Archaeoleg gyda Diwylliant Aifft yr Hen Fyd (BA Anrh)
Os oes gennych chi ddiddordeb mawr yn niwylliant Aifft yr Henfyd a hoffech chi archwilio sut mae’r gorffennol yn siapio’r byd sydd ohoni, mae’r rhaglen hon yn cynnig cyfle unigryw i astudio archaeoleg gyda ffocws ar hanes cyfoethog yr Aifft. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau astudio diwylliant materol, treftadaeth, a’r arferion sydd wedi helpu i ddatgelu dirgelion yr Aifft. Byddwch yn cael profiadau ymarferol gydag arteffactau go iawn, yn dysgu gan arbenigwyr yn y maes, ac yn archwilio ymagweddau damcaniaethol sy’n cysylltu archaeoleg ag astudiaethau amgueddfeydd, astudiaethau treftadaeth ac anthropoleg.
Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn ymgysylltu ag ystod eang o bynciau sy’n ymwneud ag Eifftoleg ac arfer archeolegol. Nid yn unig y byddwch yn astudio’r Aifft ond hefyd byddwch yn edrych ar hanes yr henfyd mewn ffordd gymharol, gan ddarganfod cysylltiadau rhwng gwahanol wareiddiadau hynafol, gan gynnwys Groeg a Rhufain. Mae’r cwrs yn cydbwyso profiadau ymarferol â gwybodaeth ddamcaniaethol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sylfaen gref yn y ddwy agwedd ar archaeoleg.
Rhan gyffrous o’r cwrs hwn yw ei ffocws ar waith maes a chloddfeydd. Fe gewch gyfleoedd i gymryd rhan mewn cloddfeydd archeolegol go iawn, gan ddysgu sut i ddatgelu a dehongli tystiolaeth o’r gorffennol. Mae’r dull dysgu ymarferol hwn, a gefnogir gan eich astudiaethau academaidd, yn eich galluogi i ddeall pwysigrwydd diwylliant materol a threftadaeth mewn cyd-destun ehangach. Byddwch yn dysgu sut mae arteffactau a safleoedd hynafol yn cael eu cadw a’u cyflwyno i’r cyhoedd, gan ddarparu sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfaoedd ym maes astudiaethau treftadaeth ac amgueddfeydd.
Mae’r rhaglen yn annog dull astudio rhyngddisgyblaethol, gan gyfuno pynciau fel anthropoleg a hanes i ddyfnhau eich dealltwriaeth o gymdeithasau hynafol. Erbyn diwedd eich astudiaethau, nid yn unig y bydd gennych wybodaeth fanwl am Aifft yr Henfyd ond bydd gennych hefyd ymwybyddiaeth ehangach o sut mae gwahanol wareiddiadau wedi siapio hanes dyn.
Mae’r radd hon yn berffaith ar gyfer y rhai sy’n dymuno dilyn gyrfaoedd mewn archaeoleg, amgueddfeydd, astudiaethau treftadaeth, neu feysydd cysylltiedig. Trwy gyfuniad o ymagweddau damcaniaethol a phrofiadau ymarferol, mae’n paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o gyfleoedd cyffrous sy’n cynnwys gweithio gyda’r gorffennol i ddeall y presennol a’r dyfodol yn well.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Ar y campws
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth addysgu yn canolbwyntio ar ddysgu gweithredol, ymarferol ynghyd ag archwilio academaidd. Ein nod yw ennyn diddordeb myfyrwyr gydag archaeoleg, diwylliant materol, ac astudiaethau treftadaeth trwy waith maes, trin a thrafod gwrthrychau ac astudiaethau beirniadol. Mae’r cwrs yn annog adyfyrio’n ddwys ar berthnasedd y gorffennol i’r presennol, gan ddefnyddio Aifft yr Henfyd fel canolbwynt ar gyfer trafodaethau ehangach.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu sylfaen gref mewn archaeoleg, gan ganolbwyntio ar ddiwylliant Aifft yr Henfyd a’i gweddillion materol. Bydd modylau craidd yn eich cyflwyno i theori a dulliau archeolegol, gyda phynciau dewisol yn cwmpasu marwolaeth a chladdedigaeth, celf hynafol, twristiaeth dywyll a hieroglyffau. Bydd gwaith maes ymarferol a phrosiectau mewn amgueddfeydd yn dod ag Aifft yr Henfyd a gwareiddiadau hynafol eraill yn fyw, gan osod y sylfeini ar gyfer eich taith academaidd.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credits)
(20 credydau)
(20 credydau)
Bydd eich ail flwyddyn yn adeiladu ar y sylfeini hyn gan ymchwilio’n ddyfnach i bynciau megis marwolaeth yn Aifft yr Henfyd, archaeoleg gwrthdaro, a’r cydadwaith rhwng yr Egeaidd a’r Dwyrain Agos. Byddwch yn archwilio sut mae’r gorffennol yn cael ei gynrychioli yn y diwylliant modern ac yn parhau â modylau ymarferol mewn cloddio a gwaith maes. Mae’r flwyddyn hon hefyd yn cynnig cyfle i ymgysylltu ag astudiaethau amgueddfeydd ac i ymgymryd â lleoliad proffesiynol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Blwyddyn
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol, gan gymhwyso’ch gwybodaeth i faes arbenigol o’ch dewis. Bydd modylau uwch mewn diwylliant materol, treftadaeth a chynrychiolaeth amgueddfeydd yn eich paratoi ar gyfer rolau proffesiynol ym maes archaeoleg, mewn amgueddfeydd a’r sector treftadaeth.
(40 credydau)
Blwyddyn
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Gwybodaeth allweddol
-
96-112 o Bwyntiau UCAS a Chyfweliad
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Cyngor a Chymorth DerbynEfallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol.
-
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50 -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn cynnwys:
- Sectorau Amgueddfeydd, Treftadaeth
- Sectorau Hamdden a Thwristiaeth
- Ymchwil ac astudiaeth addysg bellach
- Gweithwyr addysgu ac addysgol proffesiynol