Skip page header and navigation

Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) (Llawn amser) (PGDip)

Caerfyrddin
1 Flwyddyn Llawn amser

Diben rhaglenni Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) (PgDip, MA) yw arfogi myfyrwyr â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ddod yn weithwyr ieuenctid effeithiol sydd â chymwysterau proffesiynol.  Caiff y rhaglenni eu hardystio’n broffesiynol gan ETS Cymru, gan gynnig cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid.

Gweledigaeth y rhaglenni yw creu ymarferwyr ac arweinwyr effeithiol ac adfyfyriol, ac mae’r rhaglen yn herio myfyrwyr i fagu mwy a mwy o annibyniaeth wrth nodi eu hanghenion dysgu a datblygu eu hunain.

Trwy safbwynt y gwyddorau cymdeithasol mae’r rhaglenni’n archwilio heriau cyfredol a chyfoes y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, gan gynnwys:

  • Trawma
  • Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
  • Camddefnyddio Sylweddau
  • Llinellau Cyffuriau
  • Hawliau Plant
  • Iechyd a Llesiant
  • Effaith perthnasoedd

Mae’r rhaglenni’n cyfuno theori, polisi ac arfer ar ddull cymhwysol er mwyn galluogi graddedigion i fod yn academyddion, ymarferwyr ac arweinwyr rhagorol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Ennill cymhwyster sy'n cael ei gymeradwyo'n broffesiynol a chymhwyster ôl-raddedig academaidd.
02
Archwilio ymarfer gyda phobl ifanc a'u cymunedau trwy gymryd rhan mewn cyfleoedd lleoliadau gwaith ieuenctid ymhlith ystod eang o bobl ifanc a lleoliadau cymunedol..
03
Y Drindod Dewi Sant yw’r unig le y gallwch astudio’r radd hon trwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd yr MA a’r PgDip Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) yn galluogi myfyrwyr i weithio gyda phobl ifanc, cymunedau a theuluoedd, ac i fod yn ymarferwyr sy’n addas i’r diben yn y 21ain ganrif.  Trwy safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, bydd y rhaglenni yn archwilio arfer gyda phobl ifanc a’u cymunedau mewn modd cymhwysol, gydag ymrwymiad eglur i gyfiawnder cymdeithasol, arfer gwrth-ormesol, ac wedi’i seilio ar werthoedd ac egwyddorion craidd gwaith ieuenctid.

Mae’r cyrsiau’n paratoi myfyrwyr i fod yn weithwyr proffesiynol i weithio gyda phobl ifanc ar nifer o broblemau sy’n gyfredol iawn yn y gymdeithas sydd ohoni, megis Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Digartrefedd, Camddefnyddio Sylweddau, Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed, Tlodi a Gordewdra ymhlith pobl ifanc, ac mae’n archwilio’r rhain mewn modd cymhwysol, gan dynnu ar ymchwil cyfredol ac arfer gorau er mwyn paratoi graddedigion i fod yn ymarferwyr ac arweinwyr effeithiol ac adfyfyriol iawn yn eu dewis feysydd. Mae’r rhaglen yn cyd-fynd yn gyflawn ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i “ddatblygu a chryfhau darpariaeth benodol wedi’i hanelu at gefnogi a gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc sy’n fwy agored i niwed neu sydd ar y cyrion” (LlC, 2019, t.13).

Gorfodol

Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol

(30 credydau)

Arfer Proffesiynol 1: Theori, Polisi ac Arfer Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol

(30 credydau)

Arfer Proffesiynol 2: Pobl Ifanc a Chymdeithas mewn Ffocws

(30 credydau)

Traethawd Hir: Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg

(60 credydau)

Dewisol

Cymunedau Cynaliadwy

(30 credydau)

Goruchwyliaeth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

(30 credydau)

Cymhwyso Dulliau Theatr mewn Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol

(30 credyd)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

    • Bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu dogfen datgeliad manylach foddhaol ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
    • Fel arfer bydd gofyn bod gan ymgeiswyr radd anrhydedd.
    • Caiff ymgeiswyr sydd â chymwysterau a phrofiadau galwedigaethol hefyd eu hystyried.
    • O ganlyniad i gymeradwyaeth broffesiynol y rhaglen radd, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf 200 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol.
  • Lluniwyd asesiadau i adlewyrchu gofynion y maes, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd eang yn y myfyrwyr.    Nid oes unrhyw arholiadau.

  • Gorfodol: 
    Costau DBS.

    Costau Angenrheidiol:
    Costau teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau (mae dau leoliad).

    Optional:
    Dim

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Caiff graddedigion MA a  PgDip Gwaith Ieuenctid ac  Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) gymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith ieuenctid. Gellir ystyried y cymhwyster proffesiynol hwn yn basbort i ymarfer, oherwydd bod y cymhwyster yn cael ei gydnabod ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac mewn llawer o wledydd ar draws y byd.

    Mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i waith yn uniongyrchol ym maes gwaith ieuenctid, yn y sector gwirfoddol a’r sector a gynhelir, gan weithio wyneb yn wyneb â phobl ifanc neu’n gweithio ar lefelau rheoli.  Fodd bynnag, mae’r cymhwyster gwaith ieuenctid yn adnabyddus am ei allu i drosglwyddo i feysydd cysylltiedig ehangach, sy’n dangos sut y gellir trosglwyddo’r sgiliau y mae’r graddedigion wedi’u datblygu wrth astudio ar y rhaglen radd i lawer o leoliadau eraill, a’u bod yn sgiliau a groesawir o fewn timau aml-ddisgyblaethol.

    Dyma nifer o enghreifftiau penodol o gyrchfannau graddedigion:

    • Gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb mewn ystod o gyd-destunau
    • Addysg gymunedol
    • Cyfiawnder Ieuenctid
    • Timau o Amgylch y Teulu
    • Rheolwr Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Uwch Swyddogion Ieuenctid mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Local Government Officer
    • Prif Swyddog Ieuenctid
    • Darlithwyr mewn Addysg Uwch
    • Darlithwyr mewn Addysg Bellach

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau