Skip page header and navigation

Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (Llawn amser) (DipAU)

Caerfyrddin
2 Flynedd Llawn amser
88 o Bwyntiau UCAS

Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar yn rhaglen Dip AU dwy flynedd, llawn amser sy’n cynnwys darlithoedd yn ogystal â phrofiad ymarferol ar leoliad.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
YPS5
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cymhwyster a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru yn drwydded i arfer yn y sector blynyddoedd cynnar - gan gefnogi cyflogadwyedd a datblygiad proffesiynol.
02
Mae’n darparu cymwyseddau ymarferydd graddedig yn unol â’r ECSDN yn Lloegr.
03
Rydym yn canolbwyntio ar eich datblygiad fel gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar a byddwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus a chyffrous ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau.
04
Dosbarthiadau bach ac aseiniadau arloesol sy’n cyfoethogi sgiliau cyflogaeth a dim arholiadau.
05
Profiadau myfyrwyr - ehangu gorwelion trwy ymweliadau, siaradwyr gwadd, a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau ychwanegol i wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth.
06
Mae astudiaethau dwyieithog a chyfrwng Cymraeg wrth galon ein darpariaeth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd myfyrwyr yn dysgu am bob agwedd ar addysg a gofal plant ifanc, gan roi cyfleoedd i fyfyrwyr gysylltu gweithgareddau ymarferol a phrofiadau â damcaniaethau’n ymwneud â datblygiad cyfannol.

Bydd y gweithgareddau dysgu’n cynnwys trafodaethau grŵp, gweithdai, ymweliadau astudio yn ogystal â darlithoedd er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o bynciau perthnasol.

Mae pwyslais ar ddysgu ymarferol er mwyn cefnogi dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng damcaniaeth ac arfer o fewn y blynyddoedd cynnar.

Bydd siaradwyr gwadd yn darparu cyfleoedd i glywed gan arbenigwyr sy’n arwain y sector ac yn cadw myfyrwyr yn gyfredol â pholisi a datblygiadau  diweddar o fewn y sector blynyddoedd cynnar.

Mae hefyd ymweliadau preswyl dewisol ag ardaloedd eraill o’r DU a thramor.

Datblygiad Dynol

(20 credydau)

Yr Ymarferydd Proffesiynol

(20 credydau)

Chwarae Plant: Theori ac Arfer

(20 credydau)

Y 1000 diwrnod cyntaf

(20 credydau)

Iaith a Llythrennedd yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Syndod a rhyfeddod - gwyddoniaeth, mathemateg a'r awyr agored

(20 credydau)

Arweinyddiaeth a gwaith tîm yn y blynyddoedd cynnar

(20 credydau)

Diogelu: arfer, deddfwriaeth a'r tîm amlddisgyblaethol

(20 credydau)

Lles, gofal a byw'n iach

(20 credydau)

Ymchwil ar gyfer Dysgu

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Cynnig nodweddiadol ar gyfer y cwrs hwn yw 88-104 o bwyntiau UCAS.

    Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

    Mae’r radd hon yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n gadael ysgol ar ôl astudio amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys Safon Uwch, BTEC, CACHE a Bagloriaeth Cymru. Gellir cysylltu’r pynciau cwrs hyn â datblygiad a gofal plant; fodd bynnag, mae’r radd hefyd yn briodol ar gyfer y rheiny nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau gofal  plant penodol ac sydd wedi astudio pynciau fel iaith, y celfyddydau, cerddoriaeth, drama, mathemateg, y gwyddorau neu’r Dyniaethau.

    Mae’r rhaglen Blynyddoedd Cynnar yn annog a rhoi gwerth ar geisiadau gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd at addysg.

    Yn rhan o’r broses gwneud cais, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fynychu diwrnodau ymweld. Mae hyn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ymweld â’r campws, cwrdd â’r darlithwyr, gofyn cwestiynau am y radd a mynd am dro o amgylch y safle gyda myfyriwr cyfredol.

    Yn ystod diwrnodau ymweld, mae darlithwyr y cwrs bob amser yn ymddiddori ym mhrofiadau’r ymgeiswyr o wirfoddoli a gweithio gyda phlant ifanc, er enghraifft, lleoliadau ysgol/coleg. Mae’r tîm hefyd yn hoffi clywed am ddiddordebau, hobïau a chyfrifoldebau’r ymgeiswyr.

    Er mwyn ennill cymwyseddau ymarferydd graddedig mae’n bosibl y bydd angen TGAU  Mathemateg a Saesneg gradd C neu gymwysterau llythrennedd a rhifedd cyfatebol addas arall hefyd.

  • Mae’r rhaglen yn cael ei hasesu 100% drwy waith cwrs. Nid oes unrhyw arholiadau.

    Rydym ni wedi gweld bod defnyddio ystod amrywiol o ddulliau asesu’n cynyddu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu datrys problemau ac sydd ag ystod o sgiliau cyflogadwyedd trosglwyddadwy.

    Mae’r asesu’n rhoi cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis y gallu i weithio mewn tîm, cyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ar yr un pryd â defnyddio ystod o ddulliau o rannu gwybodaeth yn cynnwys papurau briffio, posteri academaidd, dadleuon grŵp a thrafodaethau proffesiynol.

    Hefyd ceir cyfleoedd am brofiadau gwaith ymarferol, gan gefnogi cyflogadwyedd, datblygiad proffesiynol a gyrfaoedd.

    Mae astudiaeth ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn ganolog i’n darpariaeth; gallwch ddewis cofrestru ar y rhaglen cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg a gallwch gyflwyno’ch aseiniadau yn y naill iaith neu’r llall.

  • Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44. 

    Mae’n rhaid i fyfyrwyr gael cyfwerth â 700 awr o brofiad ymarferol mewn lleoedd fel lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd costau teithio a chostau lluniaeth yn sgil hyn.

    Efallai y bydd rhaid i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol gan fod rhaid iddynt fynychu rhai darlithoedd modwl gyda dillad addas ar gyfer astudio yn yr awyr agored.

    Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd y rhageln yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain.

    Yn ogystal â hyn, mae’r Blynyddoedd Cynnar yn trefnu cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr gael cymwysterau ychwanegol yn ystod rhan olaf eu rhaglen, er enghraifft Iechyd a Diogelwch, Amddiffyn. Bydd y rhain yn gofyn i’r myfyrwyr dalu costau; a chaiff y gost ei phennu gan y darparwr. 

    Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd dewisol i fyfyrwyr i gymryd rhan mewn ymweliadau tu hwnt i’r campws er enghraifft Caerdydd, Llundain, Sweden a Chanada. Rhaid i’r myfyrwyr dalu cost yr ymweliadau dewisol hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion yn mynd ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

    • Cymorth anghenion dysgu ychwanegol
    • Arweinydd ar ôl ysgol
    • Gwarchodwr plant
    • Rolau gydag elusennau plant (e.e. Barnardo’s)
    • Swyddog Cymorth Cymunedol
    • Hwylusydd Teuluoedd
    • Swyddog Cymorth Teuluoedd
    • Swyddog Rhianta
    • Cymorth Bugeiliol
    • Gweithwyr chwarae
    • Arweinwyr Ystafell
    • Rheolwr Lleoliad
    • Gweithwyr Ieuenctid

    Astudiaethau Pellach

    Mae rhai o’n graddedigion yn mynd yn eu blaenau i astudiaethau pellach eraill. Mae rhai myfyrwyr wedi mynd ymlaen i’n rhaglenni MA ein hunain, gan gynnwys ein MA Llythrennedd Cynnar ac MA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar.

    Mae rhaglenni ôl-raddedig fel y rhain yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr uwchsgilio a dyfnhau eu dealltwriaeth o blant ifanc a’u teuluoedd. Mae astudiaethau o’r fath wedi galluogi myfyrwyr ôl-raddedig i symud ymlaen yn eu maes gwaith cyfredol ac i eraill symud i yrfaoedd newydd.

    Llwybr i addysgu

    Yn fyfyriwr Blynyddoedd Cynnar Y Drindod Dewi Sant, byddwn yn sicrhau y cewch gyfweliad ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd, ar yr amod y byddwch yn bodloni’r gofynion cymwysterau mynediad. Wrth wneud cais ar gyfer y rhaglen TAR Cynradd fe fyddwn, ar y cyd ag Addysg Gychwynnol Athrawon, yn eich cefnogi drwy proses gwneud cais a chyfweld ffug.

    Astudiaeth ôl-raddedig a llwybrau amgen

    Hefyd, bydd graddedigion yn gallu symud ymlaen i nifer o gyrsiau ôl-radd yn eu maes diddordeb; mae dosbarth da mewn gradd Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer llawer o lwybrau ôl-radd.

    Isod, ceir ychydig esiamplau o lwybrau y mae graddedigion blaenorol wedi’u cymryd.

    • Teulu a Chymunedau
    • Nyrsio
    • Therapi Chwarae
    • Polisi a Llywodraeth
    • Ymchwil
    • Gwaith Cymdeithasol
    • Therapi Lleferydd ac Iaith

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau