Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (Rhan amser) (ProfDoc)
Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc mewn ystod eang o rolau. Mae pob cam o’r Ddoethuriaeth Broffesiynol (Prof Doc) wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau lefel uchel o berthnasedd uniongyrchol i’r byd gwaith; bydd myfyrwyr yn cwestiynu ymchwil, yn beirniadu damcaniaethau ac yn cynnal ymchwil cadarn yn gysylltiedig â’u galwedigaeth.
Oherwydd ei bod wedi’i llunio gan ystyried anghenion pobl sy’n gweithio, cyflwynir y rhaglen yn hyblyg trwy gymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Mae’r Prof Doc yn rhannu sawl modwl â’i chwaer gymhwyster, y Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (MA).
Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu’n benodol at y rhai sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc mewn ystod eang o alwedigaethau ac arbenigeddau. Er enghraifft:
- Gwasanaethau Ieuenctid
- Gwasanaethau Teuluoedd
- Gofal Plant
- Addysg Blynyddoedd Cynnar
- Gofal Cymdeithasol
- Datblygiad Cymunedol
- Gwaith Chwarae
- Gweision Sifil
- Sefydliadau’r Trydydd Sector
- Gwasanaethau Golau Glas (yr heddlu’n arbennig)
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Gwasanaethau Iechyd.
Manylion y cwrs
- Cyfunol (ar y campws)
- Rhan amser
- Saesneg
- Cymraeg
- Dwyieithog
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Er mwyn sicrhau, fel gweithiwr proffesiynol prysur, y cewch eich cefnogi i lwyddo, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i’w chyflwyno y tu allan i oriau gwaith arferol. Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd ar ddydd Sadwrn wedi’u cefnogi gan weminarau ar-lein mynych gyda’r nos. Mae staff ar gael ar gyfer tiwtorialau gyda’r nos os oes angen, a byddant yn eich cefnogi trwy gynnig tiwtorialau dal i fyny os byddwch yn cael eich gorfodi i golli sesiynau dysgu oherwydd eich cyfrifoldebau proffesiynol.
Os ydych yn ansicr o’ch sgiliau ysgrifennu academaidd ar ôl cyfnod hir i ffwrdd o addysg ffurfiol, bydd staff yn rhoi cymorth ar ffurf tiwtorialau. Datblygir eich sgiliau ysgrifennu academaidd hefyd trwy’r adborth wedi’i dargedu a roddir gan staff cyn i chi gyflwyno eich aseiniadau.
Mae gan y rhaglen elfen gydweithredol gryf. Gallwch ddisgwyl ymgysylltu â myfyrwyr eraill ar eich cwrs i drafod a beirniadu’ch cynlluniau ymchwil eich gilydd mewn modd adeiladol.
Os byddwch yn ymuno â’r rhaglen ond wedyn yn penderfynu nad ydych am symud ymlaen i Lefel 8 (y traethawd hir), gallwch drosglwyddo i’r llwybr Gradd Meistr, ac ennill MA sy’n benodol i ddisgyblaeth.
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Accommodation
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Dylech fod ag o leiaf dwy flynedd o brofiad proffesiynol mewn maes sy’n gysylltiedig â’r Ddoethuriaeth Broffesiynol cyn ymgeisio. Gweler hefyd chwaer gymhwyster y cwrs hwn, y Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (MA), sy’n derbyn myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu gradd israddedig yn ddiweddar.
Dylech fod â chefndir yn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
- Gwasanaethau Ieuenctid
- Gwasanaethau Teuluoedd
- Gofal Plant
- Addysg Blynyddoedd Cynnar
- Gofal Cymdeithasol
- Datblygiad Cymunedol
- Gwaith Chwarae
- Gweision Sifil
- Sefydliadau’r Trydydd Sector
- Gwasanaethau Golau Glas (yr heddlu’n arbennig)
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Gwasanaethau Iechyd
-
Mae’r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o fathau o asesiadau. Mewn rhai modylau, cewch eich asesu trwy bortffolios, cyflwyniadau blog, a chyflwyniad tebyg i gynhadledd. Mewn eraill, mae’r asesu’n cynnwys cynnig ymchwil, ffurflen foeseg wedi’i chwblhau ac adroddiad ymchwil.
Ar gyfer pob math o asesiad, bydd staff yn rhoi adborth i’ch caniatáu i ddatblygu eich syniadau ac ymateb i gyngor adeiladol cyn y cyflwyniad terfynol.
Bydd y casgliad o fathau o asesiadau’n datblygu eich sgiliau mewn ysgrifennu academaidd, cyflwyno o flaen cynulleidfa, arfer adfyfyriol, meddwl yn feirniadol a dylunio ymchwil.
-
Gall myfyrwyr ddewis prynu gwerslyfrau i gefnogi eu hastudiaethau. Nid yw hyn yn ofynnol oherwydd mae’r testunau ar gael yn gyffredinol yn y llyfrgell neu ar-lein. Mae costau’r gwerslyfrau’n amrywio o £20 i £100.
Gall fod cyfleoedd i fynychu cynhadledd(au) ymchwil, lle gallai hyn fod yn briodol i’r myfyriwr ac yn gysylltiedig â’i ddiddordeb ymchwil. Mae’r costau’n amrywio o £50–£500 yn dibynnu ar y lleoliad a’r hyd mynychu.
Bydd dewis o gwrs preswyl ar gyfer y ddoethuriaeth broffesiynol sy’n costio rhwng £250 a £500.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Defnyddiwyd trafodaethau ac adborth gan sefydliadau sy’n weithgar ym maes gwasanaethau plant a phobl ifanc i gynllunio’r cwrs, a byddant yn parhau i lywio datblygiadau i’r dyfodol yn amcanion a chynnwys y rhaglen.
Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn llenwi bwlch yn narpariaeth cymwysterau ymchwil ôl-raddedig sy’n canolbwyntio ar wasanaethau plentyndod, ieuenctid a chymunedol. Fel person graddedig o’r rhaglen, byddai gennych set arbennig a soffistigedig o sgiliau a fyddai’n eich gwahaniaethu wrth eich cyfoedion. Byddai’r galluoedd ac arbenigedd beirniadol datblygedig a enillwyd o’ch astudiaethau’n gwella eich cyfleoedd dilyniant gyrfa a chyflogadwyedd ar draws meini prawf amrywiol.
O dan y Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuraidd, byddech yn cyflawni’r amcanion dysgu canlynol:
- Nodi cyfleoedd
- Creadigrwydd
- Meddwl yn foesegol a chynaliadwy
- Cymhelliant a dycnwch
- Mentro
- Cynllunio a rheoli
- Ymdopi ag ansicrwydd, amwysedd a risg
- Dysgu trwy brofiad.