Skip page header and navigation

Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (MA)

Llambed
3 blwyddyn Rhan-amser (yn cynnwys 2 flynedd a addysgir a 12 mis o ymchwil)

Mae’r rhaglen hon wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc mewn ystod eang o rolau. Mae pob cam o’r Radd Meistr hon wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau lefel uchel o berthnasedd uniongyrchol i’r byd gwaith; bydd myfyrwyr yn cwestiynu ymchwil, yn beirniadu damcaniaethau ac yn cynnal ymchwil cadarn sy’n gysylltiedig â’u galwedigaeth bresennol neu yn y dyfodol.

Oherwydd ei bod wedi’i llunio gan ystyried anghenion pobl sy’n gweithio, cyflwynir y rhaglen yn hyblyg trwy gymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Mae’r MA’n rhannu sawl modwl â’i chwaer gymhwyster, y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned. Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol yn cynnwys deunydd ar lefel Gradd Meistr a lefel Ddoethurol. Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r rhaglen MA hon ddewis symud ymlaen i adran Ddoethurol (ymchwil) y Ddoethuriaeth Broffesiynol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
3 blwyddyn Rhan-amser (yn cynnwys 2 flynedd a addysgir a 12 mis o ymchwil)

Pam dewis y cwrs hwn

01
Hyblygrwydd: gall y cwrs hwn addasu i gyd-fynd â’ch amserlen.
02
Cydweithio: mae’n creu cyfleoedd i chi ymgysylltu â’ch cyfoedion ym mhob modwl.
03
Ffocws: os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc, mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i’ch cefnogi a’ch herio.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Er mwyn sicrhau, fel gweithiwr proffesiynol prysur, y cewch eich cefnogi i lwyddo, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i’w chyflwyno y tu allan i oriau gwaith arferol. Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd ar ddydd Sadwrn wedi’u cefnogi gan weminarau ar-lein mynych gyda’r nos. Mae staff ar gael ar gyfer tiwtorialau gyda’r nos os oes angen, a byddant yn eich cefnogi trwy gynnig tiwtorialau dal i fyny os byddwch yn cael eich gorfodi i golli sesiynau dysgu oherwydd eich cyfrifoldebau proffesiynol.

Os ydych yn ansicr o’ch sgiliau ysgrifennu academaidd ar ôl cyfnod hir i ffwrdd o addysg ffurfiol, bydd staff yn rhoi cymorth ar ffurf tiwtorialau. Datblygir eich sgiliau ysgrifennu academaidd hefyd trwy’r adborth wedi’i dargedu a roddir gan staff cyn i chi gyflwyno eich aseiniadau.

Mae gan y rhaglen elfen gydweithredol gryf. Gallwch ddisgwyl ymgysylltu â myfyrwyr eraill ar eich cwrs i drafod a beirniadu’ch cynlluniau ymchwil eich gilydd mewn modd adeiladol.

Os byddwch yn ymuno â’r rhaglen ond yn penderfynu’n ddiweddarach nad ydych am gwblhau’r ystod lawn o fodylau Lefel 7, gallwch ddewis graddio gyda Thystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd) neu Ddiploma Ôl-raddedig (120 credyd).

Cymunedau Cynaliadwy

(30 credydau)

Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol

(30 credydau)

Goruchwyliaeth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Accommodation

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Gallwch gychwyn y cwrs hwn ar ôl cwblhau gradd israddedig mewn pwnc cysylltiedig, neu ar ôl treulio cyfnod byr neu hir allan o addysg. Bydd gan sawl myfyriwr ar yr MA hwn swyddi rhan-amser neu lawn amser ym maes gwasanaethau plant, ieuenctid neu gymunedol, a bydd sawl un yn eu cadw wrth astudio’n hyblyg o gwmpas eu hymrwymiadau proffesiynol.

    Fel darpar fyfyriwr, efallai bod gennych gefndir yn un neu fwy o’r meysydd canlynol, neu efallai eich bod yn bwriadu datblygu eich gyrfa ynddynt:

    • Gwasanaethau Ieuenctid
    • Gwasanaethau Teuluoedd
    • Gofal Plant
    • Addysg Blynyddoedd Cynnar
    • Gofal Cymdeithasol
    • Datblygiad Cymunedol
    • Gwaith Chwarae
    • Gweision Sifil
    • Sefydliadau’r Trydydd Sector
    • Gwasanaethau Golau Glas (yr heddlu’n arbennig)
    • Cyfiawnder Ieuenctid
    • Gwasanaethau Iechyd

    Os oes gennych o leiaf dwy flynedd o brofiad mewn galwedigaeth berthnasol yn barod, efallai yr hoffech edrych ar y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned.

  • Mae’r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o fathau o asesiadau. Mewn rhai modylau, cewch eich asesu trwy bortffolios, cyflwyniadau blog, a chyflwyniad tebyg i gynhadledd. Mewn eraill, mae’r asesu’n cynnwys cynnig ymchwil, ffurflen foeseg wedi’i chwblhau ac adroddiad ymchwil.

    Ar gyfer pob math o asesiad, bydd staff yn rhoi adborth i’ch caniatáu i ddatblygu eich syniadau ac ymateb i gyngor adeiladol cyn y cyflwyniad terfynol.

    Bydd y casgliad o fathau o asesiadau’n datblygu eich sgiliau mewn ysgrifennu academaidd, cyflwyno o flaen cynulleidfa, arfer adfyfyriol, meddwl yn feirniadol a dylunio ymchwil.

  • Gall myfyrwyr ddewis prynu gwerslyfrau i gefnogi eu hastudiaethau. Nid yw hyn yn ofynnol oherwydd mae’r testunau ar gael yn gyffredinol yn y llyfrgell neu ar-lein. Mae costau’r gwerslyfrau’n amrywio o £20 i £100.

    Gall fod cyfleoedd i fynychu cynhadledd(au) ymchwil, lle gallai hyn fod yn briodol i’r myfyriwr ac yn gysylltiedig â’i ddiddordeb ymchwil. Mae’r costau’n amrywio o £50–£500 yn dibynnu ar y lleoliad a’r hyd mynychu.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Defnyddiwyd trafodaethau ac adborth gan sefydliadau sy’n weithgar ym maes gwasanaethau plant a phobl ifanc i gynllunio’r cwrs, a byddant yn parhau i lywio datblygiadau i’r dyfodol yn amcanion a chynnwys y rhaglen. Mae hyn yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn ennill sgiliau sy’n berthnasol yn broffesiynol a gwybodaeth o werth amlwg i gyflogwyr presennol ac yn y dyfodol.

    Mae’r Radd Meistr hon yn llenwi bwlch yn narpariaeth llwybrau MA â ffocws ym maes y Blynyddoedd Cynnar. Fel person graddedig o’r rhaglen, byddai gennych set arbennig a soffistigedig o sgiliau a fyddai’n eich gwahaniaethu wrth eich cyfoedion. Byddai’r galluoedd ac arbenigedd beirniadol datblygedig a enillwyd o’ch astudiaethau’n gwella eich cyfleoedd dilyniant gyrfa a chyflogadwyedd ar draws meini prawf amrywiol.

    O dan y Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuraidd, byddech yn cyflawni’r amcanion dysgu canlynol:

    • Nodi cyfleoedd
    • Creadigrwydd
    • Meddwl yn foesegol a chynaliadwy
    • Cymhelliant a dycnwch
    • Mentro
    • Cynllunio a rheoli
    • Ymdopi ag ansicrwydd, amwysedd a risg
    • Dysgu trwy brofiad.

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau