwydd
    • Meddwl yn foesegol a chynaliadwy
    • Cymhelliant a dycnwch
    • Mentro
    • Cynllunio a rheoli
    • Ymdopi ag ansicrwydd, amwysedd a risg
    • Dysgu trwy brofiad.

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau