Mae’r rhaglen yn annog myfyrwyr i archwilio’n fanwl ystod o bynciau yn ymwneud ag Islam a Mwslimiaid o safbwyntiau cyfoes a hanesyddol. Mae Astudiaethau Islamaidd yn ddisgyblaeth sydd wedi’i hen sefydlu yn y brifysgol, ac mae ein tîm academaidd wedi cyfrannu at y maes trwy gyhoeddiadau, ymchwil arbenigol, a chymryd rhan mewn cynadleddau rhyngwladol.
Mae’r cwrs MA yn cynnig profiad myfyriwr o ansawdd uchel sy’n addas ar gyfer y rhai sy’n gweithio o fewn — neu’n gysylltiedig â— chymunedau Mwslimaidd, mewn cyd-destunau lleiafrifol a mwyafrifol, yn enwedig y rhai sy’n dymuno datblygu gwell dealltwriaeth o’r bobl, y diwylliannau a’r safbwyntiau crefyddol y maent yn ymwneud â hwy.
Mae’r cwrs Islam yn y Byd Modern (MA) yn archwilio themâu arwyddocaol sy’n ymwneud ag Islam a Mwslimiaid mewn cyd-destunau amrywiol, gyda darlithoedd manwl a thrafodaethau tiwtorial. Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfuniad o asesiadau addysgu, gan gynnwys traethawd hir terfynol sy’n canolbwyntio ar bwnc sy’n adlewyrchu eich diddordebau ym maes Astudiaethau Islamaidd.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd myfyrwyr yn astudio pedwar modiwl a addysgir yn ystod eu blwyddyn gyntaf (llawn-amser) neu ddwy flynedd (rhan-amser), cyn symud ymlaen i Ran II i ysgrifennu eu traethawd hir.
Mae’r cwrs Islam yn y Byd Modern (MA) yn archwilio themâu arwyddocaol sy’n ymwneud ag Islam a Mwslimiaid mewn cyd-destunau amrywiol, gyda darlithoedd manwl a thrafodaethau tiwtorial. Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfuniad o asesiadau addysgu, gan gynnwys traethawd hir terfynol sy’n canolbwyntio ar bwnc sy’n adlewyrchu eich diddordebau ym maes Astudiaethau Islamaidd.
Gorfodol
(30 credydau)
Dewisol
(30 credydau)
Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd (2:1 neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol.
-
Mae’r cwrs Islam yn y Byd Modern (MA) yn archwilio themâu arwyddocaol sy’n ymwneud ag Islam a Mwslimiaid mewn cyd-destunau amrywiol, gyda darlithoedd manwl a thrafodaethau tiwtorial. Caiff hyn ei gyflawni trwy gyfuniad o asesiadau addysgu, gan gynnwys traethawd hir terfynol sy’n canolbwyntio ar bwnc sy’n adlewyrchu eich diddordebau ym maes Astudiaethau Islamaidd.
-
Dylai fod gan ddysgwyr o bell fynediad da i’r rhyngrwyd a defnydd o gyfleusterau cyfrifiadurol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Cynlluniwyd y rhaglen i ddenu myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau cyffredinol yn ogystal â’u sgiliau sy’n benodol i’r pwnc. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar symud ymlaen i weithio ar lefel 7 yn eu maes astudio arbenigol ac yn helpu i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym myd addysg, y weinidogaeth ac ymchwil.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus rhagorol i athrawon ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfa, gweinidogion sydd â gofal bugeiliol ar hyn o bryd sy’n ceisio datblygiad proffesiynol pellach a phobl eraill sydd â diddordeb. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn apelio at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio oherwydd diddordeb personol neu ymrwymiad i’w ffydd.