
Arweinyddiaeth Tân ac Achub (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae ein cwrs BA (Anrh) Arweinyddiaeth Tân ac Achub wedi’i gynllunio i gyflwyno myfyrwyr i’r proffesiwn tân ac achub, i brofi gweithio gyda gwasanaeth tân ac achub ac ennill sgiliau a mewnwelediad gwerthfawr i weithio o fewn sefydliad yn y sector cyhoeddus.
Fe’i datblygwyd ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (MAWWFRS) a hon yw’r rhaglen gyntaf o’i bath yn y DU.
A’r dysgu’n digwydd ar gampws PCYDDS Glannau Abertawe ac yng nghanolfan hyfforddi MaWWFRS yn Earlswood, ger Abertawe, ac mae gan y cwrs ymarferol hwn ffocws cryf ar ddysgu yn y byd go iawn.
Drwy gydol y cwrs, byddwch chi’n ymgymryd â lleoliadau hyfforddi ymarferol megis Canolfan Hyfforddi Gwasanaeth Tân Earlswood ger Abertawe, gan ymgymryd â hyfforddiant cadarn sy’n rhan o’r rhaglen hyfforddi genedlaethol i ddiffoddwyr tân. Yma, bydd gennych chi fynediad at hyfforddwyr a chyfleusterau arbenigol sydd fel arfer ar agor i staff y gwasanaeth tân yn unig. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’ch paratoi chi ar gyfer rolau arwain yn y gwasanaeth tân, eich paratoi chi â’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer rôl amser llawn.
Ar yr un pryd, byddwch chi’n dilyn fframwaith arweinyddiaeth y gwasanaeth tân yn yr ystafell ddosbarth, gan astudio meysydd gan gynnwys arweinyddiaeth, cydraddoldeb, llywodraeth, rheolaeth strategol, a dulliau ymchwil. Bydd y wybodaeth a’r sgiliau a gafwyd yma yn helpu i’ch paratoi chi ar gyfer swyddi arwain ar draws ystod o rolau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol.
O’r cychwyn cyntaf, byddwch chi hefyd yn cael y cyfle i ddod yn ddiffoddwr tân ar alwad â thâl am o leiaf un shifft yr wythnos. Byddwch chi’n rhan o dîm, yn ymateb i argyfyngau go iawn ac yn dysgu sut i gadw’n dawel o dan bwysau.
Mae’r radd hon yn gyfle unigryw i ennill profiad go iawn, adeiladu hyder, a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Ar y campws
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs gradd BA Arweinyddiaeth Tân ac Achub hwn yn ymarferol iawn, gan gydbwyso theori ac ymarfer Arweinyddiaeth gyda lleoliadau hyfforddi gwasanaeth tân cadarn.
Bydd gofyn i fyfyrwyr lwyddo’r broses recriwtio MAWWFRS ar gyfer swyddogion tân ar alwad sy’n cynnwys prawf ffitrwydd, prawf meddygol a fetio DBS. Gwneir hyn unwaith y bydd y myfyriwr wedi ennill ei gymwysterau lefel 3 ond cyn iddyn nhw allu cofrestru ar y cwrs hwn a bydd yn amod i’w gynnig i ymuno â’r cwrs hwn.
Efallai y bydd hi’n bosibl astudio rhai modylau ar y campws drwy gyfrwng y Gymraeg.
Lleoliad Ymarferol Tân ac Achub 1 (lefel 4, 60 credyd)
Yn y semester cyntaf, bydd myfyrwyr yn cael hyfforddiant lleoliad ymarferol i ddod yn swyddogion tân ar alwad mewn bloc pedair wythnos ac wedyn bydd disgwyl iddyn nhw weithio un shifft yr wythnos ar yr orsaf.
Bydd modylau ar y campws (i’w gadarnhau) yn cael eu cyflwyno ‘o gwmpas’ yr ymrwymiadau lleoliad.
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Staff
Ein Pobl
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
80-96 o Bwyntiau Tariff UCAS
Ae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Proses Recriwtio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr hefyd lwyddo’r broses recriwtio MAWWFRS ar gyfer swyddogion tân ar alwad sy’n cynnwys prawf ffitrwydd, prawf meddygol a fetio DBS.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
-
Mae’r cwrs hwn yn cyfuno lleoliadau a aseswyd yn ymarferol â MAWWFRS yn ogystal â dysgu ac asesu ar y campws.
-
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Bydd myfyrwyr yn cael eu talu am shifftiau Gwasanaeth Tân Ar Alwad. Disgwylir o leiaf 1 shifft yr wythnos yn rhan o’r cwrs hwn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
- Rolau’r Gwasanaeth Tân
- Rolau Gwasanaethau Cyhoeddus
- Rolau Arwain o fewn y sector Gwasanaethau Brys a Gwasanaethau Cyhoeddus.