Skip page header and navigation

Astudiaethau Rhyng-ffydd (Llawn amser) (PGDip)

Dysgu o Bell
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r cwrs PGDip Astudiaethau Rhyng-ffydd yn cynnig cyfle na ellir ei gael yn unman arall bron — cyfle i astudio nid yn unig natur fewnol ffydd a chredoau crefyddol ond hefyd y rhyngweithio rhyngddynt a’u perthynas â’i gilydd.

Y cydberthynas hwn sydd wedi dod yn gynyddol i liwio’r byd sydd ohoni, gyda lluoseddu cynyddol cymdeithas yn ffurfio tueddiadsylweddol mewn cymaint o ddeinameg cymdeithasol, gwleidyddol ac athronyddol sy’n rhan o’n cymdeithasau.

Mae’r cwrs PGDip Astudiaethau Rhyng-ffydd yn cynnig cyfle i astudio’n fanwl y cysylltiadau rhwng ffydd a chrefydd yn y byd sydd ohoni a sut mae tueddiadau hanesyddol, athronyddol, diwinyddol a chymdeithasol yn effeithio arnynt. Mae’n cynnig cydbwysedd rhwng astudiaeth fanwl o’r crefyddau eu hunain ac astudiaeth ehangach o’r agwedd gymdeithasol ar gred grefyddol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfle unigryw i astudio crefyddau a'u cydberthynas
02
Astudiwch gydag ysgolheigion arbenigol ym myd crefydd a diwinyddiaeth sy'n gwneud gwaith ymchwil yn y maes
03
Cyfle i gyfuno sawl ffurf o fethodoleg i ddeall materion gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol perthnasol yn well.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae nifer o wahanol feysydd damcaniaethol ac ymarferol yn sail i’r dysgu ar y cwrs PGDip Astudiaethau Rhyng-ffydd, gan gynnwys theori astudiaethau rhyng-ffydd a pherthynas rhyng-grefyddol, cyd-destunau daearyddol penodol, a themâu a safbwyntiau hanesyddol.


Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfuniad o asesiadau addysgu, gan gynnwys traethawd hir terfynol sy’n canolbwyntio ar bwnc o’ch dewis chi. 

Gorfodol

Dulliau ac Agweddau at Astudiaethau Rhyng-ffydd

Dewisol

Cysylltiadau Cristnogol-Mwslimaidd: Testunau'r Gorffennol a'r Presennol
Theori a Methodoleg wrth Astudio Crefyddau
Crefyddau Tsieina ar Lawr Gwlad
Y Traddodiad Deallusol Islamaidd: Datblygiadau Canoloesol, Modern a Chyfoes

(30 credydau)

Cyfarfyddiadau Rhyng-ffydd: Rhyngweithio Crefyddol mewn Byd Cymhleth
Profiad Crefyddol Heddiw
Cysylltiadau Iddewig-Gristnogol: Cyfarfodydd y Gorffennol a'r Presennol
Diwinyddiaeth Wleidyddol

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol. 

  • Mae nifer o wahanol feysydd damcaniaethol ac ymarferol yn sail i’r dysgu ar y cwrs PGdip Astudiaethau Rhyng-ffydd, gan gynnwys theori astudiaethau rhyng-ffydd a pherthynas rhyng-grefyddol, cyd-destunau daearyddol penodol, a themâu a safbwyntiau hanesyddol. Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfuniad o asesiadau addysgu, gan gynnwys traethawd hir terfynol sy’n canolbwyntio ar bwnc o’ch dewis chi. 

  • Dylai fod gan ddysgwyr o bell fynediad da i’r rhyngrwyd a defnydd o gyfleusterau cyfrifiadurol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd y rhaglen yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau sy’n werthfawr i ystod eang o gyflogwyr, fel y gallu i: 
    •    ddadansoddi gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol;
    •    cyflwyno dadleuon clir a chydlynol;
    •    cyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn modd eglur.


    Yn fwy penodol, bydd y rhaglen yn denu myfyrwyr sydd am fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, neu sydd eisoes mewn gwaith, mewn meysydd neu sectorau lle bydd dealltwriaeth o faterion rhyng-ffydd o fudd.


    Gall hyn gynnwys gweithwyr gwirfoddol, athrawon a hyfforddwyr, academyddion, asiantaethau a phrosiectau cymunedol a’r llywodraeth, rhwydweithiau rhyngddiwylliannol, aml-ffydd penodedig i feithrin cysylltiadau cymunedol, cynlluniau cymodi ac ailadeiladu gydag asiantaethau byd-eang amrywiol a chyrff sy’n lleddfu effeithiau trychineb.


    Bydd hefyd yn apelio at fyfyrwyr sy’n paratoi ar gyfer gwasanaeth crefyddol a/neu ddefosiynol, bywyd o wasanaeth cyhoeddus, ac amrywiol brosiectau gwirfoddol.
     

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau