Skip page header and navigation

Plismona (Arweinyddiaeth Weithredol a Strategol) (Rhan amser) (MSc)

Dysgu o Bell
36 Mis Rhan amser

Cynlluniwyd y cwrs hwn mewn ymgynghoriad â’r heddlu ar gyfer uwch swyddogion heddlu (mewn swydd) sy’n dymuno gwella eu gyrfa. Bydd PCYDDS yn defnyddio dull addysgu ar-lein/cyfunol i leihau’r amser y byddai angen i swyddogion ei gymryd oddi wrth eu dyletswyddau, sy’n nodwedd bwysig o’r cwrs hwn.

Bydd yr MSc yn galluogi uwch swyddogion i gael cydnabyddiaeth am addysg a phrofiad blaenorol a datblygu sgiliau uwch mewn arweinyddiaeth ar lefel weithredol a strategol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
36 Mis Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gallu cwblhau eich gradd Meistr wrth weithio'n llawn amser - beth bynnag fo'ch amserlen - gyda'n darpariaeth dysgu cyfunol hyblyg.
02
Ymgymryd â rhaglen cymhwyster uwch sydd wedi'i chynllunio ar gyfer y rhai sydd mewn rolau goruchwylio, rheoli ac arwain sydd eisiau datblygu eu dealltwriaeth a'u sgiliau beirniadol ymhellach.
03
Mae'r rhaglen yn defnyddio ac yn elwa o'r arbenigedd ar draws cyfadrannau eraill ein prifysgol, gan ganiatáu i chi fyfyrio ar eich dull unigol o arwain mewn amgylchedd cymhleth.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd MSc Plismona (arweinyddiaeth weithredol a strategol) wedi’i chynllunio ar ôl ymgynghori’n helaeth â Heddluoedd Cymru. Mae cyflwyno’r Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF) wedi sefydlu lefel mynediad gradd ar gyfer pob cwnstabl sy’n derbyn cymhwysedd galwedigaethol llawn. 

Nodwyd bod bwlch addysgol rhwng y rhengoedd erbyn hyn, gyda phob cwnstabl yn cyrraedd lefel gradd yn y pen draw, tra bod dim cymwysterau achrededig ffurfiol gan rai o’r Prif Arolygwyr, er eu bod yn gweithio ar lefel uchel o feddwl yn feirniadol.

Bydd yr MSc yn galluogi uwch swyddogion i gael cydnabyddiaeth am addysg a phrofiad blaenorol a datblygu sgiliau uwch mewn arweinyddiaeth ar lefel weithredol a strategol.

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddysgu ar-lein a dysgu cyfunol, a fydd yn caniatáu i swyddogion i ddilyn y cwrs wrth ddal i weithio a lleihau’r amser sydd angen iddynt dreulio o’u gwaith; mae hyn yn cyd-fynd ag anghenion yr heddlu a bydd hefyd yn dilyn y patrwm a osodwyd gan y brentisiaeth gradd yr ydym yn ei darparu gyda heddluoedd De Cymru a Gwent ar hyn o bryd.

Mae’r cwrs hefyd yn caniatáu i swyddogion wneud cais am gydnabod dysgu drwy brofiad blaenorol (RPEL) mewn perthynas â nifer o fodiwlau megis Arweinyddiaeth Weithredol, Llywodraethu Corfforaethol mewn Plismona, Rheolaeth Strategol mewn Plismona. Trwy ymgynghori â’r heddluoedd, mae hwn yn opsiwn deniadol gan ei fod yn cydnabod y wybodaeth a’r sgiliau y maent eisoes wedi’u meithrin yn ystod eu gyrfaoedd. 

Arweinyddiaeth Weithredol

(20 credydau)

Llywodraethu Corfforaethol mewn Plismona

(20 credydau)

Plismona a'r Dirwedd Wleidyddol

(20 credydau)

Materion Cyfoes mewn Plismona

(20 credydau)

Traethawd Hir Mewn Plismona

(60 credydau)

Rheolaeth Strategol mewn Plismona

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Dylai ymgeiswyr fod mewn swydd a bod ar lefel uwch swyddog.

  • Mae’r modiwlau a’r asesiadau wedi’u cynllunio ar y cyd gan dîm y rhaglen, i sicrhau eu bod yn ffurfio cyfanwaith cydlynol.  

    Prif bwrpas y cynllun asesu yw galluogi myfyrwyr i ddangos yn unigol eu bod wedi bodloni nodau’r rhaglenni ac wedi cyflawni’r deilliannau dysgu i’r safon sy’n ofynnol ar gyfer lefel yr astudiaeth. Bydd asesu hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adborth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo gyda dysgu dilynol. 

    Defnyddir ystod o ddulliau asesu crynodol, h.y., asesu sy’n cael ei fynegi mewn marciau sy’n cyfrif tuag at gyfrifo’r marc terfynol.  Mae gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol yn cael eu defnyddio i brofi gwybodaeth, ond maen nhw’n dueddol o ganolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol. 

    Mae dulliau o’r fath yn hynod briodol i natur y ddisgyblaeth blismona gan eu bod yn hwyluso asesu ac ymarfer dilys sy’n berthnasol i’r gweithle. Bydd gwaith cwrs a gwaith ymarferol yn cael eu gosod mewn amrywiaeth o ffurfiau. 

    Mae’r rhain yn cynnwys:

    • Traethodau
    • Adroddiadau
    • Portffolios
    • Prosiectau Ymchwil
  • Bydd gofyn i fyfyrwyr gael mynediad at offer TG er mwyn astudio’r cwrs hwn ar-lein.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd y cyfle i astudio ar lefel 7 ac ymgymryd ag ymchwil o fewn yr heddlu neu grŵp partneriaeth nid yn unig o fudd i’r unigolyn ond i staff eraill o fewn y sefydliad hefyd, gan fod rhywun sydd â lefel benodol o wybodaeth a dealltwriaeth mewn maes penodol yn ymchwilio i faes penodol ac yn canolbwyntio arno. 

Mwy o gyrsiau Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona

Chwiliwch am gyrsiau